大象传媒

Defnyddio dy laisYmarferion t么n y llais

Ystyria yr holl elfennau lleisiol sydd ar gael i ti eu defnyddio. Meddylia am acen a natur dy gymeriad, a'r math o berfformiad sydd ei angen. Gallai ymarfer a gwella dy ynganiad a dy anadlu.

Part of DramaSgiliau perfformio

Ymarferion t么n y llais

Ymarfera ddweud y llinell hon gan ddefnyddio鈥檙 t么n lleisiol sy鈥檔 cael ei awgrymu.

Pam ddest di yma?

  • T么n llais chwerw
  • T么n llais gyhuddgar
  • T么n llais ofnus
  • T么n llais ddig
  • T么n llais chwilfrydig
  • T么n llais syn

Traw

Dyma pa mor uchel neu isel ydy t么n y llais. Er enghraifft, pan fydd rhywun yn gyffrous neu鈥檔 nerfus gallai鈥檙 traw godi. Os ydy rhywun yn ceisio rheoli emosiwn neu fynegi rhywbeth difrifol neu gyfrinachol gallai ddefnyddio traw isel.

Ymarfera ddefnyddio ystod o nodau yn dy lais er mwyn i鈥檙 llais fod yn hyblyg a mynegiannol. Monoton ydy鈥檙 gair am lais sydd ar un nodyn yn barhaus ac oni bai fod hyn yn benderfyniad bwriadol ar gyfer y cymeriad, gall fod yn ddiflas gwrando arno.

Ymarferion cwmpas y llais

Rho gynnig ar yr ymarferion canlynol ar gyfer cwmpas y llais.

Graddfa lithro

Dechreua ar nodyn isel a llithra dy lais i fyny鈥檙 raddfa gerddorol mor bell ag y gall fynd. Yna gwna鈥檙 un peth o chwith. Bydd ymarfer y dechneg hon yn rheolaidd yn helpu i ehangu dy lais ar y ddau ben.

Ymarfer canu 鈥榯echneg Hustler鈥

Mae hyn ar gyfer ymestyn ac yna ymlacio tannau鈥檙 llais, sy鈥檔 arwain at gwmpas ehangach o draw. Ddylet ti ddim gwneud yr ymarfer hwn oni bai dy fod yn cael dy oruchwylio gan arbenigwr oherwydd gallai roi straen ar dannau dy lais os wyt ti鈥檔 ei wneud yn anghywir.

Darlunio tannau dy lais

Ceisia ddychmygu tannau dy lais yng nghefn dy wddf - dylet ti allu eu teimlo鈥檔 tynhau wrth i ti siarad. Gydag anadl gyson anadla allan dros dannau鈥檙 llais gydag anadl isel sy鈥檔 cael ei gynnal er mwyn iddyn nhw ddirgrynu. Byddi di鈥檔 gwneud sain sy鈥檔 swnio fel rhoch angau. Ymarfera reoli cyflymder ac amledd y dirgryniadau fel bod y rhoch yn 鈥榗licio鈥 ar wahanol gyflymder.

Mae hyn yn dda iawn ar gyfer llacio tannau dy lais ac mae鈥檔 gallu gwella llais blinedig. Nawr gwna鈥檙 gwrthwyneb gan dynnu鈥檙 aer i mewn a thros blygion dy lais. Dylet ti wneud sain yn debyg i ddeinosor. Tynna鈥檙 aer yn 么l dros dannau dy lais mor dynn ac y galli di fel bod y sain yn mynd yn uwch. Mae hyn yn tynhau鈥檙 tannau a gall helpu i ehangu cwmpas dy lais ar y pen uchaf. Bydd yn ofalus bob amser i beidio 芒 rhoi straen ar dy lais a gorffenna gyda鈥檙 ymarfer cyntaf unwaith eto i ganiat谩u i鈥檙 tannau llais ymlacio鈥檔 么l.

Related links