Arbrisiant, dibrisiant ac adlog 鈥 haenau canolradd ac uwch
Pan fydd gwerth yn arbrisio, bydd yn cynyddu yn ei werth. Os yw鈥檔 dibrisio, mae鈥檔 lleihau yn ei werth.
Wrth gyfrifo adlog, mae鈥檔 bwysig i ti ddeall bod y llog a enillir yn cael ei ychwanegu ar ddiwedd y flwyddyn. Y flwyddyn nesaf, bydd y llog yn cael ei gyfrifo ar y swm newydd hwn. Mae hyn yn golygu y bydd y gwerth yn uwch ar gychwyn y flwyddyn ganlynol ac felly bydd y llog a enillir hefyd yn fwy.
Enghraifft
Mae Frederick yn buddsoddi 拢400 yn ei gyfrif cynilo, gyda鈥檙 llog yn cael ei dalu ar 2% y flwyddyn i mewn i鈥檙 un cyfrif. Cyfrifa faint sydd ganddo ar 么l tair blynedd.
Ateb 1
Dechrau blwyddyn 1: 拢400.
拢400 梅 100 脳 2 = 拢8 o log.
Dechrau blwyddyn 2: 拢400 + 拢8 = 拢408.
拢408 梅 100 脳 2 = 拢8.16 o log.
Dechrau blwyddyn 3: 拢408 + 拢8.16 = 拢416.16.
拢416.16 梅 100 脳 2 = 拢8.3232 o log = 拢8.32 (i'r geiniog agosaf).
Ar ddiwedd y tair blynedd, mae gan Frederick 拢416.16 + 拢8.32 = 拢424.48.
Ateb 2
Ar ddiwedd bob blwyddyn, bydd gan Frederick 100% + 2% = 102% o鈥檙 hyn oedd ganddo ar ddechrau鈥檙 flwyddyn. Drwy ganfod 102% o鈥檙 gwerth, nid oes raid i ni ychwanegu鈥檙 llog drwy鈥檙 amser.
拢400 梅 100 脳 102 = 拢408.
拢408 梅 100 脳 102 = 拢416.16.
拢416.16 梅 100 脳 102 = 拢424.4832 = 拢424.48 (i'r geiniog agosaf).
Ateb 3
Gan fod y gwerth ar ddiwedd y flwyddyn yn 102% o鈥檙 gwerth ar ddechrau鈥檙 flwyddyn, gallwn gynrychioli hyn trwy ddefnyddio鈥檙 lluosydd 1.02.
I ganfod y gwerth ar 么l tair blynedd o adlog, gallwn gyfrifo 400 脳 1.023 = 拢424.4832 = 拢424.48 (i'r geiniog agosaf).
Mae鈥檙 dull hwn yn hynod o ddefnyddiol pan fyddwn eisiau cyfrifo鈥檙 llog ar 么l nifer fawr o flynyddoedd.
Enghraifft
Mae car newydd yn cael ei brynu am 拢45,000. Bob blwyddyn, mae鈥檔 dibrisio 12.5%. Cyfrifa beth fydd ei werth ar 么l dwy flynedd.
Ateb 1
Blwyddyn 1: 拢45,000.
拢45,000 梅 100 脳 12.5 = 拢5,625 o ddibrisiant.
Blwyddyn 2: 拢45,000 - 拢5,625 = 拢39,375.
拢39,375 梅 100 脳 12.5 = 拢4,921.875 o ddibrisiant.
Diwedd blwyddyn 2:
拢39,375 - 拢4,921.875 = 拢34,453.125 = 拢34,453.13 (i'r geiniog agosaf).
Ateb 2
Mae鈥檙 car yn colli 12.5% o鈥檌 werth, felly ar ddiwedd y flwyddyn mae ei werth yn 100% - 12.5% = 87.5%.
Fel lluosydd, mae hyn yn 87.5 梅 100 = 0.875.
I ganfod y gwerth ar 么l dwy flynedd o ddibrisiant, gallwn gyfrifo:
拢45,000 脳 0.8752 = 拢34,453.125 = 拢34,453.13 (i'r geiniog agosaf).
Question
Mae project bridio鈥檔 cael ei sefydlu, gan gychwyn gyda 20 pysgodyn. Maen nhw鈥檔 bridio ar gyfradd o 35% y flwyddyn. Faint o bysgod sydd yna ar 么l chwe blynedd? (Rho dy ateb i鈥檙 rhif cyfan agosaf.)
121.0689028 = 121 (i鈥檙 rhif cyfan agosaf).
20 脳 1.356
Neu wedi ei gyfrifo trwy ailadrodd cynnydd canrannol dro ar 么l tro.
Question
Os yw poblogaeth ynys yn 26,000 ac mae鈥檔 lleihau ar gyfradd o 1% y flwyddyn, faint o bobl fydd yna ar 么l 20 mlynedd? Rho dy ateb i鈥檙 rhif cyfan agosaf.
21,266
1% o leihad = 100% - 1% = 99% = 0.99
26,000 脳 0.9920 = 21,265.58038
neu
21,266 i鈥檙 rhif cyfan agosaf.