Rhifau ciwb
Mae rhifau ciwb yn cael eu creu drwy luosi rhif ag ef ei hun dair gwaith.
Er enghraifft:
\({2}\) wedi ei giwbio ydy \({2}\times{2}\times{2} = {8}\)
\({3}\) wedi ei giwbio ydy \({3}\times{3}\times{3} = {27}\)
\({4}\) wedi ei giwbio ydy \({4}\times{4}\times{4} = {64}\)
Mae鈥檔 bosib cyfleu pob rhif ciwb fel ciwb wedi ei ffurfio o giwbiau uned.
Question
Defnyddia dy gyfrifiannell i ganfod y chwe rhif ciwb nesaf (o \({5}\) ymlaen).
\({125} = {5}\times{5}\times{5}\)
\({216} = {6}\times{6}\times{6},\) ayyb.
Felly dyma鈥檙 chwe rhif ciwb nesaf:
\({125},~{216},~{343},~{512},~{729}\) a \({1,000}\)