Patrymau rhif mewn diagramau
Yn aml, os wyt ti am ddarganfod y rheol ar gyfer patrwm rhif mewn diagram, bydd angen i ti gyfrif siapiau. Eto, edrycha ar y ffordd mae鈥檙 patrwm yn tyfu o un term i鈥檙 nesaf.
Enghraifft:
- Ym mhatrwm \({1}\) mae \({0}\) teilsen borffor a \({3}\) teilsen las, felly \({3}\) teilsen i gyd
- Ym mhatrwm \({2}\) mae \({1}\) deilsen borffor a \({5}\) teilsen las, felly \({6}\) teilsen i gyd
- Ym mhatrwm \({3}\) mae \({2}\) deilsen borffor a \({7}\) teilsen las, felly \({9}\) teilsen i gyd
Question
Ar sail y patrymau rhif uchod, llunia batrwm \({4}\).
Ym mhatrwm \({4}\) mae \({3}\) teilsen borffor a \({9}\) teilsen las, felly \({12}\) teilsen i gyd.
Question
Edrycha eto ar y patrymau rhif uchod. Ysgrifenna鈥檙 rheol a鈥檙 \({4}^{ydd}\) term ar gyfer:
a) teils porffor
b) teils glas
c) y teils i gyd
a) Y rheol ar gyfer patrwm rhif y teils porffor ydy 'adio \({1}\)' a鈥檙 \({4}^{ydd}\) term ydy \({3}\).
b) Y rheol ar gyfer patrwm rhif y teils glas ydy 'adio \({2}\)' a鈥檙 \({4}^{ydd}\) term ydy \({9}\).
c) Y rheol ar gyfer patrwm rhif y teils i gyd ydy 'adio \({3}\)' a鈥檙 \({4}^{ydd}\) term ydy \({12}\).