ý

Helaethiadau/Siapiau tebyg – Canolradd ac UwchSiapiau tebyg

Mae ffactorau graddfa’n sicrhau bod siâp yn aros yn yr un cyfraneddau pan fo’r maint yn newid. Gall hyn fod yn bwysig wrth newid maint llun i wneud yn siŵr nad yw’r ddelwedd yn cael ei haflunio.

Part of Mathemateg RhifeddGeometreg a Mesur

Siapiau tebyg

Dywedwn fod dau siâp yn debyg os ydyn nhw union yr un siâp, ond bod eu maint yn wahanol.

Mae graddio pob hyd ar y siâp gwreiddiol yn gallu creu siâp tebyg. Mae hyn yn golygu eu bod wedi eu helaethu neu eu byrhau yn yr un cyfraneddau. Galwn hyn yn ffactor graddfa.

Question

Pa rai o’r siapiau canlynol sy’n debyg?

Wyth siâp â labeli A i F. Ciwb yw A, cylch yw B, saeth yw C, petryal yw Ch, petryal yw D, ciwb yw Dd, cylch yw E, a saeth yw F