ý

Helaethiadau/Siapiau tebyg – Canolradd ac UwchHelaethu gan ddefnyddio hyd

Mae ffactorau graddfa’n sicrhau bod siâp yn aros yn yr un cyfraneddau pan fo’r maint yn newid. Gall hyn fod yn bwysig wrth newid maint llun i wneud yn siŵr nad yw’r ddelwedd yn cael ei haflunio.

Part of Mathemateg RhifeddGeometreg a Mesur

Helaethu gan ddefnyddio hyd

Gallwn ganfod siapiau tebyg trwy luosi hyd siâp â’r ffactor graddfa;

Dau betryal. Un 4 cm wrth 2 cm, y llall 8 cm wrth 4 cm

Hyd newydd = hyd gwreiddiol × ffactor graddfa.

Helaethiad yn ôl ffactor graddfa o 2

4 cm × 2 = 8 cm

2 cm × 2 = 4 cm

Dau betryal. Un 4 cm wrth 2 cm, y llall 2 cm wrth 1 cm

Helaethiad yn ôl ffactor graddfa o ½

4 cm × ½ = 2 cm

2 cm × ½ = 1 cm

Question

zg2rwxs

Mae triongl a sylfaen 3 m ac uchder 2 m yn cael ei helaethu drwy ddefnyddio ffactor graddfa o 5.

Beth yw dimensiynau newydd y triongl?

Gan wybod bod siâp wedi ei helaethu, gallwn gyfrifo’r ffactor graddfa.

Rydyn ni’n cyfrifo’r hyd newydd gan ddefnyddio’r fformiwla:

Hen hyd × ffactor graddfa = hyd newydd

Gallwn ad-drefnu’r fformiwla hon i ganfod:

Ffactor graddfa = hyd newydd ÷ hen hyd

Question

Canfydda ffactor graddfa’r siapiau tebyg hyn.

Dau siâp L. Uchder un yw 6 mm, a'r sylfaen yn 5 mm, uchder y llall yw 15 mm

Question

Mae blychau matsis yn cael eu gwerthu mewn tri gwahanol faint, sef bach, canolig a mawr.

Tri blwch matsis â labeli 'bach', 'canolig', a 'mawr'. Mae'r blwch matsis bach yn mesur 1 cm wrth 3 cm wrth 4 cm. Mae'r blwch matsis mawr yn mesur 3.5 cm wrth 10.5 cm wrth 14 cm.

Mae’r blwch canolig yn helaethiad o’r blwch bach, gan ddefnyddio ffactor graddfa o 2.

  1. Beth yw dimensiynau’r blwch canolig?
  2. Helaethiad pa ffactor graddfa yw’r blwch mawr o’r blwch bach?
  3. Helaethiad pa ffactor graddfa yw’r blwch mawr o’r blwch canolig?