Helaethiadau/Siapiau tebyg – Canolradd ac UwchPerimedr, arwynebedd a chyfaint [Uwch]
Mae ffactorau graddfa’n sicrhau bod siâp yn aros yn yr un cyfraneddau pan fo’r maint yn newid. Gall hyn fod yn bwysig wrth newid maint llun i wneud yn siŵr nad yw’r ddelwedd yn cael ei haflunio.
Perimedr, arwynebedd a chyfaint – haen uwch yn unig
Pan fyddwn ni’n helaethu siâp yn ôl ffactor graddfa, mae hyd bob ymyl a’r perimedr yn cael eu lluosi â’r ffactor graddfa.
Pan fyddwn ni’n helaethu siâp yn ôl ffactor graddfa, mae arwynebedd y siâp yn cael ei luosi â’r ffactor graddfa wedi ei sgwario.
Pan fyddwn ni’n helaethu siâp yn ôl ffactor graddfa, mae cyfaint y siâp yn cael ei luosi â chiwb y ffactor graddfa.
Question
Arwynebedd dau boster tebyg yw 24 cm2 a 384 cm2. Os yw perimedr y poster llai yn 20 cm, cyfrifa berimedr y poster mwy.
Ffactor graddfa ar gyfer arwynebedd = arwynebedd newydd ÷ hen arwynebedd = 384 ÷ 24 = 16.
Arwynebedd yw’r ffactor graddfa wedi ei sgwario, felly rhaid i ni ganfod ail isradd 16.
√16 = 4
Ffactor graddfa ar gyfer hyd = 4.
Perimedr y poster mwy = 20 × 4 = 80 cm.
Question
Mae dau danc tebyg yn cael eu llenwi â dŵr. Mae cynhwysedd un yn 30 m3, a chynhwysedd y llall yn 240 cm3.
Cyfrifa’r ffactor graddfa ar gyfer hyd y tanciau a’r ffactor graddfa ar gyfer yr arwynebedd arwyneb.
Ffactor graddfa ar gyfer cyfaint = 240 ÷ 30 = 8.
Cyfaint yw’r ffactor graddfa wedi ei giwbio, felly rhaid i ni ganfod trydydd isradd 8.