Graddfa tebygolrwydd
Disgrifio tebygolrwydd
Yn aml byddwn ni鈥檔 ffurfio barn ynghylch a fydd rhywbeth yn digwydd, ac yn defnyddio geiriau i ddisgrifio pa mor debygol ydy'r digwyddiad. Er enghraifft, gallen ni ddweud ei bod yn debygol y bydd yr haul yn codi yfory, neu ei bod yn amhosib dod o hyd i rywun sydd dros \({3}~{m}\) o daldra.
Graddfa tebygolrwydd
Mae mathemateg yn defnyddio rhifau i ddisgrifio tebygolrwydd. Gallwn ni ysgrifennu tebygolrwydd ar ffurf ffracsiynau, degolion neu ganrannau. Gelli di hefyd ddefnyddio graddfa tebygolrwydd, yn dechrau ar \({0}\) (amhosib) ac yn gorffen ar \({1}\) (sicr).
Dyma ddigwyddiadau wedi eu gosod ar raddfa tebygolrwydd.