大象传媒

TebygolrwyddCanfod tebygolrwydd

Mathemateg siawns ydy tebygolrwydd. Rhif ydy tebygolrwydd sy鈥檔 dweud wrthot ti pa mor debygol y mae rhywbeth o ddigwydd. Gallwn ni ysgrifennu tebygolrwydd ar ffurf ffracsiwn, degolyn neu ganran.

Part of MathemategTebygolrwydd

Canfod tebygolrwydd

Pan fyddi di鈥檔 taflu dis, mae chwe chanlyniad posib. Gall y dis ddangos naill ai \({1},~{2},~{3},~{4},~{5}\) neu \({6}\).

Ond sawl ffordd bosib sydd yna o gael eilrif? Mae tri phosibilrwydd: \({2},~{4}\) a \({6}\).

Y tebygolrwydd o gael eilrif ydy \(\frac{3}{6}\) \((=\frac{1}{2}\) neu \({0.5}\) neu \({50}\%)\).

Question

Sawl canlyniad sydd yna i鈥檙 arbrofion canlynol? Rhestra bob canlyniad posib ar eu cyfer.

a) Taflu ceiniog

b) Dewis losinen o fag sy鈥檔 cynnwys \({1}\) losinen goch, \({1}\) las, \({1}\) wen ac \({1}\) ddu.

c) Dewis diwrnod o鈥檙 wythnos ar hap.

Question

Mae Angharad yn ysgrifennu llythrennau鈥檙 gair 鈥楳ATHEMATEG鈥 ar gardiau ar wah芒n (cofia mai un llythyren ydy TH) ac yn eu rhoi nhw mewn bag. Wedyn mae hi鈥檔 tynnu cerdyn allan ar hap.

Diagram yn dangos ysgrifennu llythrennau Mathemateg ar gardiau ar wah芒n

Beth ydy鈥檙 tebygolrwydd y bydd Angharad yn dewis y llythyren A?

More guides on this topic