Arolygon tebygolrwydd
Mae tebygolrwydd wedi ei seilio鈥檔 aml ar arolygon os nad ydy鈥檔 bosib cyfrifo tebygolrwydd fel arall. Yn yr achosion hyn rwyt ti鈥檔 cael mesur mwy cywir o debygolrwydd wrth seilio dy gyfrifiad ar nifer fawr o ganlyniadau.
Question
Mae Aled yn llunio adroddiad ar gyfer ei bapur lleol. Testun ei erthygl ydy 鈥榞wyliau鈥.
Fel rhan o鈥檌 adroddiad mae鈥檔 penderfynu holi \({10}\) o鈥檌 ffrindiau a oes yn well ganddyn nhw wyliau carafanio neu wyliau gwersylla. Mae \({7}\) o鈥檙 \({10}\) yn dweud bod yn well ganddyn nhw garafanio, felly mae Aled yn ysgrifennu鈥檙 pennawd dramatig sydd i鈥檞 weld uchod.
Beth sydd o鈥檌 le gyda dull Aled?
Mae Aled wedi seilio鈥檌 debygolrwydd ar arolwg bach iawn. Mae hyn yr un fath 芒 thaflu dis \({10}\) gwaith, a thaflu \({6}\) saith gwaith drwy lwc, a dweud mai tebygolrwydd cael \({6}\) ydy \(\frac{7}{10}\)! Er mwyn amcangyfrif tebygolrwydd o ganlyniadau arolwg, rhaid i ti gasglu nifer fawr o ganlyniadau.