Cilometrau i filltiroedd
Yn y DU, rydyn ni'n tueddu mesur pellterau mawr mewn milltiroedd, a phellterau llai mewn metrau. Cyn y gallwn ni ddeall sut i drosi rhwng yr unedau hyn, yn gyntaf mae'n rhaid i ni ddeall y gwahaniaethau rhwng centimetrau, metrau a chilometrau.
Mae metr yn uned fetrig safonol o hyd sy'n gallu cael ei haddasu trwy ddefnyddio rhagddodiad metrig fel mili, centi neu gilo. Gellir defnyddio'r rhagddodiaid hyn yn achos unrhyw uned fetrig a dylet ti eu hadnabod o fywyd bob dydd.
Cilo
Mae'r rhagddodiad cilo yn golygu 1,000 neu 103 mewn ffurf safonol. Felly cilometr yw 1,000 m, cilogram yw 1,000 g a chilowat yw 1,000 W.
Centi
Mae'r rhagddodiad centi yn golygu 0.01, 10-2 neu ganfed. Centimetr yw 0.01 metr a chentilitr yw 0.01L.
Mili
Mae'r rhagddodiad mili yn golygu milfed, 0.001 neu 10-3.
Efallai dy fod wedi sylwi bod yr holl ragddodiaid metrig yn bwerau 10, ond mae yna 12 modfedd mewn troedfedd a 5,280 troedfedd mewn milltir! Dyma'r rheswm pam y mabwysiadwyd y system fetrig yn lle'r hen system imperial o fesuriadau.
Metrig | Imperial |
centimetrau | modfeddi |
metrau | troedfeddi |
cilometrau | milltiroedd |
Metrig | centimetrau |
---|---|
Imperial | modfeddi |
Metrig | metrau |
---|---|
Imperial | troedfeddi |
Metrig | cilometrau |
---|---|
Imperial | milltiroedd |
Question
Trosa 43 cm i fetrau.
1 m = 100 cm.
43 梅 100 = 0.43.
Felly 43 cm = 0.43 m.
Question
Trosa 3.4 m i filimetrau.
1 m = 1,000 mm.
3.4 脳 1,000 = 3,400.
Felly 3.4 m = 3,400 mm.
Mae yna ddwy ffordd i drosi rhwng milltiroedd a chilometrau - trosi union a throsi bras.
1 milltir = 1.6093.44 km neu 1 km = 0.6213712 milltir.
I frasamcanu'r gwerth hwn, gallwn ni ddweud bod \(1~milltir = \frac {8} {5}~{km}\). Oherwydd bod y brasamcan hwn yn agos iawn at y gwir werth, mae'n cael ei ddefnyddio'n aml.
I drosi o filltiroedd i gilometrau, yn gyntaf byddi di'n lluosi ag 8 yna'n rhannu 芒 5.
\({milltiroedd}~\rightarrow~\times{8}~\rightarrow~\div{5}~\rightarrow~{cilometrau}\)
I drosi o gilometrau i filltiroedd, byddi di'n gwneud y gwrthwyneb 鈥 lluosi 芒 5 yna rhannu ag 8.
\({cilometrau}~\rightarrow~\times{5}~\rightarrow~\div{8}~\rightarrow~{milltiroedd}\)
Nid oes angen i ti gofio'r union drosiad, ond bydd disgwyl i ti wybod y brasamcan.
Question
Trosa 24 km i filltiroedd gan ddefnyddio trosi bras a throsi union. Ni ddylet ti ddefnyddio cyfrifiannell i wneud y brasamcan.
24 脳 0.6213712 = 14.91.
24 km yw 14.91 milltir (i ddau le degol).
24 脳 5 = 120.
120 梅 8 = 15.
24 km yw 15 milltir yn fras.
Question
Oddeutu sawl km sydd mewn 35 milltir?
35 梅 5 = 7.
7 脳 8 = 56.
35 milltir yw 56 cilometr yn fras.