Mae'r rhan fwyaf ohonom ni'n gwybod bod can o ddiod feddal yn 330 ml a bod potel fawr o laeth yn dal 4 peint, ond sut ydyn ni'n newid rhwng y ddau faint hyn?
Mae dealltwriaeth o'r trosiad hwn yn werthfawr iawn ym mywyd bob dydd, oherwydd yn y DU rydyn ni'n tueddu i ddefnyddio mesuriadau imperial a metrig pan fyddwn ni'n siarad am gynhwysedd.
Mae disgwyl i ti wybod bod 1 litr yn 1.75 peint yn fras. Dylet ti hefyd fod yn ymwybodol bod 8 peint mewn galwyn neu 4.5 litr yn fras
Question
Mae Jim yn gwerthu diodydd mewn digwyddiad elusennol lleol. Mae wedi dod 芒 10 litr o lemon锚d efo fo ac mae'n bwriadu gweini'r diodydd mewn gwydrau hanner peint. Yn fras, faint o ddiodydd lemon锚d bydd e'n gallu gwerthu?
Yn gyntaf, trosa litrau i beintiau:
10 脳 1.75 = 17.5.
Mae un peint yn gwneud dau wydr, felly lluosa 芒 dau:
17.5 脳 2 = 35.
Bydd Jim yn gallu gwerthu 35 diod lemon锚d.
Question
Mae Fiona yn siopa am gar newydd ac yn dod o hyd i un sy'n gallu mynd 54 milltir fesul galwyn o betrol. Os yw litr o betrol yn costio 拢1.20, faint fyddai'r gost iddi fesul milltir?
1 galwyn = 4.5 litr.
Gellir teithio 54 milltir ar 4.5 litr o danwydd.
54 梅 4.5 = 12.
Mae hi'n gallu teithio 12 milltir fesul litr o danwydd.