大象传媒

FfracsiynauRhifau cymysg a ffracsiynau pendrwm

Mae ffracsiynau鈥檔 cynrychioli rhan o rif cyfan. Gall ffracsiynau, degolion a chanrannau i gyd rannu鈥檙 un gwerthoedd ac fe allai fod yn ddefnyddiol gwybod sut i drosi rhyngddyn nhw.

Part of MathemategFfracsiynau

Rhifau cymysg a ffracsiynau pendrwm

Diagram yn dangos 4 cylch llawn (1/1, 2/2, 3/3, 4/4) yn egluro ffracsiynau

Gallwn ni ysgrifennu rhif cyfan fel \(\frac{2}{2}\), \(\frac{3}{3}\), \(\frac{4}{4}\), ac ati.

Felly gallwn ni ysgrifennu \({1}\frac{2}{3}\) fel

\(\frac{3}{3} + \frac{2}{3} = \frac{5}{3}\)

Rhifau cymysg

Mae \({1}\frac{2}{3}\) yn cael ei alw鈥檔 rhif cymysg, am ei fod yn cynnwys rhif cyfan a ffracsiwn.

Ffracsiynau pendrwm

Mae \(\frac{5}{3}\) yn cael ei alw鈥檔 ffracsiwn pendrwm, am fod y rhif ar y top yn fwy na鈥檙 rhif ar y gwaelod.

Trosi o rif cymysg i ffracsiwn pendrwm

Gelli di ysgrifennu鈥檙 rhan sy鈥檔 rhif cyfan ar ffurf ffracsiwn, wedyn adio鈥檙 ffracsiynau 芒鈥檌 gilydd.

\({1}\frac{2}{3} = \frac{3}{3} + \frac{2}{3} = \frac{5}{3}\)

Dyma enghraifft arall:

\({2}\frac{1}{4} = {1} + {1} + \frac{1}{4} = \frac{4}{4} + \frac{4}{4} + \frac{1}{4} = \frac{9}{4}\)

Trosi o ffracsiynau pendrwm i rifau cymysg

Gelli di wahanu鈥檙 ffracsiwn yn ffracsiynau llai, fel hyn:

\(\frac{17}{5}= \frac{5}{5} + \frac{5}{5} + \frac{5}{5} + \frac{2}{5} = {3} \frac{2}{5}\)

Ffordd arall o drosi ffracsiwn pendrwm ydy canfod sawl rhif cyfan rwyt ti鈥檔 ei gael drwy rannu.

Er enghraifft, beth am drosi \(\frac{17}{5}\) yn rhif cymysg eto.

Rydyn ni鈥檔 dechrau drwy rannu鈥檙 rhif top 芒鈥檙 rhif gwaelod.

Mae \({17}\) wedi ei rannu 芒 \({5}\) yn rhoi \({3}\) gweddill \({2}\).

Felly \({3}\) ydy鈥檙 rhif cyfan, ac mae鈥檙 gweddill \({2}\) yn golygu bod \(\frac{2}{5}\) dros ben.

Felly yr ateb ydy \(\frac{17}{5} = {3}\frac{2}{5}\).

Question

Ysgrifenna \(\frac{20}{7}\) fel rhif cymysg.

Defnyddio cyfrifiannell

Os oes gan dy gyfrifiannell fotwm ffracsiwn gelli di ddefnyddio hwnnw i drosi o ffracsiynau pendrwm i rifau cymysg. Teipia鈥檙 ffracsiwn pendrwm i mewn, gwasga =, a bydd y gyfrifiannell yn ei drosi鈥檔 rhif cymysg.

Esiampl o fotwm ffracsiynau ar gyfrifiannell