大象传媒

FfracsiynauTrefnu ffracsiynau

Mae ffracsiynau鈥檔 cynrychioli rhan o rif cyfan. Gall ffracsiynau, degolion a chanrannau i gyd rannu鈥檙 un gwerthoedd ac fe allai fod yn ddefnyddiol gwybod sut i drosi rhyngddyn nhw.

Part of MathemategFfracsiynau

Trefnu ffracsiynau

Pa ffracsiwn ydy鈥檙 mwyaf, \(\frac{3}{4}\) neu \(\frac{5}{7}\)?

Mae鈥檔 anodd ateb y cwestiwn hwn dim ond drwy edrych ar y ffracsiynau. Ond os wyt ti鈥檔 ysgrifennu鈥檙 ffracsiynau gyda鈥檙 un rhif ar y gwaelod, bydd y cwestiwn yn hawdd.

Enwadur \(\frac{3}{4}\) ydy \({4}\), ac enwadur \(\frac{5}{7}\) ydy \({7}\).

Mae \({4}\) a \({7}\) yn rhannu i mewn i \({28}\), felly gelli di ailysgrifennu鈥檙 ffracsiynau gyda \({28}\) yn enwadur.

\(\frac{3}{4}= \frac{21}{28}\)

\(\frac{5}{7}= \frac{20}{28}\)

Diagram i gymharu 3/4 a 5/7 - sef 21/28 a 20/28

Mae鈥檔 hawdd gweld bod \(\frac{21}{28}\) yn fwy na \(\frac{20}{28}\).

Felly mae \(\frac{3}{4}\) yn fwy na \(\frac{5}{7}\).