Adio a thynnu ffracsiynau
Mae鈥檔 anodd gweld beth fyddai鈥檙 ateb o adio \(\frac{1}{2}\) ac \(\frac{1}{3}\). Wrth ailysgrifennu鈥檙 ffracsiynau gyda rhif cyffredin ar y gwaelod (sef \({6}\) yn yr achos hwn) mae鈥檔 haws gweld yr ateb.
Felly, i adio neu dynnu ffracsiynau:
- Newidia鈥檙 ffracsiynau fel bod yr un rhif ganddyn nhw ar y gwaelod.
- Wedyn gelli di adio neu dynnu鈥檙 rhifau top.
Enghraifft
\(\frac{1}{2} + \frac{1}{3} = \frac{3}{6} + \frac{2}{6} = \frac{5}{6}\)
\(\frac{7}{10} - \frac{2}{5} = \frac{7}{10} - \frac{4}{10} = \frac{3}{10}\)
Question
Beth ydy \(\frac{1}{4} + \frac{1}{3} =~?\)
\(\frac{1}{4} + \frac{1}{3}= \frac{3}{12} + \frac{4}{12} = \frac{7}{12}\)
Rhifau cymysg
I adio rhifau cymysg, mae fel arfer yn haws trin y rhifau cyfan a鈥檙 ffracsiynau ar wah芒n:
Felly:
\({3}\frac{1}{3}+{4}\frac{1}{2}={7}+ \frac{1}{3}+\frac{1}{2} = {7}+\frac{2}{6}+\frac{3}{6}={7}\frac{5}{6}\)
Question
Cyfrifa \({6}\frac{4}{5}+{2}\frac{3}{10}\)
\({6}\frac{4}{5}+{2}\frac{3}{10}={8}+ \frac{4}{5}+\frac{3}{10} ={8}+\frac{8}{10}+\frac{3}{10}={8}\frac{11}{10}={9}\frac{1}{10}\)
Sylwa fod angen un cam ychwanegol yma gan fod \(\frac{11}{10}\) yn ffracsiwn pendrwm.
Gallwn ni dynnu yn yr un ffordd: \({3}\frac{4}{5}-{2}\frac{3}{10}={1}+\frac{4}{5}-\frac{3}{10} ={1}+\frac{8}{10}-\frac{3}{10}={1}\frac{5}{10}={1}\frac{1}{2}\)
Ond rhaid bod yn barod ar gyfer enghreifftiau ychydig mwy cymhleth:
\({4}\frac{1}{6}-{2}\frac{2}{3}={2}+ \frac{1}{6}-\frac{2}{3}={2}+\frac{1}{6}-\frac{4}{6}\)
Nawr rhaid ysgrifennu un o'r unedau fel ffracsiwn gyda \({6}\) ar y gwaelod:
\(={1}+\frac{6}{6}+\frac{1}{6}-\frac{4}{6}={1}\frac{3}{6}={1}\frac{1}{2}\)
Dull arall o adio a thynnu rhifau cymysg ydy eu newid yn ffracsiynau pendrwm:
\({3}\frac{1}{3}+{4}\frac{1}{2}=\frac{10}{3}+\frac{9}{2}=\frac{20}{6}+\frac{27}{6}=\frac{47}{6}= {7}\frac{5}{6}\)
Question
Cyfrifa \({5}\frac{3}{8}-{3}\frac{3}{4}\)
\({5}\frac{3}{8}-{3}\frac{3}{4}={2}+ \frac{3}{8}-\frac{3}{4} ={2}+\frac{3}{8}-\frac{6}{8}={1}+\frac{8}{8}+\frac{3}{8}-\frac{6}{8}={1}\frac{5}{8}\)
Neu \({5}\frac{3}{8}-{3}\frac{3}{4}=\frac{43}{8}-\frac{15}{4}=\frac{43}{8}-\frac{30}{8}=\frac{13}{8}={1}\frac{5}{8}\)