大象传媒

FfracsiynauLluosi a rhannu ffracsiynau

Mae ffracsiynau鈥檔 cynrychioli rhan o rif cyfan. Gall ffracsiynau, degolion a chanrannau i gyd rannu鈥檙 un gwerthoedd ac fe allai fod yn ddefnyddiol gwybod sut i drosi rhyngddyn nhw.

Part of MathemategFfracsiynau

Lluosi a rhannu ffracsiynau

Lluosi ffracsiynau

\(\frac{1}{2}~o~\frac{1}{2} = \frac{1}{2}\times\frac{1}{2} = \frac{1}{4}\)

\(\frac{2}{3}~o~\frac{4}{5} = \frac{2}{3}\times\frac{4}{5} = \frac{8}{15}\)

Lluosa鈥檙 rhifau top a gwaelod ac wedyn symleiddia lle mae angen.

Weithiau gallwn ni ganslo 鈥 mae hyn yn digwydd bob tro rhwng y top a'r gwaelod:

Diagram i ddangos sut i luosi ffracsiynau

Question

Cyfrifa \({\frac{3}{4}\times\frac{2}{5}}\)

Rhannu ffracsiynau

Wrth rannu \({10}\) 芒 \({2}\), rwyt ti鈥檔 cyfrifo sawl \({2}\) sydd mewn \({10}\).

\({10}\div{2} = {5}\), felly mae pum \({2}\) mewn \({10}\).

Yn yr un modd, wrth rannu \({2}\) 芒 \(\frac{1}{2}\), rwyt ti鈥檔 cyfrifo sawl \(\frac{1}{2}\) sydd mewn \({2}\).

Mae pedwar \(\frac{1}{2}\) mewn \({2}\), felly \({2}\div\frac{1}{2} = {4}\).

Os wyt ti鈥檔 rhannu \({1}\frac{1}{2}\) 芒 \(\frac{1}{4}\) rwyt ti鈥檔 cyfrifo sawl \(\frac{1}{4}\) sydd mewn \({1}\frac{1}{2}\).

Mae chwe \(\frac{1}{4}\) mewn \({1}\frac{1}{2}\), felly \({1}\frac{1}{2}\div\frac{1}{4} = {6}\).

Wyt ti鈥檔 gweld patrwm? Beth am ysgrifennu鈥檙 cyfrifiadau hynny mewn ffordd wahanol.

\({2}\div\frac{1}{2}= {4}\) felly mae \({2}\div\frac{1}{2}\) yr un fath 芒 \({2}\times{2}\)

\({1}\frac{1}{2}\div\frac{1}{4} = \frac{3}{2}\div\frac{1}{4} = {6}\)

Felly mae \(\frac{3}{2}\div\frac{1}{4}\) yr un fath 芒 \(\frac{3}{2}\times{4} = \frac{12}{2} = {6}\)

I rannu ffracsiynau, tro鈥檙 ail ffracsiwn 芒鈥檌 ben i waered, wedyn lluosa.

Question

Cyfrifa \(\frac{3}{4}\div\frac{4}{5}\)