大象传媒

Hafaliadau llinellauCyfesurynnau yn y 4 pedrant

Edrycha sut i blotio ym mhedwar pedrant graff a sut i lunio llinellau syth. Gallwn gasglu gwybodaeth am raddiant a safle鈥檙 llinellau, er enghraifft, a ydyn nhw鈥檔 baralel neu berpendicwlar ai peidio.

Part of MathemategAlgebra

Cyfesurynnau yn y 4 pedrant

Cyfesurynnau yw鈥檙 rhifau sy鈥檔 cael eu defnyddio i gynrychioli pwynt penodol ar graff. Maen nhw鈥檔 cael eu hysgrifennu fel \(\text{(x,~y)}\), lle mae鈥檙 rhif cyntaf yn cynrychioli鈥檙 safle i鈥檙 chwith neu i鈥檙 dde ar yr echelin-\(\text{x}\), ac mae鈥檙 ail rif yn cynrychioli鈥檙 safle i fyny neu i lawr ar yr echelin-\(\text{y}\).

Enghraifft

Graff gwasgariad gyda phwynt x2,y1 wedi ei labelu 芒 P.

Cyfesurynnau pwynt P yw \(\text{(2,~1)}\) gan ei fod wedi symud 2 i鈥檙 dde ac 1 i fyny.

Pa bwynt sydd 芒 chyfesurynnau \(\text{(-3,~4)}\)? Cofia fynd i鈥檙 chwith neu i鈥檙 dde ar gyfer y rhif cyntaf, yna i fyny neu i lawr ar gyfer yr ail rif.

Graff gwasgariad gyda phwyntiau wedi eu labelu ag E, T, N, P, J, R, O, A, B, L.

Y pwynt yn \(\text{(-3,~4)}\) yw N.

Question

Gan ddefnyddio鈥檙 grid uchod, pa air mae鈥檙 cyfesurynnau hyn yn ei sillafu?

\(\text{(-2,~0)}\), \(\text{(2,~7)}\), \(\text{(-7,~-5)}\), \(\text{(-3,~4)}\), \(\text{(-5,~-7)}\)