大象传媒

Hafaliadau llinellauy = mx + c

Edrycha sut i blotio ym mhedwar pedrant graff a sut i lunio llinellau syth. Gallwn gasglu gwybodaeth am raddiant a safle鈥檙 llinellau, er enghraifft, a ydyn nhw鈥檔 baralel neu berpendicwlar ai peidio.

Part of MathemategAlgebra

y = mx + c

Os cawn ni hafaliad y llinell yn hytrach na鈥檙 graff, mae鈥檔 dal yn bosib i ni ganfod y graddiant.

Yn y ffurf hon y cawn ni hafaliad llinell syth:

Hafaliad llinell syth y = mx + c lle mae m yn cynrychioli graddiant y llinell ac c yw rhyngdoriad y llinell ar yr echelin-y.

\(\text{y = 2x - 1}\)

Mae鈥檙 graddiant yn 2 a bydd y graff yn croesi鈥檙 echelin-\(\text{y}\) yn -1.

\(\text{y = -4x + 5}\)

Mae鈥檙 graddiant yn -4 a bydd y graff yn croesi鈥檙 echelin-\(\text{y}\) yn 5.

Gallwn ddefnyddio hwn hefyd i bennu hafaliad graff llinell syth.

Enghraifft

Mae angen i ni wybod y graddiant a鈥檙 \(\text{y}\) er mwyn canfod hafaliad y llinell.

Graff gyda llinell yn dangos yr hafaliad y = 3x + 1.

Graddiant = 3 梅 1 = 3

rhyngdoriad \(\text{y}\) = 1

Felly, hafaliad y llinell yw \(\text{y = 3x + 1}\)

Question

Beth yw hafaliad y llinell hon?

Graff yn dangos yr hafaliad y = 2x - 3.