Meintiau a phellteroedd yn y gofod
Rydyn ni鈥檔 mesur diamedrau planedau mewn metrau a chilometrau.
Rydyn ni鈥檔 mesur pellteroedd rhwng y planedau a鈥檙 Haul mewn US (Unedau Seryddol).
1 US yw鈥檙 pellter cyfartalog rhwng y Ddaear a鈥檙 Haul ac mae oddeutu 150,000,000 km (neu 1.5 脳 1011 m).
Edrych ar y diagram hwn. Os wyt ti鈥檔 cynnau鈥檙 tortsh, bydd y golau ohono鈥檔 teithio 9,460,730,472,580,800 metr (naw mil pedwar cant chwe deg triliwn, saith cant tri deg biliwn, pedwar cant saith deg dau miliwn, pum cant wyth deg mil, wyth cant) mewn blwyddyn. Rydyn ni鈥檔 galw鈥檙 pellter hwn yn blwyddyn golauY pellter sy'n cael ei deithio gan olau mewn un flwyddyn. Mae'n bellter mawr. Gan amlaf, mae'n cael ei ddefnyddio i nodi'r pellter rhwng s锚r..
- Un flwyddyn golau yw鈥檙 pellter mae golau鈥檔 ei deithio mewn un flwyddyn.
- Mae buanedd golau, a phob ton electromagnetig arall, yn 300,000,000 m/s (neu 3 脳 108 m/s) mewn gofod. Dyma fuanedd golau.
I gyfrifo pellter un flwyddyn golau mewn metrau mae angen lluosi:
365 diwrnod (un flwyddyn) 脳
24 awr (un diwrnod) 脳
60 munud (un awr) 脳
60 eiliad (un munud) 脳
300,000,000 m/s (buanedd golau yn y gofod).
Mae hyn i gyd yn rhoi 9.46 脳 1015 m.
O鈥檙 Ddaear i - | Pellter |
Y Lleuad | 1.3 eiliad golau |
Yr Haul | 8.3 munud golau |
Alpha Centauri | 4.4 blwyddyn golau |
Hercules Globular (M 13) | 25,000 blwyddyn golau |
Galaeth Andromeda | 2.5 miliwn blwyddyn golau |
O鈥檙 Ddaear i - | Y Lleuad |
---|---|
Pellter | 1.3 eiliad golau |
O鈥檙 Ddaear i - | Yr Haul |
---|---|
Pellter | 8.3 munud golau |
O鈥檙 Ddaear i - | Alpha Centauri |
---|---|
Pellter | 4.4 blwyddyn golau |
O鈥檙 Ddaear i - | Hercules Globular (M 13) |
---|---|
Pellter | 25,000 blwyddyn golau |
O鈥檙 Ddaear i - | Galaeth Andromeda |
---|---|
Pellter | 2.5 miliwn blwyddyn golau |
Question
Mae Alpha Centauri 4.4 blwyddyn golau oddi wrthyn ni. Alli di gyfrifo鈥檙 pellter hwn mewn metrau?
4.4 bg 脳 9.46 脳 1015 m/bg = 4.16 脳 1016 m
Question
Mae Galaeth Andromeda 2.5 miliwn blwyddyn golau oddi wrth y Ddaear. Pa mor hir mae鈥檔 ei gymryd i olau o鈥檙 alaeth hon gyrraedd y Ddaear?
2.5 miliwn o flynyddoedd.
Question
Mae鈥檔 cymryd 1.3 eiliad i olau laser sydd wedi鈥檌 danio o鈥檙 Ddaear i daro鈥檙 Lleuad. Pa mor bell i ffwrdd yw鈥檙 Lleuad?
\(\text{pellter =}{\text{~buanedd}}\times{\text{amser}}\)
= 3 脳 108 m/s 脳 1.3 eiliad
= 3.9 脳 108 m