大象传媒

Damcaniaeth ginetigGwasgedd

Dysgu am ddamcaniaeth ginetig, sy'n cynnwys defnyddio'r graddfeydd Celsius a Kelvin, y berthynas rhwng gwasgedd, tymheredd a chyfaint nwy, a newidiadau egni pan mae newidiadau cyflwr yn digwydd.

Part of FfisegTrydan, egni a thonnau

Gwasgedd

Gwasgedd yw'r grym ar bob uned arwynebedd.

Mae hyn yn golygu mai'r gwasgedd mae gwrthrych solid yn ei roi ar arwyneb solid arall yw ei bwysau mewn wedi'i rannu 芒'i arwynebedd mewn metrau sgw芒r.

\(\text{gwasgedd}=\frac{\text{grym}}{\text{arwynebedd}}\)

\(\text{p}=\frac{\text{F}}{\text{a}}\)

Yn y talfyriad hwn mae:

  • F yn cynrychioli grym, sy鈥檔 cael ei fesur men newtonau
  • a yn cynrychioli arwynebedd, sy鈥檔 cael ei fesur mewn m2
  • p yn cynrychioli gwasgedd, sy鈥檔 cael ei fesur mewn pascalau
  • 1 pascal = 1 N/m2

Rydyn ni鈥檔 defnyddio鈥檙 hafaliad hwn i gyfrifo arwynebedd.

\(\text{arwynebedd} = {\text{hyd}}\times{\text{lled}}\)

Mae hyd a lled yn cael ei fesur mewn metrau.

Question

Mae grym 20 N yn gweithredu dros arwynebedd 2 m2. Beth yw鈥檙 gwasgedd?

I gynyddu'r gwasgedd, mae angen cynyddu'r grym neu leihau'r arwynebedd mae'r grym yn gweithredu arno. I dorri dy ginio, galli di naill ai bwyso'n galetach ar dy gyllell neu ddefnyddio un fwy miniog (mae gan gyllyll mwy miniog lai o arwynebedd arwyneb ar ymyl dorri'r llafn).

I leihau'r gwasgedd, mae angen lleihau'r grym neu gynyddu'r arwynebedd mae'r grym yn gweithredu arno. Pe baet ti'n sefyll ar lyn sydd wedi rhewi a bod yr i芒 yn dechrau cracio, gallet ti orwedd i lawr i gynyddu'r arwynebedd sydd mewn cysylltiad 芒'r i芒. Byddai鈥檙 un grym ar yr i芒 (dy bwysau), ond wedi'i wasgaru dros arwynebedd mwy, felly byddai'r gwasgedd yn llai. Mae esgidiau eira'n gweithio yr un fath.