大象传媒

Damcaniaeth ginetigYmddygiad nwyon

Dysgu am ddamcaniaeth ginetig, sy'n cynnwys defnyddio'r graddfeydd Celsius a Kelvin, y berthynas rhwng gwasgedd, tymheredd a chyfaint nwy, a newidiadau egni pan mae newidiadau cyflwr yn digwydd.

Part of FfisegTrydan, egni a thonnau

Ymddygiad nwyon

Deddf Charles

Mae Deddf Charles yn datgan, os yw nwy'n cael ei wresogi heb i'r gwasgedd newid, y bydd y cyfaint yn newid. Felly, ar gyfer m脿s sefydlog o nwy ar wasgedd cyson, bydd cyfaint 梅 tymheredd yn aros yr un fath.

Deddf Boyle

Mae deddf Boyle yn datgan, ar gyfer nwy ar dymheredd cyson, bod gwasgedd 脳 cyfaint hefyd yn gyson. Felly, mae cynyddu'r gwasgedd yn golygu y bydd y cyfaint yn cynyddu cyn belled 芒 bod y tymheredd yn aros yn gyson.

Beth sy鈥檔 digwydd os ydyn ni'n newid tymheredd cyfaint sefydlog o nwy?

  • Pan mae'r tymheredd yn cynyddu, mae gronynnau'r nwy'n symud yn gyflymach ac mae'r gwrthdrawiadau'n mynd yn galetach ac yn digwydd yn amlach. Mae hyn yn golygu bod y gwasgedd hefyd yn cynyddu.
  • Pan mae'r tymheredd yn lleihau, mae gronynnau'r nwy'n symud yn arafach ac mae'r gwrthdrawiadau'n mynd yn llai caled ac yn digwydd yn llai aml. Mae hyn yn golygu bod y gwasgedd hefyd yn lleihau.

Yn y pen draw ar sero absoliwt, sef -273掳C, mae'r moleciwlau'n stopio symud a dydy'r nwy ddim yn rhoi dim gwasgedd o gwbl. Rydyn ni鈥檔 galw鈥檙 tymheredd hwn yn sero absoliwt, sef y tymheredd oeraf posibl.

Mae egni cinetig cyfartalog y gronynnau mewn nwy mewn cyfrannedd union 芒 thymheredd y nwy.