大象传媒

Damcaniaeth ginetigGraddfeydd tymheredd

Dysgu am ddamcaniaeth ginetig, sy'n cynnwys defnyddio'r graddfeydd Celsius a Kelvin, y berthynas rhwng gwasgedd, tymheredd a chyfaint nwy, a newidiadau egni pan mae newidiadau cyflwr yn digwydd.

Part of FfisegTrydan, egni a thonnau

Graddfeydd tymheredd

Y mesur tymheredd mwyaf cyffredin yw'r raddfa Celsius. Unedau'r raddfa hon yw graddau Celsius (掳C). Cafodd y raddfa hon ei llunio i gyfeirio at rewbwynt (0掳C) a berwbwynt (100掳C) d诺r.

Does dim terfyn uchaf, ond y tymheredd isaf posibl yw -273掳C. Ar y tymheredd hwn, mae bron bob mater yn solid ac mae dirgryniad gronynnau'n anhygoel o fach. Sero absoliwt yw'r tymheredd oeraf posibl. Ar sero absoliwt, mae'r holl ronynnau mewn sylwedd yn stopio symud. Does ganddyn nhw ddim egni ar 么l i'w golli, felly dydy'r sylwedd ddim yn gallu mynd yn oerach.

Mae llawer o wyddonwyr yn defnyddio'r raddfa Kelvin yn ei lle.

Mae graddfa Kelvin yn dechrau ar sero absoliwt ac felly does dim rhifau minws yn y raddfa sy'n gwneud cyfrifiadau'n symlach. Yr unedau yw Kelvin (K). Mae cynnydd un radd Celsius yr un fath ag un Kelvin.

Trawsnewid rhwng y graddfeydd:

  • tymheredd mewn graddau Celsius (掳C) = tymheredd mewn Kelvin - 273
  • tymheredd mewn Kelvin = tymheredd mewn graddau Celsius (掳C) + 273
Diagram yn cymharu graddfeydd tymheredd Kelvin a Celsius. Mae 373 Kelvin yr un fath 芒 100 Celsius. Mae 273 Kelvin yr un fath 芒 0 Celsius. Mae 0 Kelvin yr un fath 芒 -273 Celsius.

Er mwyn i ni allu mesur tymheredd yn hawdd, mae angen pwyntiau sefydlog. Dau bwynt sefydlog cyffredin yw ymdoddbwynt a berwbwynt d诺r. Mae鈥檙 rhain yn 0掳C a 100掳C yn 么l eu trefn.

Thermomedrau sy'n mesur tymheredd. Mae'r hylif (fel arfer mercwri neu alcohol 芒 lliw) yn ehangu wrth gael ei wresogi, sy'n golygu ei fod yn codi i fyny'r gwydr i ddangos tymheredd uwch.