大象传媒

Damcaniaeth ginetigTrosglwyddo gwres i newid cyflwr

Dysgu am ddamcaniaeth ginetig, sy'n cynnwys defnyddio'r graddfeydd Celsius a Kelvin, y berthynas rhwng gwasgedd, tymheredd a chyfaint nwy, a newidiadau egni pan mae newidiadau cyflwr yn digwydd.

Part of FfisegTrydan, egni a thonnau

Trosglwyddo gwres i newid cyflwr

Cromlin gwresogi yw graff sy'n dangos tymheredd sylwedd wedi'i blotio yn erbyn faint o egni mae wedi'i amsugno. Efallai y gweli di gromlin oeri hefyd, sy'n deillio o sylwedd sy'n oeri ac yn newid cyflwr.

Graff yn dangos y gromlin wres ar gyfer i芒 lle mae tymheredd (Celsius) wedi鈥檌 blotio  yn erbyn y gwres sy鈥檔 cael ei amsugno (Joules). Mae wedi鈥檌 labelu 芒 ymdoddi, berwi, nwy, hylif, solid.
Figure caption,
Cromlin gwresogi ar gyfer i芒

Mae'r tymheredd yn aros yr un fath wrth i solid ymdoddi neu wrth i hylif ferwi yn ystod newid cyflwr, er bod yn cael ei amsugno.

Mae鈥檙 tymheredd hefyd yn aros yr un fath wrth i hylif rewi, er bod egni gwres yn dal i gael ei ryddhau i'r amgylchoedd.

Mae gwres cudd sbesiffig sylwedd yn ffordd o fesur faint o egni gwres sydd ei angen i'w doddi neu ei ferwi. Hwn yw'r egni sydd ei angen i doddi neu ferwi 1 kg o'r sylwedd.

Mae gan wahanol sylweddau wahanol wres cudd sbesiffig. Mae gwres cudd sbesiffig sylwedd penodol yn wahanol ar gyfer berwi ac ymdoddi. Mae鈥檙 tabl yn dangos rhai enghreifftiau:

SylweddYmdoddi (kJ/kg)Berwi (kJ/kg)
顿诺谤3342260
Plwm23871
Ocsigen13.9213
Sylwedd顿诺谤
Ymdoddi (kJ/kg)334
Berwi (kJ/kg)2260
SylweddPlwm
Ymdoddi (kJ/kg)23
Berwi (kJ/kg)871
SylweddOcsigen
Ymdoddi (kJ/kg)13.9
Berwi (kJ/kg)213

Ymchwilio i wres cudd

Gallwn ni ganfod gwres cudd d诺r yn y ffordd hon.

  1. Defnyddio gwresogydd trydanol i doddi i芒 am rai munudau.
  2. Cyfrifo'r egni trydanol sydd wedi'i ddefnyddio drwy luosi p诺er y gwresogydd ag amser.
  3. Cofnodi 尘脿蝉 y d诺r sydd wedi ymdoddi a chyfrifo'r berthynas rhwng mewnbwn egni a
  4. Yna, canfod faint o wres sydd ei angen i newid un cilogram o i芒 (y gwres cudd).

Dyma'r hafaliad sy'n rhoi'r berthynas rhwng egni a gwres cudd sbesiffig.

Q = m 脳 L

Mae'n debygol y bydd dy werthoedd yn agos i'r rhai yn y tabl uchod, ond ddim yn union yr un fath. Mae'r gwahaniaethau rhwng dy werth di a'r rhai yn y tabl yn debygol o fod oherwydd colledion egni i'r ystafell lle roeddet ti'n gweithio.

Gallwn ni ganfod gwres cudd st锚m gan ddefnyddio calorimedr a generadur st锚m.

Mae gwres cudd toddi weithiau鈥檔 cael ei alw wrth yr enw gwres cudd ymdoddi. Hefyd, weithiau鈥檙 enw sy鈥檔 cael ei ddefnyddio am wres cudd berwi yw gwres cudd anweddu.