Mae daeargrynfeydd yn cynhyrchu tonnau seismig. Gallwn ni ddefnyddio seismograffau i ganfod y tonnau hyn. Mae rhai tonnau seismig yn donnau arwyneb, ac mae rhai eraill yn gallu teithio drwy'r Ddaear.
Gallwn ni ddefnyddio cofnodion seismig i ganfod lleoliad uwchganolbwyntY pwynt ar arwyneb y Ddaear sydd yn union uwchben canolbwynt daeargryn. y daeargryn. Gallwn ni ddefnyddio鈥檙 oediad amser rhwng ton P a thon S yn cyrraedd yr orsaf seismomedr i ganfod pellter yr uwchganolbwynt oddi wrth yr orsaf.
O wybod yr oediad amser rhwng y tonnau, byddwn ni鈥檔 gwybod y pellter, ond nid y cyfeiriad. Bydd hyn yn rhoi pellter y daeargryn oddi wrth yr orsaf, ond nid y cyfeiriad.
Gallwn ni ddefnyddio gwybodaeth o dair gorsaf i leoli uwchganolbwynt y daeargryn.