大象传媒

Englynion

Mae englynion yn hawdd eu hadnabod am eu bod yn edrych yn wahanol i benillion arferol.

Edrycha ar yr enghraifft isod o englyn unodl union Dic Jones Delyth (fy merch) yn ddeunaw oed:

Diagram i arddangos strwythur englyn unodl union.

Sut mae adnabod englyn unodl union?

  • Mae englyn yn cael ei rannu鈥檔 ddwy.
  • Paladr yw鈥檙 enw ar y ddwy linell gyntaf.
  • Esgyll yw鈥檙 enw ar y ddwy linell olaf.
  • Ceir pedair llinell o gynghanedd.
  • Mae deg yn y llinell gyntaf, chwe sillaf yn yr ail linell, saith sillaf yn y drydedd linell a saith sillaf yn y llinell olaf.
  • Un prif odl sydd - cyn y gwant ac ar ddiwedd pob llinell arall.

Beth yw effaith y gynghanedd yn y gerdd hon?

NodweddDyfyniadEffaith
Cynghanedd鈥淒eunaw oed yn ei hyder, - deunaw oed / Yn ei holl ysblander, / Dy ddeunaw oed boed yn b锚r, / Yn baradwys ddibryder.鈥Mae鈥檙 gynghanedd yn effeithiol yma am fod Dic Jones wedi ysgrifennu鈥檙 gerdd hon i鈥檞 ferch ar achlysur ei phen-blwydd yn ddeunaw. Mae鈥檙 gofal y mae wedi ei gymryd dros lunio cerdd gaeth fel hon yn pwysleisio pwysigrwydd yr achlysur i鈥檙 bardd a鈥檙 berthynas agos sydd rhyngddyn nhw.
NodweddCynghanedd
Dyfyniad鈥淒eunaw oed yn ei hyder, - deunaw oed / Yn ei holl ysblander, / Dy ddeunaw oed boed yn b锚r, / Yn baradwys ddibryder.鈥
EffaithMae鈥檙 gynghanedd yn effeithiol yma am fod Dic Jones wedi ysgrifennu鈥檙 gerdd hon i鈥檞 ferch ar achlysur ei phen-blwydd yn ddeunaw. Mae鈥檙 gofal y mae wedi ei gymryd dros lunio cerdd gaeth fel hon yn pwysleisio pwysigrwydd yr achlysur i鈥檙 bardd a鈥檙 berthynas agos sydd rhyngddyn nhw.