大象传媒

Englyn penfyr

Mae'n bosib adnabod englynion penfyr gan eu bod yn edrych yn debyg i englynion unodl union. Yr unig wahaniaeth yw mai tair llinell sydd mewn englyn penfyr.

Edrycha ar yr enghraifft isod o gerdd Aneirin Karadog Gweld y Gorwel:

Diagram i arddangos strwythur englyn penfyr.

Sut mae adnabod englyn penfyr?

  • Mae gwant yn y llinell gyntaf.
  • Ceir tair llinell o gynghanedd.
  • Ceir deg sillaf yn y llinell gyntaf, chwe sillaf yn yr ail linell a saith sillaf yn y llinell olaf - yr union yr un peth ag englyn unodl union.
  • Un prif odl sydd - cyn y gwant ac ar ddiwedd pob llinell arall.

Beth yw effaith y gynghanedd yn y gerdd hon?

NodweddDyfyniadEffaith
Cynghanedd鈥渊苍 rehab, bod yw鈥檙 rheol - bod drwy鈥檙 dydd, / bod drwy鈥檙 daith hunanol / wna鈥檙 druggie鈥檔 dod o鈥檌 rigol.鈥Mae鈥檙 mesur yn addas ar gyfer y gerdd hon oherwydd mae caethiwed mesur yr englyn penfyr yn cyfleu caethiwed dyddiol y druggie yn rehab ond hefyd ei frwydr i dorri鈥檔 rhydd o grafangau cyffuriau.
NodweddCynghanedd
Dyfyniad鈥渊苍 rehab, bod yw鈥檙 rheol - bod drwy鈥檙 dydd, / bod drwy鈥檙 daith hunanol / wna鈥檙 druggie鈥檔 dod o鈥檌 rigol.鈥
EffaithMae鈥檙 mesur yn addas ar gyfer y gerdd hon oherwydd mae caethiwed mesur yr englyn penfyr yn cyfleu caethiwed dyddiol y druggie yn rehab ond hefyd ei frwydr i dorri鈥檔 rhydd o grafangau cyffuriau.