大象传媒

Cynhyrchu trydanY Grid Cenedlaethol

Mae trydan yn ffynhonnell egni gyfleus a gallwn ni gynhyrchu trydan mewn nifer o wahanol ffyrdd, gan ddefnyddio naill ai tanwyddau ffosil neu dechnolegau adnewyddadwy a chynaliadwy.

Part of FfisegTrydan, egni a thonnau

Y Grid Cenedlaethol

Mae trydan yn cael ei ddosbarthu o orsafoedd trydan i ddefnyddwyr drwy鈥檙 Grid Cenedlaethol, sy鈥檔 ein galluogi ni i ddefnyddio gorsafoedd trydan pell. Mae hefyd yn ein galluogi ni i ddefnyddio cymysgedd o wahanol ffynonellau egni yn effeithlon i gyflenwi trydan y wlad, beth bynnag yw鈥檙 galw lleol.

Mae鈥檙 Grid Cenedlaethol yn sicrhau cyflenwad trydan dibynadwy. Os yw un orsaf drydan yn torri i lawr, mae鈥檙 grid yn dal i gyflenwi trydan o鈥檙 gorsafoedd eraill yn y grid. Mae鈥檙 Grid Cenedlaethol hefyd yn ymateb i鈥檙 galw am drydan 鈥 gan gyflenwi mwy ar adegau prysur.

Prif nodweddion

Mae鈥檙 diagram hwn yn dangos prif nodweddion y Grid Cenedlaethol.

Diagram yn dangos prif nodweddion y Grid Cenedlaethol. Mae'n dangos gorsaf drydan, newidyddion codi, llinellau trawsyrru foltedd uchel, newidyddion gostwng, a chartref.

Mae gorsafoedd trydan yn cynhyrchu trydan ar 25,000 V. Mae newidyddion codi yn newid y foltedd i鈥檙 gwerthoedd uchel iawn sydd eu hangen i drosglwyddo trydan ar hyd llinellau p诺er y Grid Cenedlaethol. Mae trydan yn cael ei anfon drwy鈥檙 rhain ar 400,000 V, 275,000 V neu 132,000 V. Mae foltedd trydan mewn cartrefi tua 230 V.

Gallwn ni ddefnyddio鈥檙 hafaliad hwn i gyfrifo p诺er trydanol.

\(\text{p诺er = }{\text{cerrynt}}\times{\text{foltedd}}\)

Question

Mae gorsaf drydan yn cynhyrchu 3 脳 109 W o b诺er 芒 cherrynt o 4 脳 104 A. Cyfrifa鈥檙 foltedd sy鈥檔 cael ei gynhyrchu.

Question

Mae鈥檙 newidydd yn cynyddu鈥檙 foltedd o ffactor o 6. Beth yw鈥檙 cerrynt allbwn? Tybia fod effeithlonrwydd y newidydd yn 100%.