Tanwyddau ffosil
Mae tanwyddau ffosil yn cynnwys glo, olew a nwy naturiol. Fe gawson nhw eu ffurfio o weddillion organebBod byw yw organeb - planhigyn, anifail, ffwng neu bacteriwm. byw miliynau o flynyddoedd yn 么l ac maen nhw鈥檔 rhyddhau egni gwres wrth gael eu llosgi. Maen nhw鈥檔 anadnewyddadwy. Mae egni cemegolMath o egni sy鈥檔 cael ei storio. Mae鈥檔 cael ei gymryd i mewn pan mae bondiau cemegol yn torri, ac yn cael ei roi allan pan mae bondiau cemegol yn cael eu ffurfio. yn cael ei storio ynddyn nhw.
Mae tua thri chwarter y trydan sy鈥檔 cael ei gynhyrchu yn y DU yn dod o orsafoedd p诺er sy鈥檔 defnyddio tanwyddau ffosil. Mae鈥檙 diagram hwn yn dangos trosglwyddiad egni ar gyfer cynhyrchu trydan o danwydd ffosil. Yn yr achos hwn, glo.
Manteision defnyddio tanwyddau ffosil
- Ar hyn o bryd, mae tanwyddau ffosil yn gymharol rad ac mae鈥檔 hawdd dod o hyd iddyn nhw. Mae鈥檔 bosibl na fydd hyn yn parhau am byth gan fod tanwydd ffosil yn adnodd y mae pen draw iddo.
- Mae llawer o鈥檔 hisadeiledd wedi ei gynllunio i ddefnyddio tanwyddau ffosil.
Anfanteision defnyddio tanwyddau ffosil
- Mae tanwyddau ffosil yn adnoddau egni anadnewyddadwy. Mae eu cyflenwad yn gyfyngedig a byddan nhw鈥檔 dod i ben yn y pen draw tra bod modd adnewyddu tanwyddau megis pren yn gyson.
- Mae glo ac olew yn rhyddhau nwy sylffwr deuocsid wrth losgi ac yn cyfrannu at law asid.
- Mae tanwyddau ffosil yn rhyddhau carbon deuocsid wrth losgi sy鈥檔 ychwanegu at yr effaith t欧 gwydr ac yn cynyddu cynhesu byd-eangY cynnydd yn nhymheredd cyfartalog arwyneb y Ddaear.. Ar gyfer swm penodol o egni sy鈥檔 cael ei ryddhau gan y tri thanwydd ffosil, glo sy鈥檔 cynhyrchu鈥檙 mwyaf o garbon deuocsid a nwy naturiol sy鈥檔 cynhyrchu鈥檙 lleiaf o garbon deuocsid.
Dal carbon
Mae dal a storio carbon yn ffordd o atal carbon deuocsid rhag datblygu yn yr atmosffer. Mae鈥檔 dechnoleg sy鈥檔 esblygu yn gyflym sy鈥檔 ymwneud 芒 gwahanu carbon deuocsid oddi wrth nwyon gwastraff. Mae鈥檙 carbon deuocsid yn cael ei storio o dan y ddaear wedyn, er enghraifft mewn hen feysydd olew neu nwy megis y rhai o dan F么r y Gogledd.