大象传媒

Cynhyrchu trydanP诺er niwclear

Mae trydan yn ffynhonnell egni gyfleus a gallwn ni gynhyrchu trydan mewn nifer o wahanol ffyrdd, gan ddefnyddio naill ai tanwyddau ffosil neu dechnolegau adnewyddadwy a chynaliadwy.

Part of FfisegTrydan, egni a thonnau

P诺er niwclear

Wraniwm a phlwtoniwm yw鈥檙 prif danwyddau niwclear. Mewn atomfa, mae tanwydd niwclear yn mynd trwy wedi ei reoli yn yr adweithydd i gynhyrchu gwres. Mae egni niwclear yn cael ei drawsnewid yn egni gwres:

  • mae gwres yn cael ei ddefnyddio i newid d诺r yn ager yn y boeler
  • mae鈥檙 ager yn gyrru鈥檙 tyrbin (gwres i egni cinetig)
  • mae hyn yn gyrru鈥檙 generadur i gynhyrchu trydan 鈥 egni cinetig i egni trydanol

Manteision p诺er niwclear

  • Yn wahanol i danwyddau ffosil, dydy tanwyddau niwclear ddim yn cynhyrchu carbon deuocsid na sylffwr deuocsid.
  • Mae atomfeydd yn ffynonellau egni dibynadwy, sy'n golygu eu bod yn gallu darparu trydan pryd bynnag y mae ei angen.
  • Mae 1 kg o danwydd niwclear yn cynhyrchu miliynau o weithiau yn fwy o egni nag 1 kg o lo.

Anfanteision p诺er niwclear

  • Fel tanwyddau ffosil, mae tanwyddau niwclear yn adnoddau egni anadnewyddadwy.
  • Er bod dyluniadau adweithyddion modern yn ddiogel iawn, pe bai damwain yn digwydd, gallai llawer o ddeunyddiau ymbelydrol gael eu rhyddhau i鈥檙 amgylchedd, gan achosi niwed am filoedd o flynyddoedd.
  • Mae gwastraff niwclear yn aros yn ymbelydrol ac mae鈥檔 berygl i iechyd pobl am filoedd o flynyddoedd, felly mae鈥檔 rhaid ei storio yn ddiogel.