大象传媒

Cynhyrchu trydanDiagramau Sankey

Mae trydan yn ffynhonnell egni gyfleus a gallwn ni gynhyrchu trydan mewn nifer o wahanol ffyrdd, gan ddefnyddio naill ai tanwyddau ffosil neu dechnolegau adnewyddadwy a chynaliadwy.

Part of FfisegTrydan, egni a thonnau

Diagramau Sankey

Mae diagramau Sankey yn crynhoi鈥檙 holl drosglwyddiadau egni sy鈥檔 digwydd mewn proses. Rydyn ni鈥檔 lluniadu diagramau Sankey wrth raddfa 鈥 y mwyaf trwchus yw鈥檙 llinell neu鈥檙 saeth, y mwyaf o egni sy鈥檔 gysylltiedig 芒 hi. Efallai y bydd gofyn i ti luniadu diagram Sankey wrth raddfa mewn arholiad.

Mae鈥檙 diagram Sankey hwn ar gyfer lamp drydan yn dangos bod y rhan fwyaf o鈥檙 egni trydanol yn cael ei drosglwyddo fel gwres yn hytrach na golau.

Diagram Sankey ar gyfer lamp ffilament. Mae wedi鈥檌 labelu ag Egni trydanol 100 Joule, Egni golau 10 Joule ac Egni gwres 90 Joule.
Figure caption,
Diagram Sankey ar gyfer lamp ffilament

Mae egni yn gallu cael ei drosglwyddo yn ddefnyddiol, ei storio neu ei . Does dim modd creu neu ddinistrio egni. Yr enw am hyn yw cadwraeth egni.

Yn y diagram Sankey uchod, mae 100 J o egni trydanol yn cael ei gyflenwi i鈥檙 lamp. Mae 10 J o hyn yn cael ei drosglwyddo i鈥檙 amgylchoedd fel egni golau. Mae鈥檙 gweddill, 90 J (100 J 鈥 10 J) yn cael ei drosglwyddo i鈥檙 amgylchoedd fel egni gwres.

Y trosglwyddiad defnyddiol yw鈥檙 trosglwyddiad egni i egni golau. Mae鈥檙 gweddill yn cael ei 鈥榳astraffu鈥. Mae鈥檔 cael ei drosglwyddo i鈥檙 amgylchoedd yn y pen draw, gan eu cynhesu. Yn y diwedd, mae鈥檙 egni sydd wedi ei wastraffu yn gwasgaru cymaint nes ei bod yn anodd iawn gwneud unrhyw beth defnyddiol gydag e.

Mae lampau arbed egni modern ac LEDau (deuodau allyrru golau) yn gweithio mewn ffordd wahanol. Maen nhw鈥檔 trosglwyddo cyfran fwy o egni trydanol fel egni golau.

Dyma鈥檙 diagram Sankey ar gyfer lamp arbed egni cyffredin.

Diagram Sankey ar gyfer lamp arbed egni nodweddiadol. Mae wedi鈥檌 labelu ag Egni trydanol 100 Joule, Egni golau 75 Joule ac Egni gwres 25 Joule.

Yn y diagram, fe alli di weld bod llawer llai o egni trydanol yn cael ei drosglwyddo, neu ei 鈥榳astraffu鈥 fel egni gwres o鈥檙 lamp sy鈥檔 arbed egni. Mae鈥檔 fwy effeithlon na鈥檙 lamp ffilament.

Effeithlonrwydd

Cyfrifo effeithlonrwydd

Mae鈥檔 bosibl cyfrifo effeithlonrwydd dyfais fel lamp, fel hyn.

\(\text{\% effeithlonrwydd}=\frac{\text{egni [neu b诺er] sydd wedi鈥 i drosglwyddo鈥檔 llwyddiannus}}{\text{cyfanswm yr egni [neu b诺er] sydd wedi鈥 i gyflenwi}}\times{\text{100}}\)

Effeithlonrwydd y lamp ffilament

\(\text{\% effeithlonrwydd}=\frac{\text{10}}{\text{100}}\times{\text{100}}={\text{10\%}}\)

Mae hyn yn golygu bod deg y cant o鈥檙 egni trydanol sy鈥檔 cael ei gyflenwi yn cael ei drosglwyddo fel egni golau (mae 90 y cant yn cael ei drosglwyddo fel egni gwres).

Effeithlonrwydd y lamp arbed egni

\(\text{\% effeithlonrwydd}=\frac{\text{75}}{\text{100}}\times{\text{100}}={\text{75\%}}\)

Mae hyn yn golygu bod 75 y cant o鈥檙 egni trydanol sy鈥檔 cael ei gyflenwi yn cael ei drosglwyddo fel egni golau (mae 25 y cant yn cael ei drosglwyddo fel egni gwres).