Yswiriant Gwladol a Threth Incwm - haen uchaf
Mae Yswiriant Gwladol (YG) yn dreth byddi di'n talu ar yr arian wyt ti'n ennill.
Enghraifft
Dyma ddyfyniad o wefan y Llywodraeth yngl欧n ag YG.
Mae Emyr yn gweithio i gwmni lleol ac yn cael ei dalu 拢475 yr wythnos. Mae Owain yn hunangyflogedig a hefyd yn ennill 拢475 yr wythnos. Beth yw'r gwahaniaeth o ran faint o YG maen nhw'n talu?
Mae Emyr ac Owain y ddau'n talu 0% ar y 拢155 cyntaf.
Mae'r ddau'n ennill 拢475 yr wythnos:
拢475 - 拢155 = 拢320.
Felly dyma'r swm byddan nhw'n talu YG arno.
Mae Emyr yn talu 12% o hyn = 12 梅 100 脳 320 = 拢38.40
Mae Owain yn talu 9% o hyn = 9 梅 100 脳 320 = 拢28.80
Gwahaniaeth:
拢38.40 鈭 拢28.80 = 拢9.60
Datrysiad arall
Ffordd arall byddai cyfrifo 3% o 拢320 (y gwahaniaeth rhwng 12% a 9%). 3% o 拢320 = 3 梅 100 脳 320 = 拢9.60.
Treth incwm
Dyma fanylion treth incwm ar gyfer 2015-16, o wefan cyngor am arian. Mae'n rhannu cyflogau yn fandiau a bydd canran o dreth yn cael ei thalu ar bob un o'r bandiau hynny.
Felly petaet ti'n ennill 拢100,000 y flwyddyn, byddai dy gyflog yn cael ei rannu fel hyn:
- Band cyntaf 鈥 拢0 - 拢10,600
- Ail fand 鈥 拢10,600 - 拢42,385
- Trydydd band 鈥 拢42,385 - 拢100,000
Enghraifft
Mae Rhodri'n ennill cyflog o 拢72,495 y flwyddyn. Cyfrifa faint o dreth mae'n rhaid iddo dalu mewn un flwyddyn. Yna cyfrifa faint o dreth bydd yn rhaid iddo dalu bob wythnos (i'r geiniog agosaf).
Datrysiad
Mae ei gyflog yn cael ei rannu'n dri band:
Band cyntaf
Mae'n talu 0% treth ar y 拢10,600 cyntaf.
Ail fand
Mae'n talu 20% ar 拢10,600 hyd 拢42,385
拢42,385 鈭 拢10,600 = 拢31,785
20 梅 100 脳 拢31,785 = 拢6,357
Trydydd band
Mae'n talu 40% ar 拢42,385 hyd 拢72,495
拢72,495 鈭 拢42,385 = 拢30,110
40 梅 100 脳 拢30,110 = 拢12,044
Cyfanswm y dreth y flwyddyn = 拢6,357 + 拢12,044 = 拢18,401
Treth yr wythnos = 拢18,401 梅 52 = 拢353.8653846 = 拢353.87 (i'r geiniog agosaf).