´óÏó´«Ã½

  • Rhif

    • Amcangyfrif a thalgrynnu

      Mae ffyrdd o symleiddio cyfrifiadau i ganfod atebion bras. Er enghraifft, does dim angen rhoi’r union rif bob tro; gelli di roi rhif bras trwy dalgrynnu i fyny neu i lawr.

    • Canrannau

      Ystyr ‘canran’ ydy ‘y cant’. Os ydy 70 y cant o’r boblogaeth yn berchen ar anifail anwes, mae hynny’n golygu bod 70 o bob cant o bobl yn berchen ar anifail anwes. Ystyr y symbol ‘%’ ydy ‘y cant’.

    • Cymarebau a chyfrannedd

      Ysgrifennir cymarebau fel arfer yn y ffurf a:b a gellir eu defnyddio ar fapiau i ddangos graddfa’r map. Mae dau newidyn mewn cyfrannedd union pan fyddan nhw'n cynyddu neu’n lleihau yn yr un gymhareb.

    • Degolion

      Mae degolion yn chwarae rhan bwysig mewn bywyd bob dydd, yn enwedig wrth ddefnyddio arian. Felly, mae’n holl bwysig dy fod yn deall sut maen nhw’n gweithio a sut i’w defnyddio.

    • Ffracsiynau

      Mae ffracsiynau’n cynrychioli rhan o rif cyfan. Gall ffracsiynau, degolion a chanrannau i gyd rannu’r un gwerthoedd ac fe allai fod yn ddefnyddiol gwybod sut i drosi rhyngddyn nhw.

    • Gwerth lle

      Mae rhifau’n rhan o’n bywyd bob dydd. Peth defnyddiol ydy gallu ysgrifennu a disgrifio rhifau a gwneud cyfrifiadau rhif syml heb ddefnyddio cyfrifiannell.

    • Pwerau ac israddau

      Dangosir pwerau sgwario, ciwbio ac uwch gan ddigidau bach a elwir yn indecsau. Y gwrthwyneb i sgwario rhif ydy canfod yr ail isradd, a’r gwrthwyneb i giwbio ydy canfod y trydydd isradd.

    • Rhifau positif a negatif

      Gelwir rhifau o dan sero yn rhifau negatif. Gelwir rhifau uwchben sero’n rhifau cyfan. Mae rheolau y gelli di eu defnyddio wrth adio, tynnu, lluosi neu rannu rhifau positif a negatif.

  • Siâp, gofod a mesurau

    • Amser

      Mae gan amser wahanol unedau. Mae gwybod sut i fesur amser yn ddefnyddiol gan ei fod yn help i wybod pryd mae dy hoff raglen ar y teledu, neu sawl diwrnod sydd mewn mis.

    • Cymesuredd

      Dysga sut i ddarganfod llinellau cymesuredd adlewyrchiad, a sut i adnabod cymesuredd cylchdro, mewn siapiau megis polygonau rheolaidd.

    • Mesurau

      Cyn mesur rhywbeth, mae angen gwybod pa uned i’w defnyddio. Gelli di wneud hyn drwy amcangyfrif ei faint yn fras. Wrth drosi rhwng unedau, mae rhai rheolau syml y dylet ti eu dilyn.

      • Guide Number
        3 Guides
    • Theorem Pythagoras

      Fformiwla ydy Theorem Pythagoras y gelli di ei defnyddio i ganfod hyd unrhyw un o ochrau triongl neu’r pellter rhwng dau bwynt.

      • Guide Number
        4 Guides
    • Trawsffurfiadau

      Gellir trawsffurfio siapiau mewn sawl ffordd, yn cynnwys trawsfudo, cylchdroi, adlewyrchu a helaethu. Disgrifir maint helaethiad gan ei ffactor graddfa a disgrifir ei safle gan ganol yr helaethiad.

    • Llunio trionglau

      Bydd y canllaw astudio hwn yn dangos i ti sut i lunio trionglau a chanfod cyfeiriant tri ffigur. I wneud hyn bydd angen pensel, papur, pren mesur, onglydd a chwmpas arnat ti.