Beth yw ymholiad daearyddol?
Gall ymholiadau daearyddol gynnwys ymchwilio amgylcheddau dynol a ffisegol. Maen nhw'n ffordd o ymchwilio i gwestiynau am y byd rydyn ni'n byw ynddo ac i ddysgu sut mae prosesau'n gweithio.
Mae chwe cham i'w dilyn mewn ymholiad daearyddol.
- Cynllunio
- Gwaith maes
- Prosesu a chyflwyno data
- Dadansoddi a dehongli data
- Llunio casgliad
- Gwerthuso
Mae'r erthygl hon yn edrych ar y pedwar cam olaf mewn ymholiad daearyddol. Dysga am y ddau gam cyntaf - cynllunio a gwaith maes - yn Ymholiad daearyddol - Rhan 1
Unwaith fydd y ddau gam cyntaf wedi鈥檜 cwblhau, mae鈥檔 bryd edrych ar y data sydd wedi鈥檌 gasglu.
Gwylio: Fideo Ymholiad daearyddol - Rhan 2
Prosesu a chyflwyno data
Unwaith y bydd data wedi'i gasglu mae angen ei ddidoli a'i drefnu'n dablau data. Yna gall y data gael ei gyflwyno鈥檔 daclus mewn gwahanol fathau o graffiau i ddangos y canlyniadau'n glir.
Dylai pob graff gael ei lunio鈥檔 daclus gyda phensil a phren mesur a dylai gynnwys y canlynol:
- teitl
- echel wedi'i labelu
- allwedd
- lliw
Siartiau bar
Mae siartiau bar yn cael eu defnyddio i ddangos meintiau gwahanol setiau o ddata.
Er enghraifft, wrth gynnal ymholiad traffig byddai canlyniadau arolwg o gerbydau sy'n teithio ar hyd ffordd i'r ddau gyfeiriad yn cael eu rhoi mewn tabl data.
Math o gerbyd | I'r ddinas | O'r ddinas | |
---|---|---|---|
Car | 240 | 320 | |
Fan | 32 | 40 | |
Lori | 24 | 9 | |
Beic modur | 5 | 2 | |
Beic | 0 | 0 | |
Cerdded | 1 | 0 | |
Arall | 3 | 15 |
Gall y data yma gael ei ddangos mewn siart bar lle gall y gwerthoedd gwahanol gael eu cymharu.
Manteision siartiau bar
- Arddangos data'n glir sy'n ei gwneud hi'n hawdd cymharu gwerthoedd gwahanol.
- Dangos yn glir beth sydd 芒'r rhifau uchaf ac isaf.
Anfanteision siartiau bar
- Ddim yn ddefnyddiol wrth ddangos newid dros amser.
- Ddim yn ddefnyddiol wrth adnabod y berthynas rhwng dwy set o ddata.
Graffiau llinell
Mae graffiau llinell yn cael eu defnyddio鈥檔 aml i ddangos newid dros amser. Er enghraifft, gall graff llinell gael ei ddefnyddio i ddangos canlyniadau arolwg o gerddwyr mewn un lleoliad dros gyfnod o ddiwrnod.
Manteision graffiau llinell
- Arddangos data'n glir.
- Mae modd adnabod tueddiadau.
Anfanteision graffiau llinell
- Ddim yn ddefnyddiol wrth ddangos canrannau.
- Ddim yn ddefnyddiol wrth gymharu setiau unigol gwahanol o ddata.
Mae trawstoriad afon yn dangos dyfnder a lled yr afon. Mae鈥檔 debyg i graff llinell, ond gyda鈥檙 echelin-x ar y top.
Graffiau radar
Gall graffiau radar gael eu defnyddio i arddangos data o arolygon amgylcheddol. Mae gan bob un o'r canghennau raddfa - a鈥檙 agosaf yw'r llinell at y rhif uchaf, y mwyaf positif yw canlyniad yr arolwg.
Er enghraifft, gall graff radar gael ei ddefnyddio i arddangos a chymharu canlyniadau arolwg amgylcheddol mewn dwy ardal gyferbyniol o dref. Yn y graff hwn, po fwyaf yw si芒p y pentagon, y mwyaf positif yw'r sg么r.
Siartiau cylch
Mae siartiau cylch yn dangos canrannau fel cylch sydd wedi ei rannu'n segmentau. Gallan nhw gael eu defnyddio i ddangos data o wahanol fathau o ymholiadau daearyddol, er enghraifft wrth gasglu data ansoddol drwy ddefnyddio holiadur a gofyn i bobl pam wnaethon nhw symud i fyw i rywle.
Dadansoddi a dehongli data
Mae dadansoddi yn golygu disgrifio'r canlyniadau.
Er enghraifft, galli di weld y duedd sy鈥檔 cael ei ddangos mewn graff.
- Ydy'r graff yn cynyddu neu'n gostwng yn araf?
- Ydy'r graff yn cynyddu neu'n gostwng yn gyson neu'n gyflym?
- Ydy'r graff yn amrywio (codi a disgyn yn afreolaidd)?
Defnyddia ffigurau o'r graff i ddisgrifio'r newidiadau sy'n cael eu dangos fel tystiolaeth o unrhyw duedd rwyt ti wedi ei hadnabod. Dylet ti bob amser geisio rhoi symiau yn agos at y dechrau, y canol a'r diwedd. Ceisia fod mor gywir 芒 phosib wrth ddarllen o'r graff a defnyddia unedau bob amser wrth ddyfynnu ffigurau, ee cm, m, km.
Er enghraifft, gallai dadansoddiad o'r graff hwn sy鈥檔 dangos nifer y genedigaethau dros nifer o flynyddoedd ddweud:
- bod 1,000,000 o enedigaethau yn 1964
- bod y graff wedi amrywio dros amser
- yn gyffredinol, mae鈥檙 duedd wedi gostwng o 1,000,000 o enedigaethau yn 1964 i 810,000 o enedigaethau yn 2010
Modd, canolrif, amrediad a chymedr
I ddatblygu dadansoddiad pellach, gallet ti edrych ar fodd, canolrif, amrediad a chymedr set ddata. Un enghraifft fyddai鈥檙 data sydd wedi cael ei gasglu mewn arolwg traffig.
Math o gerbyd | I'r ddinas | |
---|---|---|
Car | 240 | |
Fan | 32 | |
Lori | 24 | |
Beic modur | 5 | |
Beic | 0 | |
Cerdded | 1 | |
Arall | 3 |
Y modd yw'r rhif mwyaf cyffredin. Yn y set hon o ddata mae'r modd yn 240, sef nifer y ceir.
Y canolrif yw'r rhif canol pan fydd y data yn cael ei roi mewn trefn o'r uchaf i'r isaf. Yn y set hon o ddata lle mae'r niferoedd yn 240, 32, 24, 5, 3, 1 a 0, y canolrif yw 5.
Yr amrediad yw'r gwahaniaeth rhwng y rhif uchaf a'r rhif isaf. Yn y set hon o ddata yr amrediad yw 240 sef y gwahaniaeth rhwng nifer y ceir a nifer y beiciau.
惭补别鈥檙 cymedr yn cael ei gyfrifo drwy adio'r niferoedd yn yr holl gategor茂au ac yna rhannu'r cyfanswm gyda nifer y categor茂au.
Ar gyfer y set hon o ddata:
- adia鈥檙 rhifau ym mhob categori (ceir, faniau, lor茂au, beiciau modur, beiciau, cerddwyr ac eraill) i gael cyfanswm o 305.
- rhanna 305 gyda 7 (nifer y categor茂au) sy鈥檔 rhoi cymedr o 43.57
Dehongli data
Mae dehongli鈥檙 data a gasglwyd yn golygu dy fod yn egluro:
- y gwahanol resymau dros y canlyniadau a'r graffiau
- y patrymau a'r tueddiadau yn y wybodaeth
Llunio casgliad
Crynodeb o beth rwyt ti wedi ei ganfod yw'r casgliad. I lunio dy gasgliad, edrycha n么l ar dy ragdybiaeth neu ar dy gwestiwn ac is-gwestiynau.
Er enghraifft, mewn ymchwiliad afon un cwestiwn ymholiad posib 鈥 sef y prif gwestiwn sy'n cael ei ofyn 鈥 fyddai 鈥楢 yw鈥檙 afon yn newid o鈥檌 tharddiad i鈥檙 aber?鈥
Is-gwestiynau posib, sy鈥檔 cael eu defnyddio i rannu鈥檙 prif gwestiwn ymholiad yn rhannau llai, fyddai:
- a yw cyflymder yr afon yn newid ar hyd ei chwrs?
- beth sy鈥檔 digwydd i'r lled a'r dyfnder wrth symud i lawr yr afon?
- a yw maint a si芒p y cerrig m芒n yn newid ar hyd cwrs yr afon?
Wrth ateb y cwestiynau hyn, efallai y bydd angen i ti gyfuno canfyddiadau allweddol o setiau data gwahanol i roi tystiolaeth ar gyfer yr ateb, ee cyflymder afon, si芒p a maint y cerrig m芒n, lled, dyfnder, graddiant a mapiau.
Y casgliad cyffredinol yw yr ateb i'r prif gwestiwn. Galli di ddefnyddio atebion yr is-gwestiynau wrth lunio鈥檙 ateb hwn.
Dylet ti gynnwys ateb i dy ragdybiaeth yn dy gasgliad cyffredinol. Wyt ti'n gallu profi neu wrthbrofi dy ragdybiaeth? Galli di roi rhesymau a thystiolaeth i gefnogi dy gasgliadau.
Gwerthuso
Cymera amser i werthuso鈥檙 ymholiad. Gall y gwerthusiad hwn fod yn seiliedig ar yr atebion i dri prif gwestiwn.
- Beth yw cryfderau鈥檙 ymholiad?
- Beth yw gwendidau鈥檙 ymholiad?
- Sut fyddai'n bosib gwella'r project pe bai鈥檔 cael ei gwblhau eto?
Dylai鈥檙 cwestiynau hyn ganolbwyntio ar agweddau gwahanol yr ymholiad.
- Dulliau casglu data
- Technegau samplu
- Dulliau cyflwyno data
Pan fyddi di yn ystyried sut i wneud y project mewn ffordd hyd yn oed yn fwy effeithiol pe bai鈥檔 cael ei wneud eto, dyma鈥檙 math o gwestiynau fyddai'n bosib eu gofyn.
- A fyddet ti鈥檔 gofyn yr un cwestiynau neu a allet ti wneud y project yn llai a gyda ffocws mwy tynn?
- A wnest ti gasglu digon o ddata neu a fyddet ti'n newid y dechneg samplu ac yn casglu mwy o ddata?
- A wnest ti gyflwyno鈥檙 holl graffiau鈥檔 gywir?
- A fyddet ti'n ystyried herio dy hun a cheisio defnyddio graffiau gwahanol?
More on Sgiliau daearyddol
Find out more by working through a topic
- count1 of 2