Geometreg a Mesur
Loci a gwneud lluniadau
I wneud lluniadau, bydd angen pensil, pren mesur a phâr o gwmpasau. Defnyddir loci i ganfod ardaloedd sy’n bodloni meini prawf megis pellter penodol oddi wrth bwynt neu hanner ffordd rhwng dwy linell.
Theorem Pythagoras – Canolradd ac Uwch
Mae theorem Pythagoras yn caniatáu i ni gyfrifo hydoedd mewn trionglau ongl sgwâr. Gwelir trionglau ongl sgwâr mewn bywyd bob dydd – o ddimensiynau teledu i ysgol sy'n gorffwys yn erbyn wal.
Trigonometreg – Canolradd ac Uwch
Mae perthnasau trigonometrig yn bwysig iawn yn y diwydiant adeiladu a chynllunio ac yn caniatáu cyfrifo hydoedd ac onglau anhysbys yn drachywir.
Helaethiadau/Siapiau tebyg – Canolradd ac Uwch
Mae ffactorau graddfa’n sicrhau bod siâp yn aros yn yr un cyfraneddau pan fo’r maint yn newid. Gall hyn fod yn bwysig wrth newid maint llun i wneud yn siŵr nad yw’r ddelwedd yn cael ei haflunio.
Mapiau
Mae mapiau a lluniadau wrth raddfa’n ffurfio rhan hanfodol o’n bywyd bob dydd. Mae lluniadau wrth raddfa’n ddefnyddiol mewn gyrfaoedd megis pensaernïaeth. Rhaid i ni ddeall cyfeiriannau hefyd.
Trawsnewid rhwng unedau metrig ac imperial
Oherwydd bod cydweithrediad rhyngwladol mor bwysig i ddiwydiant a'r economi, mae'n hanfodol gallu trosi rhwng unedau metrig ac imperial.
Dadansoddi dimensiynol - Canolradd ac Uwch
Mae dadansoddi dimensiynol yn caniatáu i ni dynnu casgliadau ynglŷn â fformiwlâu. Mae'n darparu ffordd amgen i ni o wirio ein cyfrifiadau ein hunain a rhai pobl eraill.
Mesurau cyfansawdd
Mae mesurau cyfansawdd yn fesurau sy’n cynnwys dwy uned wahanol neu fwy, ee m/s, g/cm³, poblogaeth fesul km² a milltiroedd y galwyn. Rydyn ni’n gweld mesurau cyfansawdd mewn pob math o gyd-destunau.
Perimedr ac arwynebedd
Gall gwybod sut i ddod o hyd i berimedr neu arwynebedd siâp fod yn ddefnyddiol mewn bywyd bob dydd. Defnyddia hyn mewn cyfrifiadau i ddod o hyd i faint o ddeunyddiau sydd eu hangen a'r gost.
Arwynebedd arwyneb a chyfaint
Gallwn gyfrifo cyfaint siapiau 3D er mwyn canfod eu cynhwysedd neu faint o ofod maen nhw’n ei lenwi. Gallwn hefyd ganfod yr arwynebedd arwyneb, sy’n nodi cyfanswm arwynebedd pob un o’u hwynebau.
Links
- External linkExternal link
- External linkExternal link
- SubscriptionSubscription