´óÏó´«Ã½

« Blaenorol | Hafan | Nesaf »

Cofio herio prifardd a llythyr pryfoclyd Syr Thomas

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü:

Glyn Evans | 16:26, Dydd Iau, 12 Chwefror 2009

eluned_phillips.jpg

Hyd y gwelaf i, dim ond dau a dynnodd sylw yn y wasg Gymraeg, yn dilyn marwolaeth Eluned Phillips, at bennod anffodus yn ei hanes wedi iddi ennill ei hail Goron - yn Eisteddfod Genedlaethol Llangefni 1983.

Y cyntaf i godi'r grachen oedd Colin B Jones yn Y Cymro sy'n cofio sut y cafodd yr unig ferch i ennill Coron Eisteddfod Genedlaethol ddwywaith ei herio ar deledu i roi ei llaw ar y Beibl mai hi gyfansoddodd pryddest fuddugol Llangefni..

Yna, yn y rhifyn diweddaraf o Barn, Chwefror 2009, mae Vaughan Hughes yn ymhelaethu a dwyn i gof sut y rhoddodd Syr Thomas Parry dro pryfoclyd i'r pwdin dros chwe mis yn ddiweddarach.

Mae'r rhai hynny ohonom a oedd yn Llangefni yn 1983 yn cofio bod stori'n dew ar y Maes bnawn Iau nad y bardd oedd newydd ei choroni oedd gwir awdur y gwaith a ddewiswyd yn orau gan y beirniaid gyda nifer o eisteddfodwyr dylanwadol gan gynnwys y diweddar Bedwyr Lewis Jones yn bytheirio am y peth.

Wythnos neu fwy wedyn anfonodd y rhaglen deledu Newyddion ei gohebydd a chyflwynydd Rod Richards yn unswydd i Genarth i holi'r bardd.

"Gyda'r farddones bengoch yn gwadu unrhyw gamwri ysgogwyd yr holwr i ofyn yn y diwedd a fyddai hi'n 'rhoi ei llaw ar y Beibl' ei bod yn dweud y gwir," meddai Colin B Jones.

Yn Barn Chwefror 2009 mae'r dihafal Vaughan Hughes yn mynd a'r hanes gam ymhellach trwy ddwyn i gof lythyr direidus yn Y Cymro gan Syr Thomas Parry ar Fawrth 20 1984 ar drothwy dyddiad olaf anfon ymgeision ar gyfer y Genedlaethol yn Llambed y flwyddyn honno:

"Y mae'n amser gyrru'r cyfansoddiadau i mewn ar gyfer yr Eisteddfod Genedlaethol ac rwy'n sicr fy mod yn mynegi teimlad cannoedd o'm cydwladwyr wrth ddweud fy mod yn gobeithio na fydd neb yn anfon cyfansoddiad i mewn yn enw person arall, a'r person hwnnw'n cael y wobr a'r amlygrwydd heb ei haeddu, fel a ddigwyddodd yn Llangefni y llynedd, ac o leiaf unwaith cyn hynny."

Gan fwy nag un dehonglwyd hyn, yn gam neu'n gymwys, fel cyfeiriad at Eluned Phillips a'i buddugoliaeth yn Llangefni a chyn hynny yn Y Bala - gan gynnwys Eluned ei hun mae'n debyg gan iddi ymateb yr wythnos wedyn yn dweud i Syr Thomas gael ei gamarwain gan "sibrydion enllibus".

"Yn anffodus mae sibrydion yn ymledu yn aflan ac afiach," meddai.

Yn ogystal ag enillwyr y Gadair a'r Fedal Ryddiaith yn Llangefni - y ddau frawd Einion a T Wilson Evans - un arall a ymatebodd oedd y Prifardd W J Gruffydd, Elerydd, yn ymateb meddai "oherwydd y pardduo a fu ar fy enw mewn canlyuniad i lythyr Syr Thomas Parry" gan ychwanegu na fu iddo ef erioed "llunio, newid, na chaboli unrhyw linell a fu yng nghystadleuaeth y Goron yn yr Eisteddfod Genedlaethol" - ar wahan wrth gwrs i'r ddau achlysur yr enillodd ei hun.

Ymateb Syr Thomas i hyn oll oedd llythyr yn mynegi syndod at yr ymateb gan ddweud "ei fod yn ddirgelwch llwyr i mi sut y daeth Miss Phillips, Mr Einion Evans, Mr Wilson Evans ac yn arbennig y Parch W J Gruffydd i'r stori, oherwydd ni chrybwyllais i enw neb ohonynt."

Holodd pam y bu iddyn nhw brotestio mwy na'r 104 a enillodd wobrau yn Llangefni.

Mae Vaughan Hughes yn cynnig un awgrym dioddorol dros ymyrriad Syr Thomas ond am wirionedd y digwyddiad dywed yn enigmatig "fe ddaw dydd pan y gellir datgelu rhagor".

Yn y cyfamser mae digon yn erthygl Vaughan i gnoi cil drosto!

Lincs

´óÏó´«Ã½ iD

Llywio drwy’r ´óÏó´«Ã½

´óÏó´«Ã½ © 2014 Nid yw'r ´óÏó´«Ã½ yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.