Oriau'r plant
Cwestiwn poblogaidd rai blynyddoedd yn ôl oedd, "Pa awr sydd ag ond 55 munud iddi hi?"
A'r ateb cywir fyddai Awr y Plant ar y radio gan y byddai honno yn cychwyn am bump ac yn gorffen am bum munud i chwech gyda'r "Weather" am bum munud cyn 'Niws chwech'.
Diflannodd yr hen Awr y Plant yn y Chwedegau a daeth hynny i gof gyda'r cyhoeddiad yr wythnos hon i raglenni plant Radio 4 gyrraedd pen eu talar hwythau gyda phenderfyniad y ´óÏó´«Ã½ i daro yn ei thalcen y rhaglen i rai dan 14 oed, Go4It, oherwydd prinder gwrandawyr.
Dywedwyd mai dim ond rhyw 20,000 fyddai'n gwrando ar y gorau - a nifer o'r rheini dros eu hanner cant oed.
Ail blentyndod yn wir ac yn "arwydd o'r amserau," yn agweddau plant rhwng pedair a 14 oed tuag at y radio heddiw.
Ac yn gyfle heb ei ail i rai o oed arbennig ymdrybaeddu mewn rhywfaint o hiraeth ac i ramantu'r gorffennol.
Achos yr ydym ni o'r genhedlaeth honno yr oedd radio yn gyffredinol ac Awr y Plant ar nosweithiau Mawrth ac Iau yn benodol yn rhan bwysig o'n cynhysgaeth.
Yn ganolog i'n byd gydag amser chwarae yn cael ei drefnu o gwmpas rhaglenni poblogaidd fel SOS Galw Gari Tryfan pan fyddai'n orfodol cyrraedd adref mewn da bryd o'r ysgol ar gyfer nodau cyntaf y bennod gyffrous nesaf a galwad ddramatig yr actor O T Williams.
Ac nid pethau i wrando arnynt tra'n gwneud rhywbeth arall oedd y dramâu hyn. Golygai ganolbwyntio'n llwyr i wrando mor astud ag i sicrhau na fyddai sill yn cael ei godi.
Ymhlith yr arwyr a grëwyd ar donnau'r awyr yr oedd Edgar Franen - Robin Hood Cymraeg - Anabela Penn, arwyr o'r Mabinogion a marchogion chwedlau Arthur, Luned Bengoch a chymeriadau eraill nofelau Elizabeth Watkin-Jones yn gyffro i gyd.
Cymeriadau nos Iau fyddai Wil Cwac Cwac a'i griw.
Yr hyn sy'n aros yn y cof ydi tyndra - ar ofn weithiau - gwirioneddol y byddai'r rhaglenni hyn ei greu ac yn union fel ag y byddai Dr Who ar y teledu genhedlaeth neu ddwy wedyn yn gyrru plant i guddio y tu ôl i soffas felly hefyd lais triagl du Moc y Blaidd a rhai o ddihirod Gari Tryfan ar Awr y Plant!
Ond dyna ddigon o hen hiraeth - gan fod hynny hefyd yn dychryn a chodi ofn ar rai pobl!
Ond os oes gennych chi atgofion . . .