´óÏó´«Ã½

Archifau Ebrill 2009

Hen ffrae nad oes diwedd arni

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü:

Glyn Evans | 14:32, Dydd Llun, 27 Ebrill 2009

Sylwadau (0)

Nid cynt bod Rhestr Hir Llyfr y Flwyddyn wedi ei chyhoeddi yr wythnos diwethaf nad oedd y gystadleuaeth dan yr ordd unwaith eto.

Ac un o'r rhai a gordd yn ei law oedd y Prifardd Alan Llwyd - awdur a phennaeth Barddas, un o dai cyhoeddi mwyaf adnabyddus Cymru.

"Dydi'r peth ddim yn gweithio," meddai ar y rhaglen Sioe Gelf ar S4C noson cyhoeddi'r Rhestr Hir.

Ac am ba bynnag lyfr fydd yn ennill dywedodd; "Dydi o ddim o ddifrif yn Llyfr y Flwyddyn - all o ddim bod."

Rhestr Hir 2009

Yr oedd yn ymddangos mai ei brif wrthwynebiad yw'r holl fathau o lyfrau anghymharus y mae'n rhaid i'r beirniaid eu cymharu cyn dod i benderfyniad.

"Sut y gallwch chi ddewis Llyfr y Flwyddyn allan o gategorïau sydd mor wahanol?" holodd gan adleisio dadl sy'n cael ei chodi flwyddyn ar ôl blwyddyn ers dechrau'r gystadleuaeth.

A dadl, yn wir, a fynegwyd gan gadeirydd y panel a ddewisodd y Rhestr Hir Saesneg 2009 noson datgelu'r enwau.

"Mae gennych farddoniaeth, mae gennych chi nofelau, mae gennych chi lyfrau ysgafn hyd yn oed - mae gennych chi bob math o lyfrau. Dydi'r peth ddim yn gweithio," meddai Alan Llwyd ar S4C gan ychwanegu nad yw'r llyfrau gorau bob tro yn cael y sylw mawr y mae'r Academi yn ei roi i'r rhai sydd ar y rhestr.

Awgrymodd ef mai'r unig ffordd i ddatrys yr anhawster fyddai creu panel sefydlog sydd wedi hen brofi ei hun a llunio categorïau gwahanol.

"Ac wedyn, o leiaf byddai'r peth yn deg," meddai.

Yr oedd 18 o ddarllenwyr Barddas wedi dewis yn barod eu Rhestr Hir hwy a bach yw'r tebygrwydd rhwng honno â'r rhestr swyddogol.

Ond yn ôl llefarydd ar ran yr Academi ar y Sioe Gelf mae'r Academi trwy bennu "panel cytbwys o dri beirniad" yn sicrhau tegwch.

Na, dydi hon ddim yn ddadl sy'n mynd i ddiflannu ac fe allwch fentro y bydd yn cael ei hailgodi yr adeg hon y flwyddyn nesaf.

A'r flwyddyn ar ôl honno hefyd, beryg!

Wrth eu llyfrau yr adnabyddir hwy

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü:

Glyn Evans | 16:23, Dydd Iau, 23 Ebrill 2009

Sylwadau (0)

Pan oedd y canwr Geraint Griffiths yn cael ei holi ar y teledu yr wythnos o'r blaen y llyfr amlycaf ar y silffoedd tu cefn iddo oedd un am y darlledwr John Peel.

Er efallai iddo gael ei osod yno o fwriad fe fydda i'n hoffi gweld pobl yn cael eu holi gyda'u silffoedd llyfrau y tu ôl iddyn nhw - oherwydd o ddarllen y meingefnau yr ydw i'n teimlo mod i'n dod i'w hadnabod yn well.

Yn wir, mae'n demtasiwn yn aml i dalu mwy o sylw i'r llyfrau hyn nag i'r hyn sy'n cael ei ddweud.

"Wrth eu gweithredoedd yr adnabyddwch hwy," meddai'r Testament Newydd.
Nage, wrth eu llyfrau yr adnabyddwch chi nhw. Trwy ei lyfrau y dengys dyn o ba radd y bo'i wreiddyn.

A chyda'r gwirionedd hwnnw mewn golwg y darllenais i am ddau lyfr Saesneg sydd newydd eu cyhoeddi: Hitler's Private Library gan Timothy W Ryback ac Oscar's Book gan Thomas Wright.

Yr oedd Hitler, erbyn gweld, yn ddarllennwr mawr. Yn darllen o leiaf un llyfr bob nos - weithiau fwy - ac erbyn diwedd ei oes fileinig yr oedd ganddo 16,000 o lyfrau mewn sawl llyfrgell breifat.

Beth mae'r silff hon yn ei ddweud am ei pherchennog?
Erbyn heddiw mae 1,200 ohonyn nhw yn Llyfrgell y Gyngres yn yr Unol Daleithiau.
Ymddengys yr ystyriai Don Quixote, Uncle Tom's Cabin, Robinson Crusoe a Gulliver's Travels yn hoff lyfrau ond ymhlith y llyfrau o'i eiddo y canolbwyntir arnyn nhw yn y llyfr mae The International Jew gan Henry Ford a Peer Gynt Ibsen.

Llyfrau'r dramodydd Eingl Wyddelig Oscar Wilde sy'n cael sylw yn Oscar's Books ac iddo fo yr oedd ymddangosiad a diwyg llyfr cyn bwysiced weithiau a'i gynnwys.

Byddai'n gwirion gyda rhwymiad cain a dalennau moethus.
Ond er ei gariad mawr tuag atynt tynged oer oedd i'w gyfrolau ac fe'u gwerthwyd gyda gweddill eiddo'i gartref i glirio'i ddyledion tra'r oedd o yng ngharchar Holloway.
Yn ôl awdur Oscar's Books yr oedd pobl yn rhuthro i mewn trwy ddrws agored y tŷ yn Chelsea i'w sbeilio er gwaethaf ymdrechion cyfeillion y dramodydd i'w rhwystro a bu'n rhaid galw'r heddlu.

Digwyddiad, yn ôl un adolygydd, sy'n dweud mwy am bobl y cyfnod nag am y casglwr ei hun a fyddai'n llunio nodiadau eglurhaol manwl mewn Groeg Clasurol yn rhai o'i lyfrau.
Y cyfan yn gwneud inni sylweddoli pethau mor oer, diwerth a diramant ymhlen blynyddoedd a ddaw fydd casgliad rhywun o eLyfrau!

A'n gwaredo.
Wilde hefyd, yr athrylith ffraeth a ymserchodd gymaint mewn ceinder, a fu'n ystyried ar un adeg, meddai, gyhoeddi argraffiad cyfyngedig o dri chopi o'i gerdd The Sphinx gan egluro;

"Un i mi, un i'r Llyfrgell Brydeinig a'r llall i'r Nefoedd. Er, yr ydw i rhwng dau feddwl yngly^n â'r Llyfrgell Brydeinig."
Oni fyddai wedi bod yn hyfryd cael ei weld yn dweud hynny ar deledu a'i silffeidiau o lyfrau tu ôl iddo?
Dyna fyddai darllen difyr.

Galwad i ymgyrchu am bres celf

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü: ,Ìý

Glyn Evans | 14:31, Dydd Iau, 23 Ebrill 2009

Sylwadau (0)

Neges annisgwyl, efallai, dan yr amgylchiadau oedd yr un, yn ystod seremoni datgelu Rhestr Hir Llyfr y Flwyddyn Ebrill 22, 2009, inni ymarfogi i frwydro am fwy o arian ar gyfer y celfyddydau yng Nghymru.

Yn siarad cyn i'r rhestr gael ei chyhoeddi dywedodd is-gadeirydd Cyngor Celfyddydau Cymru, y Cynghorydd Rhiannon Hughes o Sir Ddinbych, fod y Cyngor yn ymwybodol iawn o'r ffaith nad yw'n gallu cyfarfod y galw sydd arno am arian.

Y Cynghorydd Rhiannon Hughes,  noson cyhoeddi Rhestr Hir Llyfr y Flwyddyn"Yr ydym yn sicr," meddai, "pe byddai rhagor o arian ar gael y gallem ei wario."

Ychwanegodd: "Ac rwy'n teimlo ei bod yn bwysig eich bod chi'n cael gwybod fod Cyngor y Celfyddydau - yr ydym yn eistedd mewn cyfarfodydd, yr ydym yn datbkygu dogfennau strategaeth ond y mae yna ymdeimlad angerddol a diffuant ein bod eisiau gwella yr ariannu a'r gefnogaeth sydd yna ar gyfer y gwahanol fathau o gelfyddyd yng Nghymru."
Dywedodd ei bod yn hi'n bersonol yn bryderus iawn am yr hyn sy'n digwydd yn ddistaw yng Nghymru heb i'r rhan fwyaf sylweddoli hynny.

Dywedodd i'r awdurdod lleol y mae hi'n aelod ohono, Cyngor sir Ddinbych, wedi ei feirniadu am fod a gormod o lyfrgelloedd gan Swyddfa Archwilio Cymru ac wedi gorfod cwtogi'r nifer o lyfrgelloedd teithiol sydd ganddo "i arbed ychydig bunnoedd".

"Yr ydw i yn gynyddol bryderus yngly^n â'r hyn a all fod yn digwydd yn ddistaw ar hyd a lled Cymru heb i chi fod yn ymwybodol o hynny nes bo cryn ddifrod wedi ei wneud," meddai gan ychwanegu ei bod yn ddyletswydd ar bawb i geisio diogelu a gwneud yn siwr nad yw celfyddyd yn cael ei niwedio ac na chollir hyn a gyflawnwyd yn y gorffennol.
"Yr ydym wir angen i bawb ymgyrchu a lobio i wneud yn siwr ein bod yn cael peth o'r arian addysg a iechyd i'n galluogi i ddatblygu," meddai.

"Dydw i ddim yn ymddiheuro am siarad am ariannu yma heno gan fod angen inni gyd fod yn ymwybodol ac y mae angen inni gyd siarad gyda'r gwleidyddion a siarad â phawb allwn ni i wneud yn siwr fod y celfyddydau yn cael yr arian a haeddant ac y maent ei angen," meddai.

A do yn wir, fe gafodd o leiaf un "Clywch, clywch" yn ystod ei haraith fer.

Pledu'r blogwyr

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü:

Glyn Evans | 11:37, Dydd Mawrth, 21 Ebrill 2009

Sylwadau (0)

Un sy'n debyg o gael cryn fwynhad o'r ffilm newydd State of Play fydd yn y pictiwrs ddydd Gwener ydi Menna Elfyn.

Does gan brif gymeriad y ffilm, a chwaraeir gan Russell Crowe, fawr o amser ar gyfer blogwyr. Yr un modd, Menna, yn ôl ei cholofn wythnosol yn y Western Mail Ebrill 15. "Blogio. Gas gen i'r blogiaduraeth sy'n prysur ddisodli newyddiaduraeth," medda hi.

"Dylid ei alw'n 'blagaduraeth' am mai plagio pobl yn aml a wna," meddai wedyn gan godi'r ofn "y bydd ein byd amrantaidd yn dileu'r angen am newyddiadurwyr praff a gofalus." Hawdd ddeall sut y gallai peth mor anghymen â blogio fod yn dân ar groen Menna Elfyn y bardd. Ond anos deall sut mae'n destun cymaint o boen i Menna Elfyn y golofnwraig bapur newydd wythnosol.

Yn enwedig o gofio mai brawd bach y golofn bapur newydd ydi'r blog mewn gwirionedd - a hithau ei hun awdur un o'r rheini ac wedi gorfod ildio i'w llenwi ambell i wythnos, fel sawl un ohonom,Ìý gydag ambell i eitem "ffwrdd-a-hi er mwyn llanw'r gofod" chwedl hithau!

Adolygiad State of Play

Pan daflodd Hutt ei het . . .

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü:

Glyn Evans | 10:15, Dydd Iau, 9 Ebrill 2009

Sylwadau (0)

O glywed i Jane Hutt daflu ei het hithau ymhlith yr hetiau eraill sy'n debyg o fod yn ymgiprys am swydd Rhodri Morgan pan fydd yn ymddeol fel Prif Weinidog fe drodd fy meddyliau yn syth at Hywel Dda a'i gyfreithiau.

Gydag ef, ŵyr Rhodri Mawr, y "cysylltir cyfraith gynhenid Cymru'r Oesoedd Canol" yng ngeiriau'r Gwyddoniadur.

Ac yr oedd yr hen gyfreithiau wedi gosod i lawr yn drefnus iawn sut y dylai'r hen Gymry ddewis arweinydd newydd.

Mae'r drefn honno yn cael ei disgrifio gan yr hanesydd Syr John E Lloyd mewn rhagymadrodd i lyfryn difyr iawn gan Stephen J Williams, Detholion o'r Hen Gyfreithiau Cymreig a gyhoeddwyd ym 1938 (pris - swllt) - ac yr oedd yn drefn a allai arbed llawer iawn o drafferth i arweinwyr a gwerin gwlad heddiw!

"Yn y lle cyntaf yr oedd yn rhaid i'r . . . .gŵr a oedd i deyrnasu ar . . . ôl [tywysog] fod yn wastad wrth ei ymyl," meddai.

"Nid oedd yr hen Gymry yn fodlon i'r cwestiwn yma gael ei benderfynu drwy bleidlais ar ôl marw'r tywysog. Yr oedd yn rhaid dewis yr aer ymlaen llaw, a sicrhau, felly, pe digwyddai i'r llwyth golli ei arglwydd drwy ryw anffawd, fod olynydd iddo yn y llys, yn barod i gymryd yr awenau yn ei law yn ddiymdroi."

Gosodai'r hen gyfreithiau hyn hefyd werth ar arweinydd ac os yr ydw i - sydd ddim yn gyfreithiwr - yn iawn gwerth "brenin" oedd yr isod deirgwaith drosodd:
"Can buwch ar gyfer pob cartref o'r arglwyddiaeth; gwialen arian cyhyd ag o'r llawr hyd yng ngenau'r brenin pan eisteddo yn ei gadair; a chyn frased a'i hirfys, a thri ban arni a thri dani cyn frased â'r wialen; a ffiol aur y cynhwysid llawn ddiod y brenion ynddi, a chlawr arni cyfled ag wyneb y brenin; cyn dewed fydd y ffiol a'r clawr ag ewin amaeth a amaetho saith mlynedd, neu blisgyn wy gŵydd."

Dyna, ymddengys y ddiryw am sarhau brenin - ac mae'n ddiddorol sylwi mai'r tri pheth cyntaf a gyfrifid yn sarhad oedd;

  • Yn gyntaf lladd un o'i ddynion.
  • Yn ail, lladd dyn yng ngŵydd dau frenin yn dod ynghyd i wneuthur cytundeb.
  • A dim ond yn drydydd, coeliwch neu beidio; "camarfer" gwraig y brenin!

Peryglon Addysgol

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü:

Glyn Evans | 13:51, Dydd Llun, 6 Ebrill 2009

Sylwadau (0)

Am Ddaniel Owen a Robyn y Sowldiwr y meddyliais i yn syth wrth ddarllen am yr arolwg diweddara sy'n cwyno am blant yn camymddwyn mewn ysgolion a throi bywyd yn 'uffern' i rai athrawon.

Y darn sy'n dweud i un allan o bob tri o athrawon orfod dygymod â rhieni ymosodol yn dod i'r ysgol i achub cam eu plant gyda'u dyrnau drodd fy meddwl i at yr Hen Ddaniel.

Ac yn arbennig y bennod hynod honno yn Rhys Lewis lle mae Rhys yn cael ei daro'n anymwybodol am gamymddwyn gan Robyn y Sowldiwr a oedd yn rhedeg yr ysgol lle'r oedd yn ddisgybl.

"Y foment nesaf yr oedd y gansen yn fy nhorri bob ffordd ar draws fy mhen, fy ngwar, fy nghefn, fy nwylaw, fy nhgoesau , a phobman ar fy nghorff. Aeth yn nos dywyll arnaf a chollais bob ymwybyddiaeth," meddai Rhys yn ddramatig.

Canlyniad hyn fu i Bob, brawd mawr Rhys, ymweld â'r ysgol a rhoi cweir i Robyn gerbron ei ddisgyblion - a hynny er mawr lawenydd i ddarllenwyr er 1882, yn enwedig y plant ysgol hynny y bu'r nofel yn rhan o'u maes llafur.

Y canlyniad i Bob, fodd bynnag, oedd cael ei ddiarddel o'r seiat am wrthod ymddiheuro am achub cam ei frawd mewn ffordd mor ymosodol a hynny'n achosi rhwyg rhyngddo ef â'i fam grefyddol, Mari Lewis.

Yn ôl y nofel Robert Davies yw enw iawn Robyn y Soldiwr a ddibynnai gymaint ar ofn a chansen i gadw trefn.

"Gw^r cydnerth a chnawdol ydoedd ef, ac mewn gwth o oedran. Treuliasai ei ddyddiau ym myddin Prydain Fawr... fel milwr dewr a phybyr. Pan ddychwelodd yr hen soldiwr i'w dref enedigol, yr oedd yn ddiffygiol o'i goes dde," meddai Rhys.

Ond yn ôl y beirniaid llenyddol go brin bod yna Robyn y Sowldiwr go iawn yn ardal Yr Wyddgrog ond ei fod yn gyfuniad o wahanol ysgolfeistri y gwyddai Daniel Owen amdanynt yn yr ardal.
Ond y mae o ddiddordeb i'r Comisiynwyr Addysg gyfeirio, yn y Llyfrau Gleision, yn dilyn eu hymweliad â'r Wyddgrug yn 1857 at ddyn a choes bren ganddo a oedd yn ysgolgfeistr er nad oedd ganddo unrhyw gymwysterau addysgol.

Ac wrth sôn am Robyn mae'r nofelydd yn dweud mai'r unig rai a wrandawai ar Robyn druan "gyda gradd o ddiddordeb" oedd mynychwyr y Cross Foxes "lle yr oedd Robert yn ymwelydd cyson".

Gwir gelwydd, celwydd gwir . . . ta be?

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü:

Glyn Evans | 09:29, Dydd Gwener, 3 Ebrill 2009

Sylwadau (0)

Mae'n ymddangos i mi - lleia'n byd ydych chi'n ei wybod am bêl-droed ac, yn sicr, lleia'n byd ydych chi'n ei wybod am hanes Brian Clough mwya'n byd ydych chi'n mynd i fwynhau'r ffilm, The Damned United.

Mae'n hen, hen, ystrydeb newyddiadurol mai gohebydd sâl sy'n gadael i ffeithiau ddifetha stori dda.

Ac er nad yw honna'n athroniaeth dderbyniol mewn newyddiaduraeth go iawn mae rhwydd hynt i nofelwyr wneud â fynnont.

A dyna eni'r greadures ryfedd honno a elwir yn 'nofel ffeithiol ffug' lle mae'r awdur yn ystumio digwyddiadau go iawn a thylino pobl go iawn er mwyn creu stori afaelgar.

A phan gyhoeddwyd nofel David Peace, The Damned United, y sylfaenwyd y ffilm arni fe'i disgrifiodd fel "another fiction, based on another fact".

Ond does bosib nad y cwestiwn sylfaenol ynglŷn â gweithiau o'r fath yw, Sut mae'r darllenydd i wybod pa ran o'r hyn mae'n ei ddarllen sy'n ffaith a pha ran sy'n ffrwyth dychymyg oni bai ei fod yn gwbl hyddysg yn y maes?

Gwir fod yr awdur ei hun wedi ei amddiffyn gan reolau enllib sy'n ei alluogi i ddweud beth a fyn am y marw heb ei gosbi - ond sut mae amddiffyn darllenwyr a chynulleidfaoedd ffilm rhag cael eu camarwain i gredu anwireddau?

Yn achos The Damned United dim ond un o'r 'cymeriadau' allodd ddial trwy gyfraith, y canolwr Johnny Giles a dderbyniodd iawndal ac ymddiheuriad gan yr awdur a'r cyhoeddwyr oherwydd yr hyn ddywedir amdano.

Doedd dim iawn o'r fath yn bosibl i gymeriadau eraill fodd bynnag, a hwythau wedi marw.
Mewn achosion fel hyn mae gan yr anwybodus yn y maes y fantais o fedru mwynhau'r fiction heb orfod ymboeni am y ffeithiau ond mae'n rhaid ei fod yn brofiad hynod rwystredig i'r rhai hynny sy'n hyddysg yn y maes o weld ffrwyth dychymyg yn cael ei gyflwyno fel ffeithiau.

Michael Sheen yn The Damned United

"Yr ydw i'n pryderu'n fawr y bydd pobl sy'n gweld y ffilm neu ddarllen y llyfr yn credu i'r pethau hyn ddigwydd fel yr ymddangosant yn y llyfr a'u bod yn ddarlun gonest o Brian Clough," meddai un adolygydd gan gwyno er mai rhywbeth a ymddangosodd yn yr Wythdegau hwyr oedd dibyniaeth Clough ar alcohol ei fod yn cael ei ddarlunio yn y llyfr a'r ffilm fel aflwydd ei gyfnod gyda Leeds United yn y Saithdegau.

Mae'n gwestiwn digon teg: Os oedd Peace eisiau sgrifennu nofel am bêl-droed pam nad creu un gyda thîm a chymeriadau dychmygol yn hytrach nag ystumio'r gwirionedd a chamarwain yr anwybodus?

Cododd yr union bwnc hwn yn dilyn Eisteddfod Genedlaethol Eryri lle'r enillodd nofel Siân Eirian Rees Davies wobr goffa Daniel Owen gyda'i nofel I Fyd Sydd Well am yr ymfudwyr cyntaf i'r Wladfa ym Mhatagonia.

Ynddi, creodd berthynas gyfunrywiol rhwng Edwyn Cynrig Roberts a Lewis Jones a pherthynas odinebus rhwng Roberts a gwraig Jones er nad oes unrhyw sail o gwbl i'r ddamcaniaeth.
Yn debyg iawn i Peace amddiffynnodd hithau ei hun trwy ddweud:

"Ffug yw'r holl gymeriadau, hyd yn oed pan wyf yn rhoi enwau ffeithiol ar y cymeriadau hynny."
Ond a yw creu fiction o'r fath "based on another fact" yn deg â darllenwyr ac â'r cymeriadau sy'n cael eu haddasu?

Mae'r ateb yn un hawdd iawn i deuluoedd Clough a disgynyddion Lewis Jones ac Edwyn Cynrig Roberts os nad i ni . . .

´óÏó´«Ã½ iD

Llywio drwy’r ´óÏó´«Ã½

´óÏó´«Ã½ © 2014 Nid yw'r ´óÏó´«Ã½ yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.