Cofio 1984
Yr adeg hon ym mis Mehefin drigain mlynedd yn ôl yr oedd darllenwyr a'u trwynau mewn nofel newydd ysgytiol. Un o nofelau mawr yr ugeinfed ganrif.
Nofel sy'n parhau i adleisio o fewn ein diwylliant poblogaidd.
Bythefnos yn ôl, ar Fehefin 8 1949, y cyhoeddwyd nofel dywyll George Orwell, Nineteen eighty-four ac er i'r awdur farw o fewn saith mis i'w chyhoeddi mae'r gyfeiriadaeth at y nofel yn parhau.
O'r nofel y daw teitlau dwy raglen deledu boblogaidd, Big Brother a Room 101.
Ar sail gweledigaeth lom 1984 y bathwyd yr ansoddair Orwellian yn y Saesneg ac Orwelaidd yn y Gymraeg. Yn y nofel hon y rhoddwyd bod i Newspeak, Doublethink, Thoughtcrime a'r Thought Police gydag amrywiadau fel Plismyn Iaith yn dal i gael eu bathu hyd yn oed yn y Gymraeg.
Ac i lawer ohonom, yr ydym yn dal i chwilio am linell agoriadol gan unrhyw awdur i ragori ar eiriau cyntaf Nineteen eighty-four:
"It was a bright cold day in April, and the clocks were striking thirteen."
Pwy allai wrthsefyll y demtasiwn i ddarllen ymhellach?
Mae'r dadlau'n parhau ynglŷn â theitl y nofel - neu ddewis Orwell o flwyddyn ei nofel.
Un gred gweddol gyffredin yw mai troi o chwith flwyddyn gorffen ei sgrifennu a wnaeth, 1948, ond mae eraill yn honni mai cyfeirio yr oedd at ganmlwyddiant sefydlu'r Fabian Society yn 1884.
Dyfalaid arall yw iddo ddewis yr un flwyddyn ag a wnaeth un o'i hoff awduron, G K Chesterton, yn ei stori The Napoleon of Notting Hill.
Beth bynnag am hynny, yr oedd Orwell yn pendilio hyd y diwedd un rhwng Nineteen eighty-four a The Last Man in Europe tra'n dal i feddwl am rywbeth gwell na'r ddau
Yr oedd Orwell mewn iechyd difrifol yn cael ei oddiweddyd gan y diciâu ac yn dal mewn galar dwys wedi marwolaeth annisgwyl ei wraig, dan anesthetig ar fwrdd llawfeddyg, pan enciliodd gyda'i fab bychan, Richard, i gwblhau'r nofel ar ynys Jura yn yr Alban lle'r oedd yn cael ei adnabod wrth ei enw go iawn, Eric Blair.
A chael a chael fu hi ac yntau bron yn rhy wan i eistedd wrth ei deipiadur ond yno y rhoddodd yr awdur - a ddywedodd bod "rhyddiaith dda fel cwarel ffenest" - ei weledigaeth o'r gymdeithas dotalitaraidd, lom, yr oedd Winstone Smith yn byw ynddi ar bapur.
Ac mae'n dal i fod yn symbol - ac yn rhybudd - o gymdeithas lle cyfyngir â hualau swyddogol ar ryddid unigolion gan wleidyddion a swyddogion sifil sydd hefyd yn defnyddio iaith i reoli meddyliau pobl trwy wyrdroi ystyr geiriau.
Bu'n nofel a efelychwyd mewn ffilm a llyfr ers hynny gan gynnwys, yn y Gymraeg, Wythnos yng Nghymru Fydd gan Islwyn Ffowc Elis.
Ond yn wahanol i Orwell mae'r Cymro yn cynnig dwy weledigaeth cwbl groes i'w gilydd o Gymru'r dyfodol un yn baradwys Gymraeg a'r llall yn hunllef lle mae'r siaradwraig Gymraeg olaf yn adrodd Gweddi'r Arglwydd.
Yn ei bropaganda lenyddol a gyhoeddwyd gan Blaid Cymru, neges amlwg Islwyn Ffowc Elis oedd mai penderfyniadau gwleidyddol Cymry'r presennol, adeg sgrifennu'r nofel yn 1957, fyddai'n pennu ai'r freuddwyd ynteu'r hunllef ddeuai'n wir.
Ond chafodd ei nofel ef, er mor ddifyr i'w darllen, mo'r gafael ar ddychymyg y Cymry ac a gafodd Nineteen eighty-four ar weddill y byd.
Fel y byddech yn disgwyl bu sawl ymdrech, pan gyrhaeddwyd y 1984 go iawn, a ymddangosai mopr bell yn y dyfodol pan sgrifennai Orwell, i restru beth gafodd Orwell 'yn iawn' a lle methodd yn ei broffwydoliaeth lem.
Ond colli'r pwynt yw mynd ar ôl manylion. Hel manus. tra'n colli'r grawn. Y syniad mawr sy'n bwysig ac mae pryderon Orwell mor real heddiw ag erioed.
Yn wir, efallai y tybiwch eu bod yn nes nag erioed at fod yn wir yn nyddiau brodyr mawrion sydd â chyfrifiaduron at eu galw . . .
- George Orwell a'r ´óÏó´«Ã½ (Gwefan Saesneg gan y ´óÏó´«Ã½)
- Hanes George Orwell (Gwefan Saesneg gan y ´óÏó´«Ã½)