´óÏó´«Ã½

« Blaenorol | Hafan | Nesaf »

Arbrawf radio gweledol - Tocyn Wythnos ar y we

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü: ,Ìý

Blogiwr Gwadd | 21:10, Dydd Mawrth, 4 Awst 2009

Mae arlwy arlein ´óÏó´«Ã½ Cymru o'r Eisteddfod yn ehangu bob blwyddyn, ac eleni ry'n ni wedi bod yn cynnal arbrawf diddorol yn ychwanegol at y ffrwd byw o'r llwyfan, y gwasanaeth canlyniadau, y clipiau fideo a'r holl straeon a blogiau o'r Maes.

Beti George yn y stiwdio

Tocyn Wythnos yw rhaglen nosweithiol Radio Cymru o'r ŵyl, gyda Beti George a'i gwesteion yn trafod y cystadlu ac uchafbwyntiau'r dydd.

Yn ôl Medwyn Parri, cynhyrchydd y ddarpariaeth deledu o'r Eisteddfod, "Mae Beti George wedi bod yn dweud wrthai ers blynyddoed mai Tocyn Wythnos oedd y rhaglen orau i ddod o'r Steddfod, felly ro'n i eisiau rhoi cyfle i bobl ei gweld hi hefyd! Mae criwiau'r ´óÏó´«Ã½ yma yn darlledu ar dri phlatfform - teledu, radio ac arlein - a dyma gyfle inni gyd weithio efo'n gilydd."

Felly aed ati i gynllunio arbrawf uchelgeisiol o greu rhaglen radio fyw gyda lluniau, trwy gyfrwng ffrwd fideo ar ein gwefan Eisteddfod, gan fanteisio ar yr adnoddau teledu ac arlein fyddai ar safle'r ´óÏó´«Ã½ ar y Maes yn barod.

Roedd ein cynnig cyntaf ar radio gweledol nôl ym mis Ebrill, gyda Dyl Mei a Huw Evans yn rhoi sylwebaeth amgen ar Wobrau Roc a Phop Radio Cymru o flaen gwegamerâu mewn stiwdio gyfagos. Ond dyma her newydd - saith noson o gynhyrchu rhaglen radio mewn stiwdio deledu, gyda degau o westeion ac eitemau, a'i gwelifo'n fyw o ganol cae ger Y Bala.

Y drefn felly ydi bod Beti a'i gwesteion yn eistedd yn y stiwdio deledu fach sy'n gartref i raglenni'r Babell Lên gyda'r dydd, tra bo Catrin y cynhyrchydd yn rheoli'r rhaglen radio o fws y ´óÏó´«Ã½.

Ar yr un pryd, mae Heather yn eistedd yn y Sganyr - lori fawr yn llawn sgriniau ac offer ar gyfer darllediadau allanol teledu - yn cyfarwyddo'r camerâu a dewis y lluniau.

Mae'r dynion sain ar y bws yn gyrru'r sain lawr llinellau ffôn digidol ISDN i Ganolfan y ´óÏó´«Ã½ yng Nghaerdydd ar gyfer ei darlledu ar Radio Cymru, tra bo'r sain a fideo yn cael eu bwydo gyda'i gilydd at Andy yn y caban codyddu, a'i bentwr o beiriannau ffrydio, sy'n trosi'r rhaglen i fformat Flash a'i anfon allan i weinyddion ffrydio'r ´óÏó´«Ã½ yn Llundain dros gyswllt lloeren i'r rhyngrwyd.

Nid oes fideo ar gael i bob eitem serch hynny - gyda rhai cyfweliadau a recordiwyd o flaen llaw ry'n ni'n ceisio tynnu ffotos ar gamerau digidol bach i'w harddangos ar y sgrîn.

cabanau.jpg

Yr un peth oedd yn flaenoriaeth i bawb oedd cadw ysbryd y rhaglen radio o sgwrsio anffurfiol.

"Ar raglen radio mae rhywun yn cael parablu fel maen nhw eisiau," meddai Beti George wrthai.

"Ar ôl y rhaglen nos Fawrth roedd Ceri Wyn, enillydd y Goron, yn diolch am y cyfle o gael sgwrs eang a chael yr amser i egluro beth oedd yn y darn buddugol a'r themâu yn y gwaith. Doedd e ddim yn sylwi bod y camerâu yna!".

Mae Catrin Huws, cynhyrchydd Tocyn, yn cytuno.

"Ry'n ni wedi arfer gwneud y rhaglen rownd bwrdd mewn stiwdio radio - mae 'na agosatrwydd corfforol a theimlad o eistedd mewn stafell yn sgwrsio yn hytrach na 'pherfformio', fel sy'n gallu digwydd ar deledu," meddai.

Roedd hi'n awyddus i gadw'r un awyrgylch er gwaetha'r newid lleoliad:

"Roedd hi'n dipyn o sioc i'r bobl camera pan aethon ni fewn i'r stiwdio deledu ac ail-drefnu'r cadeiriau fel roedden ni eisiau - roedd yn bwysicach i ni fod pobl yn wynebu'i gilydd er mwyn hwyluso'r sgwrs yn hytrach na'r holi un-wrth-un sy'n fwy arferol ar deledu, a doedd dim ots gennym ni os oedd pobl yn cerdded o flaen y camerâu!"

Dyw'r camerâu ddim yn poeni Beti, sy'n frwdfrydig dros yr arbrawf.

"Mae'n glir bod hwn yn rhywbeth gwerth ei wneud. Mae pobl eisiau gweld pethau y dyddiau yma, a thrwy'u rhoi hwn ar y we ni'n ehangu'r gynulleidfa. Ond dwi ddim eisiau anghofio mai rhaglen radio yw hi.

"Mae rhaglenni radio yn gallu bod yn fwy difyr ac yn fwy agos atoch chi ac mae eisiau bod yn ofalus nad y'n ni'n colli hynny wrth ddarlledu o set teledu, sydd gymaint mwy eang."

Hyd yma mae'r gwesteion wedi bod yn ddigon hapus i sgwrsio o flaen y camerâu.

"Mae wedi bod yn ddiddorol gweld angerdd pobl ar y sgrîn, y chwifio breichiau, a phawb yn cymryd rhan yn y drafodaeth," meddai Catrin.

"Does dim problemau mawr wedi bod'; mater o ddod i arfer yw e - ni ddim wedi gwneud hyn o'r blaen. Mae mwy o gur pen i'r technegwyr yn cysylltu'r holl feeds rhwng yr uned radio a'r uned teledu a'r stiwdio."

"Er enghraifft, fel arfer ni sy'n chwarae clipiau o'r cystadlu i fewn i'r rhaglen ein hunain, felly mae'n wahanol iawn cael y clipiau yna'n cael eu bwydo o sganyr teledu. Dim ond un glitsh sy di bod hyd yma - mae'n drefn newydd i bawb," meddai.

"Ond dyma'r ffordd ymlaen!"

Mae Sian Gwynedd, Golygydd Radio Cymru, hefyd wedi bod yn mwynhau'r rhaglenni arbennig ar y radio ac ar y we:

"Mae'n bwysig ein bod ni'n arloesi a gwthio ffiniau a thrio pethau newydd. Dwi'n meddwl bod y criwiau cynhyrchu radio yn naturiol wedi poeni bydden nhw'n gorfod cyfaddawdu wrth gynhyrchu'r rhaglen yn y dull yma - ond dyw hynny ddim di digwydd - felly i fi, mae'n arbrawf llwyddiannus a rhywbeth allwn ni adeiladu arno fe efo digwyddiadau a rhaglenni eraill.

"Dwi di synnu faint o ddiddordeb sy ynddo, a phobl yn holi sut mae'n gweithio. Mae bendant werth ei wneud."

Mae'r rhifynnau arbennig o Tocyn Wythnos yn cael eu dangos yn fyw ar ein gwefan Eisteddfod trwy gydol yr wythnos, ac ar gael i wylio eto am saith diwrnod ar ôl y darllediad - perffaith ar gyfer dal i fyny ar ôl dychwelyd adre o'r Bala!

Os y'ch chi wedi bod yn gwylio Tocyn Wythnos arlein - neu'n gwrando yn y dull arferol ar eich radio hyd yn oed - mi fyddem ni'n falch iawn clywed eich barn am yr arbrawf radio gweledol, a holl ddarpariaeth arlein y ´óÏó´«Ã½ o'r Eisteddfod eleni.

Gallwch daro'ch sylwadau i lawr yn y blwch sylwadau ar waelod y blog hwn.

SylwadauAnfon sylw

  • 1. Am 22:21 ar 5 Awst 2009, Griff Williams ysgrifennodd:

    Tocyn Wythnos gweledol: - Mae TW wastad wedi bod yn raglen wych ac mae ei gwneud yn weledol yn ychwanegiad bendigedig. Mae Beti yn fy marn i y darlledydd mwy professiynol ar y radio a theledu yng Ngymraeg. Fe allai amryw o'r rhai ifanc a llawer o'r rhai profiadol wneud cymwynas a ni wrth ei hefelychu.

  • 2. Am 23:55 ar 9 Awst 2009, Carwyn Edwards ysgrifennodd:

    Gwasanaeth gwych! Dal ati!! Hyd yn oed yma yn Arizona ni'n gallu mwynhau pob rhan o'r Eisteddfod diolch i'r dechnoleg yma ! Dal ati bawb!!!!

´óÏó´«Ã½ iD

Llywio drwy’r ´óÏó´«Ã½

´óÏó´«Ã½ © 2014 Nid yw'r ´óÏó´«Ã½ yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.