Bore bach glân
O ran natur yr ydw i'n godwr eithaf cynnar.
Ond yn ystod fy arhosiad yn Y Bala mi gefais i help 'cloc larwm' go anarferol i'm cael ar fy nhraed.
Lori sgubo'r stryd y cyngor lleol yn gwneud y sŵn mwyaf dychrynllyd am gyfnod maith yn bustachu mynd a dod ar hyd y strydoedd â'm deffrodd i bob bore yn ddieithriad.
Mae rhywun yn cymeradwyo gwasanaeth, siwr iawn, sy'n cadw'r Bala yn dirion ac yn deg - yn enwedig y dyddiau hyn o gwtogi ar bopeth.
Ond os yw hwn yn wasaneth arferol mae'n rhaid gen i fod trigolion Y Bala un ai yn gysgwyr y tu hwnt o drwm - neu yn deffro'n gynt na phawb arall yng Nghymru'i gyd.
Ond fy hun, allwn i ddim peidioâ meddwl, wrth droi at y pared, fod pedwar o'r gloch y bore braidd yn gynnar i fod yn defnyddio peiriant mor eithriadol o swnllyd i sgubo strydoedd.