´óÏó´«Ã½

« Blaenorol | Hafan | Nesaf »

Rhagor gan Nia - o gefn y llwyfan

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü: ,Ìý

Blogiwr Gwadd | 07:38, Dydd Iau, 6 Awst 2009

Nia Lloyd Jones Radio Cymru yn blogio o gefn y llwyfan

Dydd Llun
Dechrau'r diwrnod yng nghwmni Endaf Morgan o Lanbedr-pont-Steffan - myfyriwr sydd yn astudio meddygaeth yng Nghaerdydd, chwaraewr rygbi o fri, a phianydd ardderchog hefyd!

Ydi chwarae rygbi a chanu'r piano yn gyfuniad doeth tybed? Ta waeth....dymuniadau gorau iddo hefyd ym Marathon Berlin ymhen y mis.

Duw a ŵyr sut mae o'n llwyddo i gael amser i wneud popeth.

Rhys Meilir wedyn - yn ennill dwy wobr gyntaf am ganu dan 12 oed. Hogyn bach annwyl dros ben.

Yr unig broblem ydi ei fod o'n cefnogi Man U!
Go brin iddo fwynhau y gêm yn erbyn Valencia nos Fercher!

Dwi wrth fy modd yng nghwmni'r criw gefn llwyfan. Mae'r rhain yn tynnu coes o ben bore tan nos a finna'n trio cadw trefn arnyn nhw. Dipyn o dasg!

Criw Derwent
Roedd Telynorion Cwm Derwent o Swydd Derby yn ôl ar y llwyfan ddoe.

Dyma griw o gerddorion ifanc sydd wrth eu boddau yn dod i'r steddfod bob blwyddyn i gystadlu ar y gystadleuaeth grŵp offerynnol ac maen nhw'n mynd a'u 'mascot' efo nhw ar y llwyfan - Twm Sion Cati.

Addas iawn eleni ac yntau'n dathlu ei ben-blwydd yn 400. Roedd pob un ohonyn nhw ar y llwyfan yn gwisgo cap stabl, ac un wedi gorfod benthyg cap heddiw gan y Stiwardiaid, ar ôl gadael y gwreiddiol yng Nghaerfyrddin!

Mali Fflur, Ffion Elin a Celyn Llwyd Cartwright oedd yn cystadlu ar yr unawd gerdd dant dan 12 oed ond yn hytrach na thrafod canu hefo nhw - fe gawson nhw sgwrs am ffasiwn!

Roedd y tair wedi dewis eu dillad llwyfan yn ofalus, a Ffion Elin yn cyfaddef nad oes dim yn well ganddi na mynd i gystadlu mewn eisteddfodau bach lleol, a wedyn gwario'r enillion ar ddillad newydd!

Rygbi oedd y pwnc dan sylw ymysg y bechgyn ddoe - Llyr Gwynedd, Rhydian Jenkins ac Aron Dafydd. Aron yn cefnogi'r Scarlets, Llyr yn cefnogi'r Gweilch, a Rhydian ar fin mynd am dreialon i Academi'r Gweilch ... er ei fod yn cefnogi'r Scarlet! Roeddwn i wedi drysu'n lan erbyn y diwedd!

Braf iawn oedd gweld WJ o Lanbrynmair yn ei wisg wen a chlamp o wên ar ei wyneb fel arfer.
Diolch am y sws hefyd!

´óÏó´«Ã½ iD

Llywio drwy’r ´óÏó´«Ã½

´óÏó´«Ã½ © 2014 Nid yw'r ´óÏó´«Ã½ yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.