´óÏó´«Ã½

Archifau Medi 2009

Sicr ei drawiad

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü: ,Ìý

Glyn Evans | 12:10, Dydd Mercher, 30 Medi 2009

Sylwadau (0)

Mae Dafydd Wyn Jones yn cael ei ddisgrifio fel "un o'n pennaf englynwyr" gan olygydd barddol un o'r papurau enwadol.

Ac i brofi'r pwynt mae Geraint Lloyd Owen yn dyfynnu tusw o'i englynion yng Nghornel y Beirdd rhifyn yr wythnos hon o'r Goleuad.

Clawr Cribinion

Geraint, meddai, lywiodd gyfrol ddiweddar Dafydd Wyn Jones, Cynefin, drwy'r wasg yn rhinwedd ei swydd fel Swyddog Cyhoeddi Gwasg y Bwthyn ac o'r gyfrol honno y daw ei ddetholiad.

"Bu yn un o hoelion wyth ymrysonfeydd y Babell Lên a'r Talwrn ers blynyddoedd, a'i ergydion barddol yn ennyn cymeradwyaeth a 'deg marc' cyson gan fy mrawd bach," meddai.

Ac yn y cywair hwnnw un o'r englynion y mae'n ei ddyfynnu o'r gyfrol ydi Beddargraff Meuryn:

Ni welai grefft na delwedd, gwael ei farc,
Gwelai fai'n ddiddiwedd,
A phwt gwan digynghanedd
A wna'r tro i farcio'i fedd.

Englyn arall sy'n goglais yw Nodyn Rhiant i Brifathro

Bennaeth, os gelli, esbonia - ffrydio
Ein Ffredi i'r isa'
A chog Agnes drws nesa' -
Hen yffar dwl - i Ffrwd A.

Dywed Geraint y bydd mwy "i fawrygu dawn yr englynwr bythwyrdd hwn" yn rhifyn yr wythnos nesaf o'r Goleuad.

Edrychwn ymlaen.

Grymoedd golygyddol

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü: ,Ìý

Glyn Evans | 07:35, Dydd Mercher, 30 Medi 2009

Sylwadau (0)

Mae'r drafodaeth ynglŷn â faint o olygu sydd yna ar gyfrolau buddugol yr Eisteddfod Genedlaethol cyn i ni eu gweld nhw yn tyfu'n un ddifyr - ac astrus.

Rwy'n siŵr bod sawl un dan y camargraff fod yr hyn a ddarllenwn ni yng nghyfrolau y Fedal Ryddiaith, Gwobr Goffa Daniel Owen a'r 'Cyfansoddiadau' yr hyn a welodd y beirniaid hefyd.

Ar wahân, efallai, i adfer ambell i goma coll, dyblu rhyw 'n' neu ddwy a chywiro ambell i wall sillafu.

Ond ar y rhaglen radio Wythnos Gwilym Owen ddydd Llun daeth yn eithaf amlwg fod mwy na hynny'n digwydd weithiau.

Gwilym Owen - mynd at wraidd y golygu gweithiau buddugol.jpg

Yn achos Igam Ogam, nofel fuddugol 'y Daniel' yng Nghaerdydd y llynedd, er enghraifft, ail luniwyd yr ail hanner trwy adael allan dalp o'r hyn anfonodd yr awdur i'r gystadleuaeth er mwyn cyflymu'r stori.

Mae hynny'n swnio'n dipyn o newid - yn sicr yn fwy na gosod to bach fan hyn neu ddodi 'n' neu ddwy fan draw.

Roedd yn sylw digon teg ar y rhaglen; A yw llyfrau hynny sydd angen eu doctora yn haeddu ennill y wobr yn y lle cyntaf?

Ac yn ôl golygydd Y Lolfa, Alun Jones, bu enghreifftiau hefyd o wella pethau mor gysygredig ag awdlau cyn i ddarllenwyr y Cyfansoddiadau eu gweld!

Mae rhywun yn cael ei demtio i holi tybed a yw'r Eisteddfod Genedlaethol gymaint o eisiau seremoniau gwobrwyo fod ei beirniaid ofn 'atal y wobr' a dweud wrth awduron gorau - ond nid digon da - cystadleuaeth am fynd yn ôl at eu sgrin a chychwyn eto.

Efallai bod y darllenwyr yn cael y llyfr gorau posib dan y drefn sydd ohoni ond a yw'r rhai sydd yn y pafiliwn yn sylweddoli mai cymeradwyo y maen nhw weithiau gyda'r lleiaf o waith golygu arno yn hytrach na gwir glasur?

A sut gysgod ac amheuaeth mae gwybod hyn yn ei daflu dros yr ymgeiswyr buddugol hynny na fu'n rhaid golygu a gwella eu hymgeision?

Ai angen mawr y Steddfod, felly, yw rhagor o feirniaid fel rhai'r gadair yn Y Bala eleni sy'n ddigon dewr i atal gwobrau?

Fel arall, peryg bod gwawr dyddiau aur golygyddion dewr a beirniaid llwfr ar dorri!

Rhywbeth na fyddai o wir les i na darllenwyr na phrif lenorion, prifeirdd na phrif nofelwyr.

Be dybiwch chi?

Gwrando ar y drafodaeth ar Wythnos Gwilym Owen

O! O! - methu taro deuddeg?

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü: ,Ìý

Glyn Evans | 07:15, Dydd Mercher, 30 Medi 2009

Sylwadau (0)

Wrth wylio gyda chryn ddifyrrwch - cwbl anwleidyddol - y ffordd y mae prif weinidog y Cynulliad, Rhodri Morgan, yn chwarae mig â newyddiadurwyr ynglŷn â dyddiad ei ymddeoliad cododd rhywfaint o ddryswch mathemategol.

Hynny yw, ac yntau'n 70 oed pam mai 12 o ganhwyllau oedd ar ei gacen?

Rhodri 70 Morgan

Byddai rhywun wedi deall saith - un am bob deng mlynedd o'i oed. Ond 12?

Ydi o rywbeth i'w wneud â disgyblion tybed?

Ynteu neges symbolegol Ddan Brownaidd sydd yma ei fod am ddal ati am ddeuddeng mis arall?

Ffigwr y gacen yn y DP

A thra'r ydym ni wrthi'n clandro ffigurau; Pam mai '07' nid 70 ymddangosodd mewn llun o'r gacen yn y Daily Post heddiw?

Aeth pethau gymaint o chwith wrth bobi. Ynteu ai'r neges yw mai rhyw James Bond wedi tangyflawni ydi'n prif weinidog?

Mae'r hwyaid ungoes mewn slwj yn disgwyl am eu gwacamoli . . .

Twll Taliesin

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü:

Glyn Evans | 08:18, Dydd Mawrth, 29 Medi 2009

Sylwadau (0)

Gydag ond ychydig dros fis cyn y bydd Cyngor Llyfrau Cymru yn dod i benderfyniad ynglŷn â dyfodol Barn a Sylw mae cylchgrawn Cymraeg arall wedi cael ei hun mewn twll wrth i'w olygyddion ymddeol.

Er nad oedd unrhyw awgrym yn rhifyn diweddaraf y byddai hynny yn digwydd, mae Manon Rhys a Christine James wedi dweud ers hynny y byddan nhw'n mynd.

Ac ar y radio ddoe cadarnhaodd Harri Pritchard Jones, cadeirydd yr Academi, sy'n cyhoeddi Taliesin, i'r cyhoeddiad gan y ddwy ddod "yn sydyn".

Yn wir, yn y rhifyn diwethaf ond un yr oedd y ddwy yn eu nodiadau golygyddol yn addo wrth gyfiawnhau codi pris y cylchgrawn o £4 i £6.95 ymdrechu "fel erioed" i ddarparu'r gwerth gorau am arian ym mhob rhifyn "o ran cynnwys a diwyg".

Gorfodwyd y codiad sylweddol hwnnw gan benderfyniad Cyngor Llyfrau Cymru i roi llai o grant i'r cylchgrawn a hwythau, ill dwy, yn "mynegi ein pryder ynghylch y penderfyniad i godi'r pris i'r fath raddau mewn un naid".

Manon Rhys a Christine ar wefan Taliesin

A dyma nhw yn awr, wedi cyhoeddi ond un rhifyn yn unig am y pris newydd, yn cyhoeddi eu bod am ddirwyn eu tymor i ben ddeng mlynedd ers derbyn yr awennau yn 1999.

A hynny, er iddyn nhw ddweud yn eu rhifyn £6.95 cyntaf eu bod yn "edrych ymlaen" at rifyn dathlu denglwydd eu golygyddiaeth fis Rhagfyr 2009.

"Ddeng mlynedd, a deg rhifyn ar hugain yn ddiweddarach, a'r unfed ganrif ar hugain hithau bron yn ddeng mlwydd oed, bydd yn naturiol inni yn rhifyn 138 ystyried rhai o'r newidiadau a'r datblygiadau aruthrol a welwyd mewn sawl maes yn ystod y degawd diwethaf," medden nhw.

Yn siarad gyda Gwilym Owen ar Radio Cymru ddoe gwadodd Harri Pritchard Jones bod unrhyw awgrym o dorri calon yn eu penderfyniad i ymadael dim ond teimlad ei bod yn "amser symud ymlaen" i wneud pethau eraill.

A'r dyfodol i'r cylchgrawn a'i 800 o brynwyr?
Wel, mae gan olygyddion mewn gobaith tan Hydref 16 i anfon eu cais i mewn i'r Academi - ar gyfer cael eu cyfweld ar Dachwedd 10 - heb anghofio cynnwys "amlinelliad cryno (tua 500 gair) o'u gweledigaeth ar gyfer y cylchgrawn".

Un peth sy'n sicr, bydd pwy bynnag ddaw i'r adwy mewn olyniaeth anrhydeddus iawn gyda Gwenallt, y golygydd cyntaf yn 1961.

Ac ymhlith y rhai a'i dilynodd ef yr oedd D Tecwyn Lloyd, Islwyn Ffowc Elis, R Gerallt Jones a Bedwyr Lewis Jones . . .
Taliho.

Goleuo darllenwyr

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü: ,Ìý

Glyn Evans | 09:59, Dydd Iau, 24 Medi 2009

Sylwadau (0)

Efallai eich bod chwithau yn un o gymwynaswyr yr amgylchedd, yn genhadwr eich cynefin, a'ch ôl troed ond yn seis un neu ddau.

Ac, ymhlith pethau eraill, yn ail ddefnyddio hen amlenni i anfon pethau drwy'r post.

Ond byddwch ofalus - efallai eich bod yn achosi costau a chur pen i rywun!

Neges i'r darllenwyr ar yr union bwnc yn rhifyn yr wythnos hon o'r Goleuad, newyddiadur y Presbyteriaid:

"Pwysig," gwaedda nerth esgyrn ei brint:
"A fyddai'r rhai ohonoch sy'n derbyn Y Goleuad drwy'r post gystal â pheidio ag ail ddefnyddio'r amlenni os gwelwch yn dda, neu sicrhau eich bod yn gorchuddio enw a chyfeiriad Gwasg y Bwthyn gan gynnwys stampiau digonol.

Pwysigrwydd ailgyfeirio ailgylchiad yn iawn!

"Yn aml iawn mae Gwasg y Bwthyn yn derbyn llythyrau wedi eu cyfeirio at eraill, a hefyd yn gorfod talu ffi ychwanegol am eu derbyn am nad oes digon o stampiau arnynt - sylwer fod angen stampiau 'llythyr mawr'! Diolch.

Ni ellir ond diolch i'r Goleuad - am ein goleuo. Gyda'r bylbiau cywir gobeithio.

Cewri'n gwrthdaro

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü: ,Ìý

Glyn Evans | 08:29, Dydd Iau, 24 Medi 2009

Sylwadau (0)

Mae'r darlun o Waldo Williams yn y gyfrol ddiweddaraf i'w chyhoeddi am D J Williams, Y Cawr o Rydcymerau, yn un "anghyflawn ac annheg" yn ôl golygydd oedd yn adnabod y ddau.

Heb os, y mae'r disgrifiadau o'r berthynas rhwng y ddau genedlaetholwr mawr yn un o'r pethau mwyaf diddorol yn y gyfrol gan Emyr Hywel a gyhoeddwyd yn ddiweddar.

Gyda dyfyniadau o ddyddiaduron D J Williams mae Emyr Hywel yn dangos sut yr oedd 'DJ' yn anobeithio ynglŷn â'r hyn a eilw'n aneffeithiolrwydd Waldo fel ymgyrchydd yn ystod Etholiad Cyffredinol 1959.

"Teimlo nad yw Waldo yn manteisio'n ddigonol ar bob cyfle yn y Wasg a ffurfio pwyllgorau, i beri i bobl weithio a dadlau eu hunain ar bethau, yr wyf i," meddai DJ yn un lle.

"Siomedig o glywed Waldo'n sôn am fynd draw i Iwerddon dros yr haf yma i ddysgu Gwyddeleg, y gŵyr lawer ohoni yn barod - a chymaint o'i angen yn Sir Benfro i gynnal cyrddau ac agor llygaid y bobl," meddai dro arall.

D J Williams a Waldo Williams

Mae hyd yn oed yn feirniadol o safiad hyd at garchar Waldo yn erbyn gorfodaeth filwrol:

"Mae lle i ddadlau mai dihangfa rhag gwneud gwaith ymarferol o ddydd i ddydd dros achos Cymru yw mynd i garchar am ychydig fisoedd yn awr ac eilwaith fel protest yn erbyn gorfodaeth filwrol. Mae diogelwch yno dros dro, ac nid yw mor galed â hynny," meddai.

Ond yn ôl Emyr Llywelyn sy'n dyfynnu'r sylwadau hyn a rhai eraill tebyg yn y cylchgrawn y mae'n ei olygu, , "nid yw'r darlun a roddir gan D.J. o Waldo yn rhoi'r darlun cyflawn a'r gwirionedd am Waldo."

Ychwanega: "Gwn fod darlun D.J. o Waldo fel dyn aneffeithiol ac anymarferol yn wir, ac eto mae'n ddarlun hollol unochrog ac anghyflawn ac annheg.

"Efallai mai Waldo oedd y cenhadwr gwleidyddol mwyaf aneffeithiol a fu erioed, ond gwn mai ef oedd y dyn mwyaf i mi ei gyfarfod erioed, am fod ganddo'r peth hwnnw sydd yn dylanwadu fwy na'r un dadl na phamffled sef purdeb calon - y purdeb hwnnw sydd uwchlaw gweithgarwch a ffyddlondeb i blaid neu fudiad," meddai.

Mae Emyr Llywelyn yn datgelu hefyd sut y bu iddo yntau ennyn llid D J Williams am fynnu diwrnod yn ystod ymgyrch Etholiad Cyffredinol 1964 i gofrestru ym Mhrifysgol Aberystwyth.

"Roedd D. J. Yn ddig iawn, iawn am hyn ac yn anfodlon i mi fynd i gofrestru a cholli diwrnod o waith etholiad . . . roedd D. J. yn dadlau'n ffyrnig na ddylwn golli diwrnod o ymgyrchu etholiadol hyd yn oed pe collwn flwyddyn o goleg oherwydd hynny. Bu'n rhaid i mi ffawdheglu i Aber ac yn ôl mewn diwrnod, ac ni faddeuodd D.J. i mi am fynd," meddai.


Tybed beth fydd eraill oedd yn adnabod y ddau yn ei wneud o hyn oll.


  • Adolygiad John Stevenson o D J Williams - Y Cawr o Rydcymerau

Rhamant ymhlith yr Amish

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü: ,Ìý,Ìý

Glyn Evans | 09:32, Dydd Mawrth, 22 Medi 2009

Sylwadau (0)

Tafell o rywbeth llipa nid yn annhebyg i bitsa, powliad iawn o bopcorn hynod o hallt a choffi cryf i'w golchi i lawr.

Dyna oedd swper mewn cartref Amish y cefais wahoddiad iddo yn Nhalaith Efrog Newydd ddiwedd y Nawdegau.

Tŷ pren, moel, yn ymylu ar fod yn dlodaidd ydoedd. Llawr pren, cadeiriau pren a stôf llosgi coed yn cynhesu'r lle a lamp oel i oleuo yn unol â chred yr Amish mewn symylrwydd diaddurn heb foethusrwydd fel trydan a pheiriannau.

Amaethu gyda cheffylau ar fferm Amish yn nhalaith Efrog Newydd

I un yn edrych o'r tu allan perthynai rhyw wefr i'r lle ac i'r profiad o gael fy nghroesawu yno.

Ac yn ôl adroddiadau yn y wasg yn ddiweddar mae'n ymddangos bod bywyd yr Amish yn cipio dychymyg darllenwyr nofelau rhamant yn yr Unol Daleithiau y dyddiau hyn gyda chynnydd rhyfeddol yng ngwerthiant nofelau 'poblogaidd' o'r fath amdanyn nhw.

Cyfeiriwyd fod un awdur, Beverly Lewis, wedi gwerthu 13.5 miliwn o gopïau o nofelau yn ymwneud â'r gymuned Amish ym Mhensylvania ac y mae term wedi ei fathu i ddisgrifio'r math yma o nofelau sef Bonnet rippers - mewn gwrthgyferbyniad â bodice rippers nofelau rhamant mwy arferol.

Ond mae'r ddwy garfan o nofelau yn go bell oddi wrth ei gilydd gydag un yn dibynnu ar ryw, trais, mynwesau trymion a dynion llamserchus am eu poblogrwydd ond y llall yn amddifad o ryw a thrais a'r straeon yn troi o amgylch y bywyd syml o ddawnsfeydd eglwys a llanciau a llancesi yn cicio yn erbyn y tresi a herio'r drefn.

Mae hyd yn oed cusanau yn bethau prin.

Y cyfan yn adlewyrchiad o fywyd go iawn yr Amish gan ei bod yn gymuned sy'n mynnu glynu wrth hen arferion a hen gredoau Piwritanaidd grefyddol mewn byd sy'n gynyddol benrhydd.

Fel y dwedwyd wrthyf yn y Nawdegau yr oedd yn her arbennig 'cadw'r' ifanc yn ffyddlon a chymaint o wagedd oddi allan i'w cymuned i'w temtio.

Wedi 'dianc' - fel sawl un arall - oedd y teulu arbennig a gyfarfyddais i o Bennsylvania ar ôl cael llond bol ar ymwelwyr yn rhythu arnynt a thynnu eu lluniau oherwydd hynodrwydd eu gwisg a'u ffordd o fyw.

Yn yr ardal arbennig hon yr oedden nhw lai yn llygaid ymwelwyr ac fel y byddai fferm yn dod yn wag fe fydden nhw'n ei phrynu'n gartref i deulu arall ymfudo yno atynt.

Amaethu yn yr hen ffordd draddodiadol, gyda cheffylau gwedd, oedd eu ffordd o fyw a gwneud dodrefn o goed hicori i'w gwerthu mewn marchnadoedd lleol.

Yr oedd yn hawdd adnabod eu cartrefi - nhw oedd yr unig rai gyda thŷ bach yng ngwaelod yr ardd a chyda dillad yn sychu ar lein oherwydd eu bod yn ymwrthod â thrydan a pheiriannau golchi a sychu.

Gwisgai'r dynion siwtiau duon a hetiau gwellt - heb supiau dim ond botymau! - a'r merched sgertiau brethyn hirion, clocsiau ac am eu pennau fonetau. Edrychai'r plant fel doliau bychain wedi eu dilladu yr un mor hen ffasiwn.

Teithient o le i le ar droed neu mewn car a cheffyl a doedden nhw ddim yn hoffi cael tynnu eu lluniau.

Er mai crefydd oedd sail eu ar wahanrwydd nid oedd ganddynt gapeli ond yn addoli ar y Sul yng nghartrefi ei gilydd ac fe'u gwelid yn teithio yno yn eu 'bygis' ddydd Sul.

Y farn amdanyn nhw ymhlith yr Americanwyr lleol oedd eu bod "yn gymdogion da, yn cadw eu hunain iddyn nhw eu hunain. Byth yn achosi helynt ac yn gymwynasgar."

Ond yn ddifeth byddid yn ychwanegu; "Ond maen nhw'n hangen ni fwy nag ydym ni eu hangen nhw" achos er ei bod yn groes i'w harferion i gael ffôn yn y tŷ nid oedd hynny'n eu rhwystro rhag cnocio ar ddrws cymydog i ddefnyddio'r ffôn - ac er nad oedd ganddynt geir anaml y byddid yn gwrthod lifft!

"Fe allwch chi fod yn rhedeg lot iddyn nhw os nad ydych chi'n ofalus," meddai un cymydog.

Y gwewyr mawr, fodd bynnag, oedd cadw purdeb eu ffordd o fyw mewn byd gyda'i holl atyniadau modern a honno'n her arbennig gyda'r ifanc a oedd yn cael eu temtio gan bleserau o'r tu allan. Yr oedd pwysau mawr ar briodi o fewn y gymuned ac osgoi 'priodasau cymysg' chwedl hwythau.

Ymarferol oedd eu haddysg ac yr oedd yn destun rhyfeddod i Americanwyr eraill na wyddai'r plant ddim am sêr ffilm a theledu a chyflwr y byd ond y gallent edrych ar dwll yn y ddaear a dweud yn union sawl mesur ciwbig o goncrid fyddai ei angen i'w lenwi.

Ymhlith yr arwyddion cyfaddawdu cyndyn yr oedd tractor yn lle ceffylau gwedd ar ambell i fferm - ond hen dractorau ag olwynion metel yn hytrach na rhai a theiars wrth i'w perchnogion geisio byw yn y ddeunawfed ganrif ta'n ildio i'r ugeinfed, ac yn awr yr unfed ganrif ar hugain.

Y math o dyndra ac 'argyfwng bod' sy'n sail nofelau rhamantaidd erbyn heddiw.
Ond faint o ddarllen sydd arnyn nhw ymhlith y rhai y sgrifennir amdanyn nhw sy'n gwestiwn arall.

Myfanwy - o Myfanwy

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü: ,Ìý

Glyn Evans | 11:25, Dydd Llun, 21 Medi 2009

Sylwadau (0)

Yr oedd yn Gymraes a edrychai gymaint fel gwrach y gallai fod wedi ymddangos yn Macbeth Shakespeare.

Y mae Myfanwy Evans yn awr yn rhannu teitl cofiant yr arlunydd Saesneg John Piper sydd newydd ei gyhoeddi - a hithau'n wraig iddo.

Awdur John Piper, Myfanwy Piper: Lives in Art ydi Frances Spalding a'r awgrym yw na ellid fod wedi sgrifennu am y naill heb sgrifennu am y llall hefyd mor agos oedden nhw at ei gilydd.

Cymraes o dras oedd Myfanwy, wedi ei geni yn Llundain yn 1911 yn unig blentyn David Evans, Cymro a briododd Saesnes o dras Huguenot. Yn fferyllydd wrth ei alwedigaeth yr oedd ef a'r teulu yn byw uwchben y siop yn Englands Lane, Hampstead.

Yr oedd ei thaid o ochr ei thad yn weinidog Cymraeg ei iaith yn Ninbych-y-pysgod a oedd yn.

Yr oedd hi'n ferch hynod o alluog nid yn unig yn ennill ei lle yn Rhydychen ond yn dod i amlygrwydd academaidd yno hefyd ac yn ogystal â bod yn ysgolhaig yr oedd hefyd yn gapten tîm nofio buddugol y brifysgol yn 1932.

Cyfarfu'r arlunydd John Piper, a oedd newydd ysgaru, mewn ysgol haf arlunio yn 1934 a phriododd y ddau yn 1937 er ei fod ef wyth mlynedd yn hÅ·n na hi.

Nid yn unig yr oedd ganddi ddiddordeb mewn celfyddyd gain ond hi oedd awdur geiriau nifer o operau Benjamin Britten ac yn ddiweddarach dair o operâu y Cymro John Hoddinott ddiwedd y Saithdegau.

Yn ôl y sôn yr oedd John Piper, yn ogystal a bod yn arlunydd blaenllaw, yn berson hynaws a chyfeillgar iawn ond y hi heb yr un agosatrwydd. Efallai i'w golwg wneud iddi ymddangos yn fwy anghyfeillgar fyth ac yn y llyfr hwn mae David Hemmings a ganodd ei geiriau yn The Turn of the Screw Bitten yn sôn am ei "alarming, witch-like preseence and would have looked quite at home in the Scottish play, crouched over a cauldron".

Disgrifiodd y nofelydd Evelyn Waugh hi fel dynes stowt iawn, bron yn foel..

Ond beth bynnag am ei phryd a'i gwedd yr oedd hi'n eilun i'r bardd John Betjeman a gyfansoddodd nifer o gerddi iddi - un wrth ei henw.

Yn ogystal â'i diddordebau celfyddydol yr oedd gan Myfanwy hefyd ddiddordeb arbennig mewn coginio Ffrengig.


Bu farw fis Ionawr 1997.

Rhagor o stwff Brown

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü: ,Ìý

Glyn Evans | 08:45, Dydd Gwener, 18 Medi 2009

Sylwadau (0)

Mae'r diwydiant Dan Brown mewn gêr unwaith eto gyda chyhoeddi nofel ddiweddaraf yr awdur ddydd Mawrth.

Dyma ei drydedd nofel am Robert Langdon yr Athro "symboleg crwefyddol" a ymddangosodd gyntaf yn Angels and Demons ac wedyn yn The Da Vinci Code - pedwaredd nofel Brown a'r nofel a sgubodd gyfoeth eitrhriadol i'w gyfeiriad.

Saethodd yn syth i frig rhestr gwerthwyr gorau'r New York Times wythnos ei chyhoeddi yn 2003 ac erbyn hyn mae'n cael ei gyfrif "y llyfr mwyaf poblogaidd erioed" wedi gwerthu 81 miliwn copi - gwerth 250 miliwn o ddoleri.

Ac wrth i werthiant ei lyfrau eraill gynyddu yn ei sgil cynyddodd cyfoeth Brown hefyd ac yn ôl y cyfrif diweddaraf mae'n awr yn ennill 76.5 miliwn o ddoleri'r flwyddyn!

Mae llwyddiant y nofel ddiweddaraf wedi ei sicrhau yn barod gyda The Lost Symbol wedi gwerthu, miliwn o gopiau y diwrnod cyntaf ym Mhrydain, yr Unol Daleithiau a Chanda, rhyngddynt.

Dan Brown

Y Seiri Rhyddion sy'n dod dan chwyddwydr Brown y tro hwn ond eisoes mae rhai wedi bod yn cwestiynu cywirdeb rhai o'r pethau a ddwedir yn y nofel.

Yn wir mae'n dipyn o gêm ymhlith y gwybodusion, dod o hyd i gamgymeriadau ffeithiol yn nofelau Brown.

Cyhoeddodd un o golofnwyr y Guardian restr hir o gamgymeriadau The Da Vinci Code ddydd Sadwrn diwethaf gan gynnwys y camsyniad ym meddwl Brown mai cyfenw ydi Da Vinci !

"Dangoswyd i Brown fod yn anghywir ynglŷn â gwrth-fater, Galileo, conclafau Pabyddol, sawl enw lle Rhufeinig ac ymadroddion Eidalaidd, yr Illuminati, Mair Magdalen, Swper Olaf Leonardo, yr ymherodr Constantine, Marchogion y Croesgadau, Priordy Seion, daearyddiaeth Paris a Llundain a hydred Glastonbury.

"A fu unrhyw awdur arall erioed mor anghywir ynglŷn â chymaint o bethau?" hola John Dugdale sydd yn mynd ymlaen i dynnu sylw at lithriadau eraill fel cael mynach o Opus Dei yn un o brif gymeriadau y Code er nad oes gan Opus Dei fynachod.

Mae'n cyfeirio at gamgymeriadau iaith a sillafu hyd yn oed gan gynnwys defnyddio 'reign' yn lle 'rein'.

Ond yr un peth y mae Brown yn ei gael yn gwbl iawn wrth gwrs yw - sut i sgrifennu llyfrau sy'n gwerthu! A llyfrau sy'n troi'n ffilmiau llwyddiannus wedyn.

Gair o'r Wladfa . . .

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü: ,Ìý

Glyn Evans | 06:53, Dydd Llun, 14 Medi 2009

Sylwadau (0)

Rhyw gymysgedd o ramant a rhyfeddod sydd yn agwedd sawl un tuag at Batagonia.

Elfen o ramant yn sicr ymhlith y rhai hynny yr oedd llyfrau R Bryn Williams ymhlith y rhai oeddem yn eu daerllen yn ifanc.

Ac mae'n syndod ac yn rhywfaint o warth na wnaeth teledu Cymraeg fwy o lyfrau fel Bandit yr Andes a'r March Coch heb son am ei gyfrolau ffeithiol.

Fe wnaeth y radio.

Yn ddiweddar ma cyhoeddwyd dau lyfr arall sydd yn mynd i ail gynneu'r diddordeb yn Y Wladfa - un ohonynt yn ymwneud â phen symbylydd y syniad o greu dihangfa i'r Cymry gael byw eu bywyd eu hunain y tu allan i'w gwlad eu hunain, Michael D Jones.

Lleisiau rhai o'r bobl a wrandawodd arno sydd yn y llyfr arall Llythyrau'r Wladfa 1865 -1945- llyfr difyr sydd hefyd y tu draw o werthfawr gan Mari Emlyn.

Michael D Jones fel y'i darlunir ar glawr y llyfr amdano

Casgliad o ddarlithoedd gan rai o ysgolheigion amlycaf Cymry a geir yn Michael D. Jones a'i Wladfa Gymreig wedi'i olygu gan y Dr E. Wyn James a'r Dr Bill Jones, y ddau yn ddarlithwyr ym Mhrifysgol Caerdydd - y cyfan yn ffrwyth blynyddoedd o waith ymchwil ar fywyd y Cymro tanbaid a rhyfeddol hwn.

Yn ei chyfrol hi cyhoeddi mae Mari Emlyn lythyrau personol rhwng Cymry a Gwladfawyr a hefyd lythyrau a gyhoeddwyd mewn papurau newydd ond gyda nodiadau a rhagarweiniad gwerthfawr hefyd.

Doedd o ddim yn waith hawdd.
"Mi ges i dros 500 o lythyrau ar fenthyg i'w darllen," meddai.

Ond fel y dywed y maen nhw'n ddogfennau hanesyddol pwysig iawn yn ogystal a bod yn ddifyr.

"Yr unig ffordd oedd gan bobl Patagonia a Chymru o gadw mewn cysylltiad oedd trwy lythyr, ac mi oeddwn yn eu gweld yn gofnod archifol - mae yna hanes yn y llythyrau yma, ac mi fyddai'n bechod iddyn nhw fynd ar goll, " meddai.

Ac am y cynnwys dywed:
"Mae hiwmor yn beth prin yn y llythyrau cynnar a hynny'n adlewyrchu'r caledi oedden nhw'n 'i wynebu wrth geisio sefydlu gwladfa newydd - mae sôn am brofedigaethau a newyn.

"Roedd un llythyr dirdynnol iawn yn disgrifio mewn manylder lofruddiaeth Llwyd ab Iwan, sef mab Michael D. Jones, gafodd ei ladd gan ddau o wylliaid America. Roedd y bachgen ifanc hwn oedd yn ysgrifennu at ei rieni adref yng Nghapel Garmon yn dyst i'r llofruddiaeth, ac yn ei disgrifio fel golygfa erchyll o ffilm gowboi.

"Mae 'na lythyr diddorol hefyd, un o'r rhai cynharaf un, a ysgrifennwyd gan ddyn o'r enw William Jones o'r Bala sy'n cyfeirio at y ffaith iddo golli ei ddwy ferch fach - un wedi iddyn nhw gyrraedd Porth Madryn a'r llall ychydig ddyddiau'n ddiweddarach, a sut na fyddai byth wedi gadael y Bala pe byddai'n gwybod am y caledi oedd yn eu hwynebu."

Casgliad o lythyrau sydd ar restr ddarllen sawl un ohonom.

Gwasg Carreg Gwalch ydi'r cyhoeddwr - a'r cymwynaswr!

Cyffro gwyllt y gorllewin

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü:

Glyn Evans | 15:59, Dydd Gwener, 11 Medi 2009

Sylwadau (0)

I rywun a thair awr i'w lladd ddiwedd pnawn Sadwrn mae un o ffilmiau hynod y sinema yn cynnig ei hun ar y teledu.

Yn 1962 yr oedd How the West Was Won yn ddigwyddiad o bwys gan na ellid ei gweld ond yn rhai sinemâu a hithau wedi ei ffilmio yn y dull newydd Cinerama - gair oedd yn gywasgiad o'r geiriau cinema a panorama.

Poster y ffilm

Yng Nghaerdydd yn hen sienma Park Place ger y gwesty a heb fod nepell o'r Theatr Newydd y dangoswyd y ffilm heb sedd wag yn y lle.

Nodwedd arbennig Cinerama oedd fod y sgrin yn eithriadol o lydan, yn fewngrwn ac wedi ei rannu'n drin er mwyn dangos ar eu gorau olygfeydd eang.

O graffu gallech weld llinell lle'r oedd un rhan o'r llun yn asio â'r llall ac fe fydd hynny i'w weld ar y telediad bnawn Sadwrn hefyd am 1620 ar Five.

Byrhoedlog fu'r drindod newydd a dim ond dwy ffilm stori a wnaed yn y dull gan i ddatblygiadau technolegol ei ddisodli - The Wonderful World of the Brothers Grim yr un flwyddyn oedd y llall.

Yn 175 munud o ffilm defnyddiodd hon dri chyfarwyddwr - Henry Hathaway, George Marshall a John Ford - a nifer o actorion amlycaf Hollywoopd gan gynnwys, yn nhrefn yr wyddor, Carroll Baker, Walter Brennan, Lee J. Cobb, Andy Devine, Henry Fonda, Carolyn Jones, Karl Malden, Harry Morgan, Gregory Peck, George Peppard, Robert Preston, Debbie Reynolds, James Stewart, Eli Wallach, John Wayne, Richard Widmark a Spencer Tracey yn trosleisio.

Gwers hanes yw'r ffilm yn adrodd yr hyn a ddywed y teitl ac ar wahân i'r dull o ffilmio yr hyn sy'n nodedig am y ffilm yw'r holl olygfeydd dramatig sy'n cael eu cydio wrth ei gilydd.

Cyfrifoldeb John Ford oedd y darn sy'n darlunio'r Rhyfel Cartref. George Marshall ffilmiodd styntiau dramatig fel hwylio dyfroedd afon beryglus ar rafft a lladrad tren llawn cyffro.

Ffilm fawr gyda stori fawr i'w dweud.

Dydd yn dynesu

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü: ,Ìý

Glyn Evans | 14:32, Dydd Gwener, 11 Medi 2009

Sylwadau (0)

Daeth gair i law i'n hatgoffa mai dim ond ychydig ddyddiau sydd ar ôl i anfon ymgais i mewn i gystadleuaeth monolog y cylchgrawn Taliesin.

Testun y gystadleuaeth sydd wedi synnu ambell un ohonom - 'Ar ddiwedd y dydd'.

Idiom Seisnig ydi hon a ddaeth yn dipyn o fwrn yn y Gymraeg dros y blynyddoedd diwethaf. Mae rhywbeth yn dweud wrthaf i bod â wnelo Harold Wilson a phoblogeiddio'i defnydd yn y Saesneg - at the end of the day.

Yn sicr, o rhyw stabl wleidyddol y daeth ei harfer ac fel sy'n digwydd mor aml rhuthrodd Cymry diog i'w chyfieithu'n llythrennol er bod gennym ninniau idiom yn barod yn y pen draw.

Beth bynnag am hynny mae Taliesin yn cynnig gwobr sy'n cael ei disgrifio fel "anrhydeddus" am lunio monolog ar y testun - er dydw i ddim yn siŵr faint fyddai'n ystyried y swm o £200 o wobr yn anrhydeddus y dyddiau hyn!

Ond ar ddiwedd y dydd mae'n well na chic gan ful.

"Mae Christine James a Manon Rhys, golygyddion Taliesin, yn hynod frwd dros gynnal y gystadleuaeth hon ac yn gobeithio y bydd yn denu awduron profiadol a rhai newydd i'r mael (beth bynnag ydi hwnnw) fel ei gilydd i greu monologau o safon," meddai datganiad gan y cylchgrawn.

Cefin Roberts, Cyfarwyddwr Artistig Theatr Genedlaethol Cymru, ydi'r beirniad ac mae o'n gobeithio am doreth o "fonologau cryf, addas i'w perfformio ar lwyfan neu ar y cyfryngau, gan ei fod o'r farn fod yna brinder darnau o'r fath yn y Gymraeg yn enwedig ar gyfer pobl ifainc, sy'n tueddu i droi at gyfieithiadau anaddas iddynt o ran testun ac arddull."

Cyhoeddir y monolog buddugol ynghyd â sylwadau Cefin yn rhifyn y gaeaf o Taliesin.

Diwedd dydd y cystadlu, fel petai, ydi di dydd Mercher Medi 16 a gellir cael ffurflen gais o wefan yr neu 029 2047 2266.

Hei lwc.

Sgwrsio lliwgar

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü: ,Ìý

Glyn Evans | 10:33, Dydd Mercher, 9 Medi 2009

Sylwadau (0)

Dim ond unwaith erioed y cyfarfyddais i'r arlunydd Kyffin Williams.

Yr oedd hynny ddiwedd yr Wythdegau pan ymwelais i a thynnwr lluniau Y Cymro a'i gartref ym Mhwllfanogl, Llanfairpwllgwyngyll, i gael hanes portread yr oedd yn ei wneud ar y pryd o'r dramodydd a'r beirniad llenyddol John Gwilym Jones.

Yr hanesyn oedd fod 'John Gwil' yn 'steddwr' sâl iawn ac yn ystod un sesiwn i Kyffin daflu ei frwsus a'i baent mewn anobaith ar draws y stafell gan ddweud yn Saesneg, "Rwyt ti'n amhosib dy beintio - dwi'n rhoi fyny."

John Gwilym Jones ei hun ddywedodd y stori ac yr oedd yn rhaid mynd draw wedyn i weld y portread a chlywed beth fyddai gan yr arlunydd i'w ddweud.

Cawsom groeso a phaned a chadarnhad a gweld y portread anorffenedig yng nghornel y stiwdio ond doedd o ddim yn or awyddus gweld yr hanes yn y papur os cofiaf yn iawn.

kyffin-williams.jpg

Wn i ddim beth ddaeth o'r llun hwnnw . A gafodd o'i orffen? Lle mae o heddiw? Byddai'n ddifyr gwybod.

Yr hyn ddaeth â'r digwyddiad i gof oedd clywed Derec Llwyd Morgan a Rolf Harris yn trafod Kyffin Williams ar raglen radio Matthew Parris, 'Great Lives' , Radio 4 y dydd o'r blaen.

Yr Awstraliad o dras Gymreig dan deimlad dwys wrth sôn am ei gysylltiadau Cymreig ef ac yn ei ddagrau yn canu Nid wy'n gofyn bywyd moethus.

A chawsom olwg ddifyr ar Kyffin Williams y dyn yn ogystal â'r arlunydd a hefyd Kyffin y rhigymwr wrth i Derec Llwyd Morgan, sy'n gadeirydd Ymddiriedolaeth Kyffin Williams ac a siaradodd yn ei angladd ddyfynnu'r pill hwn o'i eiddo er mawr ddifyrrwch i'r ddau arall:

I met a man, I can't think where
Who said that he was Tony Blair.
But what was really very odd
He also said that he was God.

Cliciwch YMA i wrando ar y rhaglen.

Cadw'r 'Llais' yn fyw

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü:

Glyn Evans | 07:57, Dydd Mawrth, 8 Medi 2009

Sylwadau (0)

Os oes rhywun yn profi gwirionedd y dywediad nad ydi hi byth yn rhy hwyr i gychwyn gyrfa i chi'ch hun y baledwr Bob Roberts Tai'r Felin yw hwnnw.

Yr oedd o dros ei drigain oed pan ddaeth yn fuddugol ar gystadleuaeth y gân werin yn Eisteddfod Genedlaethol Bangor yn 1931 ac yn tynnu at ei 75 pan ddechreuodd ddarlledu ar y radio.

Llun Bob Tai'r Felin  gan Ifor Owen ar glawr y CD
A darlledwr poblogaidd oedd o hefyd ar raglenni fel y Noson Lawen wedi i Sam Jones ei 'ddarganfod'.

Yr oedd yr un sbonc i'w chlywed yn ei lais ag oedd yna i'w gweld yn ei gerddediad a'i jig o ddawns ar y llwyfan.

Nodwedd arbennig o'i ganu oedd ei hwyliogrwydd wrth droi caneuon fel Moliannwn, Mari Fach fy Nghariad, Nacw a'r Asyn a Fu Farw (wrth gario glo i'r Fflint) yn glasuron poblogaidd o'u bath.

Bu dynwaredwyr wrth gwrs ond dim ond un Bob Tai'r Felin oedd yna ac yntau yn un o 'Dri Bob' darlith enwog Robin Williams - Bob Roberts, Llwyd o'r Bryn a Bob Owen Croesor y ddau arall o'r drindod ryfeddol honno.

Yr hyn ddaeth â Bob Tai'r Felin i gof yn awr yw'r newyddion fod newydd gyhoeddi CD o'i ganeuon gyda chyfraniadau hefyd gan ei fab, Morus Roberts a dau faledwr arall, John Thomas Maesyfedw ac Arthur D Jones.

Tybed beth fyddai Bob Roberts ei hun wedi ei wneud o hynny achos roedd yna yn ôl y rhai sy'n cofio elfen o gythraul canu cyfeillgar rhwng y baledwyr wrth iddyn nhw geisio cael y gorau ar ei gilydd pan yn ymddangos yn yr un cyngerdd!

Clywais ddweud y byddai'r hirben Sam Jones yn gwneud yn siŵr mai un neu'r llall ar y tro fyddai ar Noson Lawen y radio!

Er mai yn ei henaint y daeth Bob Roberts - melinydd wrth ei alwedigaeth - i amlygrwydd cenedlaethol gallai pethau fod wedi bod yn wahanol achos yn fachgen yr oedd ganddo lais soprao nodedig iawn yn ôl darn gan y diweddar Robin Williams a gyhoeddir gyda'r CD.

"Yn fachgen pymthengmlwydd cystadlodd yn y Bala ar Unawd Soprano gan drechu'r genethod hyd yn oed.

"Wedi'i lethu'n lân gan y Llais, awgrymodd beirniad y noson y dylid casglu cronfa er mwyn i'r llencyn sefyll yn y man ar lwyfannau'r byd," meddai.

Ond fel ag yn achos sawl canwr arall o Gymro gartref y dewisodd Bob aros "a chanu'n ôl ei ffansi" yn lleol.

A chyda'r penderfyniad yna tybed a gollodd y byd enw y gellid ei ychwanegu heddiw at rai David Lloyd, Geraint Evans, Stuart Burrows a Bryn Terfel.

Ar y llaw arall, tybed, hefyd, pe byddai hynny wedi digwydd a fyddem ninnau wedi colli ei ddehongliadau unigryw o Nacw, Mari Fach fy Nghariad a'r Asyn anffodus hwnnw a fu farw "trwy 'ddo golli'i wynt" wrth helcid yr holl lo yna i'r Fflint?

Diolch i Sain am gynnau atgofion ymhlith yr hynaf ohonom a chyflwyno i'r genhedlaeth iau ganwr y byddwn yn dathlu 140 mlynedd ei eni y flwyddyn nesaf . . .

Mae dau o draciau'r CD yn rhai nas clywyd erioed o'r blaen gan mai wyres Bob o Chwilog ddaeth o hyd i hen recordiau ei thaid yn ei chartref ym Mhen LlÅ·n gan fynd ati i holi Sain am gopi CD personol i'r teulu.

"Pan welson ni'r recordiau a thrafod gyda'r teulu, roedden ni'n teimlo braint fawr o gael perfformiadau mor werthfawr yn ein dwylo. Dyma benderfynu felly mynd ati i baratoi cryno ddisg newydd," meddai Dafydd Iwan o Sain.

A Bob Tai'r Felin, yntau. yma o hyd diolch i'r drefn.


Deued olau mwyn

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü:

Glyn Evans | 12:42, Dydd Iau, 3 Medi 2009

Sylwadau (0)

Unwaith y clywodd rhywun fod rhai yn cwyno am ddiflaniad yr hen fylbiau trydan traddodiadol yr oeddech yn gwybod yn iawn mai dim ond mater o amser fyddai hi cyn y bydden nhw'n llusgo Dylan Thomas gerfydd ei wallt i'r ddadl.

Fu dim rhaid disgwyl yn hir cyn gweld dyfynnu Do not go gentle into the good night yng nghyd-destun y rheol Ewropeaidd i ddisodli'r hen fylbiau 100w gyda rhai newydd amgylcheddol ddarbodus.

A'r gyntaf welais i yn troi at Dylan am gymorth a goleuni oedd colofnydd yn y Spectator, Sarah Standing, ddydd Gwener diwethaf yn bytheirio yn erbyn y goleuni newydd a dyfynnu'n ystrydebol o waith bardd enwocaf Cymru.

"I'm not a happy camper about being forced to enter the Twilight Zone. I will not go gentle into that good night, I shall rage, rage against the dying of the light, and I can't believe I'm alone," medda hi.

Gradd o ystrydebaeth drosiadol anodd iawn gwella arni!

Tybed allwch chi feddwl am farddoniaeth Gymraeg / Gymreig fwy gwreiddiol i gryfhau'r achos dros neu yn erbyn y bylbiau newydd?

Gwerth pupur

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü:

Glyn Evans | 12:27, Dydd Iau, 3 Medi 2009

Sylwadau (0)

Yr oedd darllen yn y papur ddoe am y codiad diweddar o 17% ym mhris pupur yn atgoffa rhywun o hen ddywediad.

Dyw e ddim i'w glywed mor aml y dyddiau hyn ond ar un adeg roedd yn beth cyffredin iawn dweud am rywbeth costus; "Mae o fel pupur o ddrud."

Gyda phupur wedi cyrraedd £1,974 y dunnell yr wythnos hon efallai y bydd yr hen ddywediad yn cael ei adfer i'r iaith.

A thybed pa hen wirioneddau eraill sydd debyg o gael ail wynt y dyddiau hyn?

Neu, yn wir, pa ddywediadau newydd mae amgylchiadau newydd yn debyg o esgor arnyn nhw?

Cofio awr fawr Sally

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü: ,Ìý

Glyn Evans | 12:44, Dydd Mawrth, 1 Medi 2009

Sylwadau (0)

Waeth pwy fyddai'n mynd ati i lunio rhestr o'r golygfeydd mwyaf cofiadwy mewn ffilm go brin y gallai'r un ohonyn nhw adael allan golygfa'r caffi yn When Harry Met Sally.

Dyma'r olygfa lle mae Sally - Meg Ryan - yn ffugio cyrraedd penllanw angerdd rhywiol tra'n rhannu pryd gyda Harry - Billy Crystal.

Golygfa gyda'i chnadu a'i hochneidio llesmeirus sy'n cael ei chyfrif yn un o oriau mawr hanes y sinema.

Yr oedd hynny ugain mlynedd union yn ôl i'r mis hwn.

Cyn hynny, rhyw ffilmiau digon dilewyrch ymddangosodd yr actores ifanc Meg Ryan ynddyn nhw ond goleuodd ffurfafen ei gyrfa gyda When Harry Met Sally.

Yr oedd y ffilm, wrth gwrs, yn fwy na'r un olygfa gofiadwy honno sy'n gorffen gyda geiriau hen wraig wrth fwrdd cyfagos, "I'll have what she's having."

Billy Crystal a Meg Ryan

Honno'n llinell nad oedd yn y sgript wreiddiol ond wedi ei chynnwys yn dilyn awgrym Billy Crystal a hynny'n peri i'r cyfarwyddwr, Rob Reiner, orfod galw ar ei fam ar y funud olaf i chwarae rhan y cwsmer eiddigeddus!

Yn amlwg, yr oedd mwy i When Harry Met Sally na'r un olygfa feiddgar yna ac er nad enillodd nac Oscar na Golden Globe yr oedd yn garreg filltir go bwysig ac wedi ei disgrifio fel y rhamant gomedi orau erioed..

Cwestiwn canolog y ffilm oedd, A yw hi'n bosibl ddyn a menyw fod yn ffrindiau heb i'w perthynas droi'n un rywiol?

A barn Meg Ryan ar y pryd oedd fod hynny'n gwbl bosib gan ddweud ei bod hi'n 'ddim ond ffrindiau' gyda nifer o ddynion.

A dyna'r berthynas oedd yn bodoli rhwng y cyfarwyddwr, Rob Reiner, ac awdur y ffilm, Nora Ephron, y dywedir eu bod yn ffrindiau mynwesol ond heb fod â pherthynas rywiol o gwbl rhyngddynt.

O ystyried poblogrwydd y ffilm ymhlith cynulleidfaoedd mae'n rhywfaint o syndod na fu i Crystal, comedian standyp cynt, a Ryan actio gyda'i gilydd byth wedyn - er iddyn nhw gael eu henwi yn "best movie couple ever" fwy nag unwaith.

Yn wir, gyrfa Ryan yn unig a wir elwodd ar boblogrwydd When Harry Met Sally nid un Crystal.

Ac wrth ddathlu pen-blwydd y ffilm yn ugain oed yr wythnos hon difyr cofio hefyd mai yn y ffilm hon y defnyddiwyd yr ymadrodd "high maintenance" gyntaf i ddisgrifio merch wrth i Harry yn disgrifio Sally fel y math beryclaf o ddynes; un high maintenance sy'n meddwl ei bod yn low maintenance!

Yn y ffilm hon hefyd chwaraewyd ffrind Sally gan Carrie Fisher - y Dywysoges Leila rai blynyddoedd wedyn yn Star Wars.

Hi, bellach, yn byw yn hen gartref Bette Davis yn Los Angeles.

Oes gennych chi hoff olygfa ffilm? Anfonwch i ddweud.

´óÏó´«Ã½ iD

Llywio drwy’r ´óÏó´«Ã½

´óÏó´«Ã½ © 2014 Nid yw'r ´óÏó´«Ã½ yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.