´óÏó´«Ã½

« Blaenorol | Hafan | Nesaf »

Llwyfan dramatig drama

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü:

Glyn Evans | 11:23, Dydd Iau, 5 Tachwedd 2009

Os ydi hi'n ddrama yn rhywle ym myd y ddrama mae hynny.

Act 1
Dydd Llun, dramodydd a dau feirniad yn anelu eu magnelau at Gwmni Theatr Genedlaethol Cymru gyda Gareth Miles yn dweud ar Wythnos Gwilym Owen mai drama neuadd bentref sydd ar daith gan y cwmni ar hyn o bryd.

Act II
Ddoe, y cwmni yn cadarnhau wrth y cylchgrawn fod Judith Roberts, Cyfarwyddwr Cyswllt y cwmni ac un a gyfarwyddodd sawl un o gynyrchiadau'r cwmni cenedlaethol, wedi ei diswyddo - a'i bod yn apelio yn erbyn y penderfyniad.

Yn null arferol y pethau hyn oeraidd a dideimlad oedd datganiad y cwmni i Golwg:

"Yn sgil yr ailstrwythuro diweddar o fewn y Cwmni, penderfynwyd fod swydd y Cyfarwyddwr Cyswllt yn ddiangen. O'r herwydd, mae'r Cyfarwyddwr Cyswllt wedi ei diswyddo ar sail "redundancy". Mae'r Cwmni'n delio gydag apêl y Cyfarwyddwr Cyswllt yn erbyn y diswyddiad ar hyn o bryd."

Na dydi o ddim yn Gwenlyn Parry nac yn Saunders Lewis o ddialog ond yn ddigon dramatig yn ei ffordd ei hun.

Act II Golygfa 2
Off-stage, fel petai, mae'r Gweinidog Diwylliant, Alun Ffred Jones, yn bwrw ei lid yntau ar gyflwr y theatr yng Nghymru wrth gael ei holi gan Menna Baines yn .

Alun ffred Jones ar faes yr Eisteddfod

A dydi'r dyn allai daflu pres at y pethau hyn ddim yn un hapus - ac yr oedd hynny cyn i'r Miles roi tro i'r crochan a chyn bod sôn am gael gwared â Judith Roberts.

"Ers tua ugain mlynedd, fwy neu lai, dwi'n teimlo fod y bwrlwm a'r cynnwrf wedi mynd allan o'r theatr Gymraeg. Dyden ni ddim yn cynhyrchu stwff mentrus, heriol, da," meddai Alun Ffred Jones gan ychwanegu rhyw fymryn o eli i liniaru ei eiriau trwy awgrymu fod hynny'n rhywbeth cyffredinol yn "y gorllewin" a hyd yn oed West End Llundain bellach.

"Ond be sy'n siomedig i mi yn y theatr Gymraeg ydi cyn lleied o sgwennu gwleidyddol da sy 'na," meddai.

Gwn cetris ydi un Alun Ffred Jones a'r haels yn chwalu'n eang wrth iddo holi hefyd pam nad yw yr "adrannau drama yn ein sefydliadau addysg" yn cynhyrchu mwy o awduron.

Un ateb mae'n ei gynnig fod ein byd theatraidd Cymraeg yn ferddwr mor llonydd yw bod ein gwlad mewn cyflwr rhy gyfforddus i fod yn feithrinfa drama dda.

[Aside: A diolch i Cymru'n Un am hynny, siŵr o fod]

"Dwi'n meddwl fod y theatr yn fwy perthnasol mewn cyfnod o gyffro a helbul gwleidyddol nag mewn cyfnod o fodlonrwydd. Does dim ond rhaid edrych ar hanes y theatr yn Iwerddon i weld fod hynny'n wir, a'i pherthnasedd ar lawr gwlad yn rhai o wledydd Affrica heddiw," meddai.

Act III
Ond cwestiwn sydd ddim yn cael ei ofyn gan fawr neb yw, A ydi'r bobl iawn yn llywio ac yn lliwio'r pethau hyn?

A pheryg na fyddai ei ofyn ond yn esgor ar saib dramatig o ddistawrwydd Becketaidd.

Act IV
Ond o leiaf, os nad oes llawer yn digwydd ar lwyfan - mae digonedd i'n cadw'n ni'n brysur o'r tu ôl i'r llenni.

Byddai agor y rheini yn destun drama i rywun.
(Hen Wlad fy Nhadau)

´óÏó´«Ã½ iD

Llywio drwy’r ´óÏó´«Ã½

´óÏó´«Ã½ © 2014 Nid yw'r ´óÏó´«Ã½ yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.