´óÏó´«Ã½

« Blaenorol | Hafan | Nesaf »

Cyrcs, cyrn a rhew

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü:

Glyn Evans | 14:40, Dydd Gwener, 4 Rhagfyr 2009

A ninnau wedi bod yn crafu rhew y bore oddi ar ffenestri ein ceir ddechrau'r wythnos doedd hi ddim yn syndod i'r wythnos ddod i'w therfyn gyda thrafodaeth ar y pwnc hwnnw ar ´óÏó´«Ã½ Radio Cymru.

Ymadrodd a ddefnyddiwyd sawl gwaith y bore ma oedd "Rhewi'n gorcyn" i gyfleu pa mor ddrwg oedd hi.

Ymadrodd cwbl ddieithr a diystyr i rai ohonom sy'n llawer mwy cyfarwydd â "Rhewi'n gorn".

A hithau'n chwipio rhewi, y tir, llynnoedd a hyd yn oed afonydd wedi rhewi mor galed nes eu bod cyn galeted â chorn - a hithau wedi rhewi'n gorn.

Efallai mai ymadrodd sy'n perthyn i ardaloedd penodol ydi'r rhewi'n gorcyn y clywyd cymaint o'i ddefnyddio y bore 'ma. Byddai'n ddiddorol cael gwybod. Anfonwch air.

Beth bynnag am rewi'n gorcyn; ymadrodd cyffredin mewn sawl ardal ydi Rhwymo'n gorcyn - a'r unig feddyginiaeth i'r cyflwr anghyfforddus hwnnw fyddai "Dôs iawn o gastar oel".

Cyflwr, gyda llaw, arferai fod yn gyffredin iawn o gwmpas y Dolig fel hyn ddyddiau fu gyda gor ymborthi ar gnau yn cael y bai am ei achosi.

"Roeddwn i wedi rhwymo'n gorcyn ar ôl yr holl gnau yna!"

Ac mi rydan ni gyd yn gwybod pa mor dyn all corcyn fod yng ngwddw potel.

Aw, aw, aw.

SylwadauAnfon sylw

  • 1. Am 14:46 ar 5 Rhagfyr 2009, Wil ysgrifennodd:

    Yn yr un cywair, yn ddigon oer i rewi rhech

´óÏó´«Ã½ iD

Llywio drwy’r ´óÏó´«Ã½

´óÏó´«Ã½ © 2014 Nid yw'r ´óÏó´«Ã½ yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.