´óÏó´«Ã½

« Blaenorol | Hafan | Nesaf »

Gair wrth basio

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü: ,Ìý,Ìý

Glyn Evans | 07:57, Dydd Mawrth, 9 Mawrth 2010

Mae eglwysi Cymraeg yn cael eu hannog i wneud mwy o ddefnydd o'r 'pulpud ochr lôn i ledaenu eu neges.

Daw'r alwad gan y Parchedig Denzil John yn y rhifyn Mawrth-Ebrill 2010 o'r cylchgrawn Cristion.

Fel y dywed bu'r 'Pulpud min y ffordd' yn ffordd fachog ac effeithiol ers blynyddoedd o dynnu sylw pobl yn y Saesneg ac y mae lluniau yn Cristion o rai o'r negeseuon ffraeth a chlyfar a welwyd - nifer ohonyn nhw yn yr Unol Daleithiau.

Ond er "cryn lwyddiant" gosod posteri o'r fath ar furiau eglwysi dywed Denzil John ei fod yn synnu cyn lleied o eglwysi Cymraeg sy'n arfer y cyfrwng i ddweud rhywbeth pwrpasol wrth y sawl sy'n cerdded heibio'r capel.

Mae o'n cynnig nifer o negeseuon Cymraeg y gellid eu defnyddio fel:

  • A yw seren y Nadolig yn disgleirio yn dy fywyd di?
  • Mae'n haws cael gair gyda Iesu na gydag unrhyw wladweinydd. Y Nesaf yw Efe o bawb at enaid gwan . . .
  • Mae'r Pasg yn fwy na chroes - mae'n groesffordd i ni. Pa ffordd nawr? Dilynwch Iesu.
  • Mae SEREN ein Nadolig ni yn cynnig golau ar hyd y flwyddyn. Ydych chi'n ei weld?
  • Gwell cynnau cannwyll na melltithio'r tywyllwch!

Rwy'n siŵr y bydd Denzil John yn maddau imi am awgrymu; ar wahân i'r un olaf yna, nad ydi'r negeseuon Cymraeg hanner mor afaelgar na chwarter mor fachog a chlyfar na'r rhai Saesneg y mae'n tynnu sylw atynt.

Tybed ydi'r Saesneg yn hwylusach iaith na 'Iaith y Nefoedd' i'n deffro i dragwyddoldeb?

Dyfarnwch chi achos dyma rai o'r enghreifftiau Saesneg:

  • Artificial intelligence is no match for natural stupidity.
  • Free coffee, everlasting life. Yes, membership has its privileges.
  • Forgive your enemies - it messes with their heads.
  • God does not believe in atheists therefore atheists do not exist.
  • Read the Bible - it will scare the hell out of you!
  • Glory, glory, Man United with God.

Beth am rai Cymraeg i ragori ar y rheina?

´óÏó´«Ã½ iD

Llywio drwy’r ´óÏó´«Ã½

´óÏó´«Ã½ © 2014 Nid yw'r ´óÏó´«Ã½ yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.