Geiriau Gwener
Ar fore Gwener - ail flasu'r wythnos trwy gofio rhai o'r pethau a ddywedwyd gan wahanol bobl yn y wasg ac ar y cyfryngau. A gwahoddiad i chwithau rannu y doniol, y difyr neu'r dwys a welsoch chi gyda ni. Anfonwch nawr.
- Gwnewch yn siŵr nad oes dim yn eich rhwystro rhag pleidleisio - Hysbyseb gan Y Comisiwn Etholiadol.
- Mae rhywun deallus yn gwybod mai ffrwyth yw'r tomato. Ond mae angen synnwyr cyffredin i beidio ei roi mewn salad ffrwythau - Magi Dodd yn 'Golwg'.
- Yn yr oes ryfedd sydd ohoni ym myd y teledu a'r radio - yr holl gwyno am . . . yr ailddangos rhaglenni parhaus, yr iaith wallus a'r mynegiant herciog a glywir mor aml . . . mor braf cael cynnig sylw cadarnhaol a chanmoliaethus. Roedd y rhaglen ar Emyr Huws Jones (Ems) nos Lun y Pasg ar S4C yn chwa o awyr iach - D M Hughes, Athrawes Gerdd, mewn llythyr yn 'Y Cymro'.
- A wêl y gamp geilw i go
swyn y Gymdeithas honno - cwpled gan Dic Jones a gerfiwyd ar gadair Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd 2010. - I Gristnogion mae pleidleisio ar adeg o etholiad nid yn unig yn fraint ond yn ddyletswydd - neges esgobion Cymru o glywed bod cymaint a 200,000 yng Nghymru heb gofrestru i bleidleisio.
- Mae hi'n awr i fyny i feddygon fynd i'r afael â'u ffordd o wisgo ac a'u hedrychiad - Her y Gweinidog Iechyd, Edwina Hart, i'r Gymdeithas Feddygol wrth i ddillad newydd ar gyfer nyrsys Cymru gael eu dangos am y tro cyntaf ddydd Iau.
- Yr hyn hoffwn i yw i olygyddion fod ag ychydig mwy o farn foesol ynglŷn â beth maen nhw'n ei werthu a sylweddoli fod pobl ifainc yn ymdrechu i efelychu y bobl yn eu cylchgronau - RosalindPonomarenko-Jones y bu farw eu merch Sophie o anorecsia.
- Cyn bo hir bydd y rhan fwyaf o fynwentydd yn llawn - Alex Glanville, pennaeth gwasanaethau eiddo yr Eglwys yng Nghymru.
- Dim ond ni all benderfynu troi'r cloc ymlaen neu aros yn y tywyllwch - Sylw amserol John Gruffydd Jones, golygydd 'Y Goleuad' i Gristnogion adeg troi'r clociau ymlaen.