´óÏó´«Ã½

« Blaenorol | Hafan | Nesaf »

Teulu'r Llyfrau

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü: ,Ìý

Glyn Evans | 18:00, Dydd Iau, 20 Mai 2010

Hyfryd oedd clywed o'r Å´yl Fedwen Lyfrau ddiweddar yn Llanrwst mai un a fu'n cadw siop llyfrau Cymraeg yn y dref honno am flynyddoedd lawer a enillodd y wobr y tro hwn am gyfraniad oes i'r diwydiant llyfrau Cymraeg.

Anodd dychmygu heddiw cymaint o fenter oedd agor siop llyfrau Cymraeg yr holl flynyddoedd hynny yn ôl ond mi fentrodd ac mi lwyddodd Arianwen Parry ac er bod y siop wedi newid dwylo dair blynedd yn ôl mae'n dal i fynd.

Arianwen Parry a Gwerfyl Pierce Jones

Mentrodd Arianwen ar adeg pan nad oedd y ffrwd o lyfrau Cymraeg ddim byd tebyg i'r llifeiriant a geir, mewn cymhariaeth, heddiw.

Dau benllanw fyddai yna, yr Eisteddfod a'r Nadolig a llawer o lyfrau'r Nadolig ond yn cyrraedd y siopau ddiwrnod neu ddau cyn yr Å´yl - weithiau, ddyddiau wedi'r Wyl.

Gwnaeth Arianwen Parry fwy na neb i gael cyhoeddwyr at eu coed a chael y llyfrau i'w siop mewn da bryd i'w gwerthu.

Sefydlodd y Siop Llyfrau Cymraeg gyda'i gŵr, Dafydd, a adawodd hefyd ei farc ar y diwydiant llyfrau - yn fwyaf arbennig gyda'i gyfres o lyfrau antur i blant gyda phlant yn brif gymeriadau, Cyfres y Llewod.

Cynt bu'n gwerthu llyfrau Cymraeg ym Marchnad Llanrwst ac o gefn fan.

Daeth y siop yn enwog drwy Gymru a phan oeddwn innau'n sefydlu dalen gyfan i drafod llyfrau yn Y Cymro yr oedd Arianwen Parry yn un a fyddai'n cyfrannu'n ddifeth wybodaeth tuag at lunio siart wythnosol o werthwyr gorau.

Rhaid cyfaddef nad oedd hi'n rhestr oedd yn newid yn aml iawn gan mai tenau fyddai'r niferoedd o lyfrau newydd rhwng y ddau benllanw .

Ond rhai a fentrodd fel y gwnaeth hi fu'n allweddol i newid pethau a chryfhau'r diwydiant a pherswadio eraill i fentro mewn trefi eraill nes i siopau llyfrau Cymraeg ddod yn bethau cyffredin iawn.

Ei merch Gwawr ddaeth i redeg y siop wedyn fel 'Bys a Bawd' ac fe'i trosglwyddwyd wedyn i'r perchennog presennol, Dwynwen Berry.

"Rydw i wedi bod yn Bys a Bawd ers bron i dair blynedd bellach ac yn ystod yr amser yna wedi dod hyd yn oed yn fwy ymwybodol o'r weledigaeth oedd gan Arianwen a Dafydd Parry i sefydlu'r busnes yn y lIe cyntaf," meddai hi mewn erthygl yn rhifyn diweddar y papur bro.

A phwy well i gyflwyno ei gwobr haeddiannol i Arianwen yn yr Å´yl na Gwerfyl Pierce Jones a fu'n bennaeth y Cyngor Llyfrau yn ystod y blynyddoedd o dwf a chynnydd.

Ac ni ddylai fod yn syndod i neb ychwaith mai pennaf symbylydd y digwyddiad blynyddol Bedwen Lyfrau yw mab Arianwen a Dafydd, Myrddin, a ddaeth dros y blynyddoedd un o gyhoeddwyr prysuraf Cymru ers cychwyn Gwasg Carreg Gwalch yn Chwefror 1981.

´óÏó´«Ã½ iD

Llywio drwy’r ´óÏó´«Ã½

´óÏó´«Ã½ © 2014 Nid yw'r ´óÏó´«Ã½ yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.