Dyddiadur Nia: dydd Iau
- Yn cyfarfod pobl gefn llwyfan i ´óÏó´«Ã½ Radio Cymru mae Nia Lloyd Jones. Yn ystod yr wythnos bu'n rhannu ei phrofiadau ar blog 'Cylchgrawn'.
Dydd Iau
Mae 'na gydweithio hapus iawn gefn llwyfan - a dwi'n ddiolchgar iawn i'r criw lluniau - Arwyn Herald a Tegwyn a Gwynfor sydd yn gwirfoddoli hefo'r Urdd am fod mor barod i fy helpu i gadw trefn ar y cystadleuwyr!
Diwrnod da eto ac un o'r rhai cynta imi gael sgwrs hefo fo oedd Ifan o Ysgol Dyffryn Teifi.
Fe gawson ni sgwrs ddoe pryd gwnaeth o gyfaddef ar yr awyr bod ganddo gariad ac fe ddaeth yn ei ôl heddiw i ddweud bod Mamgu rŵan yn gwybod am y ddynes arall yn ei fywyd!
Sori Ifan!
Pianydd gwych
Dw i'n teimlo bod nifer o'r cystadleuwyr 'ma yn ffrindiau da imi erbyn hyn ac roedd hi'n braf iawn cael sgwrs unwaith eto eleni hefo Ifan Jenkin o Ysgol Gyfun Llanhari - oedd yn cystadlu ar yr unawd piano blwyddyn 7-9.
Mae o'n bianydd gwych ac newydd ymuno â pharti bechgyn newydd dan ofal Tim Rhys Evans - sef Only Boys Aloud.
Mae'n debyg y byddan nhw'n perfformio yn yr Eisteddfod Genedlathol eleni.
I Broadway
Roedd Geraint Llyr Owen o Gaerdydd yn yr un gystadleuaeth. Roedd o ar You Tube yn ddiweddar ac o ganlyniad i hynny fe fuodd o draw yn canu ar Broadway!
Roedd Iwan Davies o Ysgol Gyfun Rhydywaun yn cystadlu ar y llefaru unigol blwyddyn 7-9. Sôn am gymeriad!
Mae o hefyd wedi cael gyrfa lewyrchus ac wedi bod yn ymddangos yn The Sound of Music hefo Connie Fisher a theithio o gwmpas Prydain.
Daeth yr yrfa honno i ben am y tro ond mae o'n dal ar Pobl y Cwm fel 'extra' yn achlysurol.
Nyrsio buwch!
Enlli Eluned Lewis o Ysgol Bro Myrddin ddaeth i'r brig er ei bod yn wyrth iddi fedru codi'n ddigon cynnar i ddod i'r rhagbrawf bore ma.
Aeth hi ddim i'w gwely tan yn hwyr iawn neithiwr oherwydd bod un o'r gwartheg adref ar y fferm yn sâl ac Enlli druan yn ceisio helpu ei thad i edrych ar ei hôl.
Un arall sydd wedi arfer perfformio ar lwyfan mawr ydi Ben Roe o Ysgol Gyfun Gŵyr.
Fe fuo'n perfformio ar lwyfan y Grand yn Abertawe mewn cynhyrchiad o Billy Elliot.
Cwyno am y gwres tanbaid oedd o heddiw, a'r ffaith ei fod o wedi gorfod newid tua phum gwaith o'i wisg ysgol i'w drowsus cwta!