´óÏó´«Ã½

« Blaenorol | Hafan | Nesaf »

Dyddiau dyrys

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü: ,Ìý

Glyn Evans | 20:34, Dydd Mawrth, 29 Mehefin 2010

Tybed a yw'r rhai sy'n rhedeg Theatr Genedlaethol Cymru yn teimlo drafft oer ar eu gwegil ac o amgylch eu traed heno yn sgil cyhoeddi'n gtynharach heddiw Cyngor Celfyddydau Cymru?

Fu'r cwmni ddim heb ei feirniaid ers ei sefydlu a dydi Cyngor y Celfyddydau ychwaith ddim beth fyddech chi'n ei alw yn wresog ei ganmoliaeth iddo ychwaith nac yn rhoi sêl ei fendith yn llwyr arno.

Dyma sydd ganddo i'w ddweud:

"Roedd rhaid manteisio ar y newidiadau mewn staff yn Theatr Genedlaethol Cymru, ochr yn ochr â'n Hadolygiad Buddsoddi, fel cyfle i gynnal adolygiad cynhwysfawr. Mae'r cwmni yn rhan hanfodol o fywyd diwylliannol Cymru ond, ar wahân i eithriadau amlwg, nid ydyw wedi bodloni disgwyliadau o ran cysondeb ei gynyrchiadau yn ddigon aml.

"Ar ôl trafod gyda Chyngor y Celfyddydau, mae'r Theatr Genedlaethol yn cynnal ac yn arwain proses adolygu manwl. Rhaid i'r adolygiad lwyddo ac mae brys ar gyflawni'r gwaith hwn. Rydym am i'r cwmni ein hargyhoeddi bod modd creu model bywiog, nerthol a chynaliadwy."

Dim pwysau yn fanna fel byddan nhw'n dweud!

Ni all rhywun ond gobeithio fod rhai o fewn y cwmni theatr yn meddu ar weledigaeth ac arweiniad nid yn unig i lywio'r cwmni tuag at y dyfodol ond hefyd i argyhoeddi Cyngor y Celfyddydau y bydd yn werth parhau i fuddsoddi'n sylweddol ynddo.

Nosweithiau digwsg i Ioan Williams y cadeirydd a'i gyd fforddolion dramatig ddywedwn i.

Corff arall sy'n siŵr o fod yn teimlo'r drafft ar ei wegil ydi'r Academi achos dyma ddywedir am y corff hwnnw:

"Mae Academi yn rheoli rhaglen estynedig o ddatblygu Llenyddiaeth ar ran Cyngor y Celfyddydau. Fodd bynnag, rydym yn ariannu tri sefydliad Llenyddiaeth arall yn uniongyrchol. Mae angen dull clir, un ffordd strategol o fynd ati a byddwn yn gosod hyn allan mewn cytundeb partneriaethol newydd."

Mmmm.
Digon o waith darllen rhwng llinellau fan yna.

´óÏó´«Ã½ iD

Llywio drwy’r ´óÏó´«Ã½

´óÏó´«Ã½ © 2014 Nid yw'r ´óÏó´«Ã½ yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.