´óÏó´«Ã½

« Blaenorol | Hafan | Nesaf »

Siorts orau

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü: ,Ìý

Glyn Evans | 08:38, Dydd Sul, 4 Gorffennaf 2010

Etifeddodd yr Archdderwydd newydd fwy nag oedd o'n ei ddisgwyl yn seremoni cyhoeddi Eisteddfod Genedlaethol Wrecsam 2011 ddoe.

Yn ogystal a throsglwyddo i T James Jones goron, modrwy a theyrnwialen yr Archdderwydd trosglwyddodd y dirprwy Archdderwydd Selwyn Iolen iddo ei siorts hefyd!

Y siorts fel y datgelwyd hwy gyntaf yn 2005
Daeth siorts Selwyn Iolen yn adnabyddus i'r byd pan ddatgelwyd hwy yn haul llygaid goleuni y wefan hon pan ymgymerodd Selwyn a'i ddyletswydd archdderwyddol yn Eisteddfod Genedlaethol Eryri ar Barc y Faenol 2005.

Wrth fynd rhagddo i urddo T James Jones yn Archdderwydd newydd bnawn ddoe datgelodd Selwyn o'r Maen Llog:

"Mae o wedi gofyn am un ffafr i mi ac yr ydw i wedi bod yn ystyried y ffafr honno o ddifrif," meddai.

"Be ddwedodd o wrthyf i ar ôl cael ei ddewis yn Archdderwydd , 'Selwyn,' medda fo, 'oes na bosib cael benthyca'r siorts?'

"Ac mae'r rhai ohona chi sy'n newid yn y stafelloedd na yn gwybod mai'r nesaf peth i ddim sydd gen i dan y wisg yma ac fe fûm i'n hir ystyried hyn ac mi benderfynais yn y diwedd y byddwn i yn eu rhoi nhw fel anrheg i'r Archdderwydd newydd.

"Ond mae yna amod, ei fod yntau hefyd , pan ddaw ei dymor i ben mewn tair blynedd yn eu trosglwyddo nhw i'w olynydd yntau yr adeg honno."

Yn ystod ei araith ef ymateb yr Archdderwydd newydd i'r cyhoeddiad annisgwyl oedd:

"Diolch hefyd am y siorts - ac rwy'n addo eu gwisgo nhw rhywbryd."

Yn anffodus i rai - ond yn ffodus i eraill siŵr o fod - nid aeth y ddau ymlaen i gyfnewid siorts yn gyhoeddus ar y Maen Llog ddoe - er i rywun o'r gynulleidfa weiddi i awgrymu hynny.

Ni all rhywun ond dyfalu beth fyddai Cynan wedi ei wneud o hyn oll . . .

´óÏó´«Ã½ iD

Llywio drwy’r ´óÏó´«Ã½

´óÏó´«Ã½ © 2014 Nid yw'r ´óÏó´«Ã½ yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.